2020
|
'Siwan, ’sgen ti ddim traethawd i’w neud erbyn erbyn pnawn fory?' holodd Mam yn ei llais cwynfanllyd arferol.
Heb godi fy mhen o’m ffôn atebais yn ddiog, ‘’Dw i ’di orffen o’n barod.' Bydd yr ateb swta hwn yn ei phlesio, meddyliais, ac yn dangos i Mam ’mod wedi gweithio’n galed trwy’r wythnos ac yn haeddu ychydig o lonydd. 'Wel os felly mi gei di wneud swper i’r trŵps heno. Ma’ dy dad a finna’n dal i orfod gweithio cofia, nid pawb sy’n cael llaesu dwylo fel chi stiwdants.' Eisteddais wrth fwrdd y gegin gan ddal i sgrolio drwy lun ar ôl llun o barciau a choedwigoedd ar Instergram. Fel petai’r lockdown ’ma ddim digon diflas a finna’n byw mewn tre brysur heb fawr ddim llefydd difyr i fynd am dro ynddi, rŵan mae pob Tom, Dic a Hari’n benderfynol o adael i’r byd a’r betws wybod llefydd mor hyfryd ydi eu cartref nhw, gyda’r captions cyfoglyd 'caru lle dwi’n byw #diolchgar #cefngwlad'. Da iawn ti, Carys, ond tydi llun arall o Sir Fôn ddim am godi ’nghalon i. Meddyliais wedyn faint roedden nhw wedi gorfod ei dalu am dacsis dros y blynyddoedd, a chododd hynny fy nghalon. Wedi’r cyfan, mi fasa’n well gen i allu cerdded i dafarn mewn llai na phum munud nag i ben mynydd. Ro’n i wedi anghofio’n llwyr fod Mam yn dal i hofran uwch fy mhen yn disgwyl am ateb nes i mi glywed ei llais yn ailadrodd fy enw a sylwi arni’n chwifio’i breichiau’n araf o’m blaen fel tasa hi’n trio fy neffro o ‘drans’. 'Sori be’ ddeudoch chi, Mam?' 'O anghofia fo, Siwan. Ti’n gwrando dim nac wyt. Ma’ dy ben di yn y blincin ffôn ’na o hyd, ac elli di ddim hyd yn oed cynnal sgwrs am bum munud heb golli diddordeb.’ Roedd ’na olwg reit filain ar ei hwyneb wrth iddi agor drws yr oergell ac estyn am nionyn, pupur coch, a moronen. Penderfynais mai gwell fyddai anwybyddu ei sylwadau a dechrau sgwrs newydd; fyddai ateb yn ôl ond yn arwain at ffrae, a doedd dim diben ffraeo a ninnau dan glo. Fyddai cerdded allan a chau’r drws yn glep ar fy ôl ddim yn gweithio mor dda a finna heb unman i fynd. Beth bynnag, ro’n i wedi bod am fy nhro dyddiol rownd y bloc yn barod, felly mewn gwirionedd byddai cerdded allan yn dor cyfraith. Ystyriais y peth am eiliad, cyn edrych ar fy adlewyrchiad yn ffenest y gegin. Byddai’r stryd i gyd yn siŵr o sylwi arna i’n ymlwybro heibio; fy ngwallt wedi ei glymu fel pinafal ar fy mhen, ond y rhai rhad o’r adran wonky yn y siop, ac yn gwisgo hen siwmper gadael ysgol oren gyda thwll mawr yn y boced flaen a’r enwau ar y cefn yn prysur syrthio i ffwrdd. Y goron ar y cyfan oedd y trywsus pyjamas streipiog coch a gwyn a oedd yn gwneud imi ymdebygu i gorrach. Na, gwell fyddai aros; fyddai Dafydd drws nesa ddim chwinciad yn fy reportio i, ac anodd gwybod am be’ – torri rheolau’r lockdown, neu ffasiwn. Gofynnais yn gwrtais, yn y gobaith o newid y sgwrs: 'Be’ ti’n neud i swper heno ta?' Dyna gamgymeriad os buodd yna un erioed. Bron bod Mam yr un lliw â’r pupur roedd hi ar ganol ei dorri ond llwyddodd i beidio ag ildio i’r demtasiwn o daflu’r hanner pupur a oedd ar ôl ar y llawr. 'Cer i fyny o ’ngolwg i nei di Siw, sgen i ddim o dy eisiau di’n eistedd wrth y bwrdd ’na fel brenhines, yn fy ngwylio i’n slafio yn y gegin ’ma, heb feddwl helpu, a finna efo cant a mil o bethau eraill yn galw. Ti wastad yn disgwyl cael y cyfan ar blât.' Roedd tôn ei llais yn ddigon i ddangos ei bod hi’n flin eithriadol, ond yn rhy broffesiynol i weiddi. Diolch byth nad o’n i’n un o’i disgyblion ysgol. Un fel ’na ydi Mam, tydi hi byth yn ei cholli hi fel Dad, ac, a dweud y gwir, anaml mae hi’n gwylltio o gwbl os nad ydi rhywun wirioneddol wedi codi’i gwrychyn hi. Dyna pam roeddwn i wedi drysu gymaint. Yndi mae’n siŵr fod gwneud bwyd a llnau ar ein holau ni bob diwrnod yn straen weithiau, ond dim ond cymryd diddordeb oeddwn i. Mae hi wrth ei bodd yn sôn am goginio fel arfer. Penderfynais wrando’n ufudd a gwneud fy ffordd yn dawel i’m llofft; wedi’r cyfan mae’r lockdown yma’n dweud arnom ni gyd tydi, ac mae pawb angen gollwng stêm weithiau am wn i. Gorweddais ar fy ngwely yn sgrolio trwy Twitter am sbel; gwenais ar ambell jôc a oedd yn gwneud hwyl o’r sefyllfa absẃrd rydym ni ynddi gan sobri wedyn wrth ddarllen y bwletinau newyddion a’r ffigurau brawychus diweddaraf a oedd wedi cael eu gosod mewn graffiau taclus. Roeddwn ar fin rhoi fy ffôn i lawr ac estyn am y llyfr roeddwn i ar ei hanner pan glywais Dad yn cyrraedd adref o’r gwaith. Rhoddodd ei ben trwy ddrws fy ystafell wrth gerdded heibio ac ebychu: ‘O Siwan, rwyt ti ar fai yn gadael dy stafell fel cwt mochyn fel hyn.’ Cododd ei ben o’r pentwr dillad oedd ar y llawr ac edrych arna i, ‘Yr holl blydi dillad ’ma a ti dal yn dy byjamas am chwarter wedi pump, newidia cyn swper wnei di.’ Yn rhy ddiog i ateb yn ôl a dal fy nhir, atebais mewn llais caredig a chwrtais, ‘Iawn, sori Dad, mi wna i llnau a newid rŵan.’ Er na chefais ateb, mi wenodd a chau’r drws ar ei ôl. Haleliwia, meddyliais, gan suddo’n ddyfnach o dan gwilt y gwely, a chicio’r llyfr i’r llawr. Wrth orwedd yno, hiraethais am y coleg, ac am gael gwneud pethau yn fy ffordd i, heb ryw lais yn rhefru arna i bob munud. Ofynnodd neb i Dad am ei farn ar gyflwr fy stafell, ac os ydi hi’n flêr, wel dyna ni, trist iawn, feri sad, ond fi sy’n gorfod cysgu ynddi, ac felly fi sy’n cael dewis sut olwg sydd arni. Rhoddais fy mhen ar y glustog a gorwedd, fy llygaid ar gau, mewn rhyw le rhwng cwsg ac effro. Gorweddais yno tan i mi glywed Bedwyr yn gweiddi: ‘Siwaaan, Maarthaa, Daad, ma’ bwyd yn barod.’ Sbageti oedd Mam wedi ei wneud, a bu bron i Dad gychwyn Trydydd Rhyfel Byd yn meiddio cwyno fod well ganddo fo tsili, a thywallt llwyth o finegr ar y bwyd gan ddweud ei fod yn ddi-flas. Ond buan y cododd Bedwyr hwyliau Mam, gan ddatgan ei fod o wedi dysgu heddiw na all merch fod yn darw; ‘Wyddoch chi mai dim ond buwch hogyn all fod yn darw?’ meddai a golwg syn ar ei wyneb. Roedd chwerthin yn llenwi’r gegin, a phawb yn methu deall sut mai dim ond rŵan, yn bymtheg mlwydd oed, roedd o’n sylweddoli’r ffaith syfrdanol hon. Codais gan gofio fod Llinos wedi trefnu cwis, a gweiddais yn bryfoclyd o dop y grisiau: ‘Mae angen i’r ysgolion agor ASAP, neu mi fydd Bedwyr ’ma di colli pob gronyn o synnwyr cyffredin sy’n perthyn iddo.’ Cyrhaeddais fy ystafell yn dal i glywed sŵn chwerthin yn dod o’r gegin. * * * Eisteddais yn teimlo’n eithaf bodlon efo fi fy hun, wrth i ganlyniadau’r cwis gael eu datgan. Fi enillodd, ond a phob tegwch i weddill y genod, roedd gen i fantais a finna wedi cael cwis bron i dair gwaith yr wythnos ers canol mis Mawrth – un efo ffrindiau ysgol, un efo ffrindiau coleg, a’r cwis teuluol bob nos Sadwrn. ’Dw i’n diawlio pwy bynnag benderfynodd mai be’ oedd ei angen ar bobl mewn argyfwng byd-eang oedd cael eu gwneud i deimlo’n ddwl am nad oedden nhw’n gwybod pa fand Cymraeg wedi ei gyfieithu i’r Almaeneg ydi Rote Nasen, ac os ydi Azawakh yn fath o gi neu gaws. Roedd hi’n un-ar-ddeg o’r gloch y nos a phawb yn siarad am eu diwrnod ac am straen byw adra, pan ddaeth Mam i mewn a sibrwd: ‘Siw, ti’n meindio diffodd hwnna rŵan, ma’ dy Dad a finna wedi ymlâdd.’ Nodiais fy mhen, ac egluro i’m ffrindiau fy mod i wedi blino ac yn teimlo cur pen yn codi. Cyn diffodd y golau bach edrychais ar fy ffôn. Agorais Snapchat a gweld llun mawr ohona i a thair o’m ffrindiau o’r ysgol yn dathlu diwedd arholiadau lefel A dan y teitl '2 years ago today'. Rhoddais dap i’r sgrin i fynd ymlaen a gweld llun arall o bawb o’r flwyddyn gyntaf yn sefyll ar y Prom yn eu dillad gorau, gyda’r teitl 'am flwyddyn' a '1 year ago today'. Mentrais roi tap arall i’r sgrin a chefais fy hebrwng i’r camera a’r geiriau 'what are you doing on this day in 2020?'. Trwy’r ffôn gwelais fy adlewyrchiad yn y drych yn gorwedd yn fy ngwely am un-ar-ddeg ar noson braf ym mis Mai a finna ’mond yn ugain oed. Blynyddoedd gorau dy fywyd meddan nhw. Wfftiais. Yr unig dda sydd wedi dod o 2020 ydi fy mod i’n siŵr o ennill miliynau ar ryw raglen gwis ar ôl yr holl ymarfer ’dw i wedi ei gael. Rhoddais y ffôn i lawr a diffodd y golau. Blydi Snapchat Memories meddyliais, cyn troi ar fy ochr a chysgu. |