Palu Tyllau
|
Roedd Ceitho yn ymwybodol iawn ei bod hi’n ei wylio o hyd.
Roedd hi’n mynnu rhacso’i wely blodau o hyd. Dial arno, er nad oedd e wedi gwneud dim o’i le. Byddai unrhyw arddwr cyffredin wedi hen syrffedu ar y dasg lafurus o osod ac yna ailosod y blodau yn ôl yn eu priod le yn y pridd. Roedd hi’n ddefod wythnosol bellach, a’r hen wrach yn ei llecyn arferol yn gwylio’r sioe, a’i llygaid yn llosgi i’w isymwybod. Yn ei gwrcwd, rhegai dan ei wynt wrth ailosod y pridd. Roedd hi’n palu’n ddyfnach bob tro... roedd Ceitho’n dechrau poeni am y peth. Edrychai ar wreiddiau ei annwyl flodau, yn estyn am eu tad, yn ymbil am help. Doedd yr holl gyffro ddim yn dda i’r blodau, ddim yn dda o gwbl. Ymdebygai ei wely blodau i faes brwydr. Gorweddai’r blodau’n gelain, eu gwythiennau ar led a’u pennau petalog yn syllu i’r nefoedd. Achubodd Ceitho ambell un, ond bu’n rhaid i’r gweddill ddiflannu i ddyfnder y bin compost. Ac roedd hi’n mynnu ei alw e’n llofrudd. Llofrudd. Roedd cyhuddiadau di-ben-draw Gwawr yn dechrau troi yn ei feddwl. Ai llofrudd ydoedd? Na. Oni fyddai ei gydwybod yn ei bigo a’i boenydio’n ddyddiol petai wedi lladd rhywun? Chwerthin a wnaeth, pan fu raid iddo fynychu cyfarfod gyda Rheolwraig y Stad ynglŷn â’r cyhuddiadau. ‘I never thought an intelligent woman such as yourself would believe a rambling old woman,’dywedodd wrthi’r adeg hynny, a chochodd honno at ei chlustiau. Roedd Ceitho wedi clywed y gweithiwyr eraill yn cwyno am y Rheolwraig droeon – yn ceintachu ei bod hi’n hen ast ddideimlad – ond rhyw ffordd, llwyddodd ef i gydio yn ei theimladau, a chyn diwedd y cyfarfod deng munud, roedd wedi gafael ynddi a’i thylino i holl siapiau ei ddyheadau yntau. Roedd hi wedi cochi hyd yn oed yn fwy wedyn! Un arall o’r rhestr faith o ferched roedd wedi llwyddo i’w swyno. Doedd hi’n sicr ddim yn mynd i gredu’r ast ddiawledig ’na, a doedd neb arall yn mynd i wrando ar fwydro honna chwaith. Roedd e’n ddiogel, ac yn ddiniwed – am y tro. Rhoddodd bip ar ei oriawr. Tri o’r gloch, o’r diwedd. Gadawodd ei daclau garddio yn y fan a’r lle. Roedd hi’n hen bryd mynd am egwyl fach. Aeth at y sied offer, ac yno gallai esgus twrio am ryw dwlsyn, esgus ei fod am ddianc o wynt miniog y gaeaf a chynhesu dipyn. Roedd yn gyfle iddo guddio rhag ei llygaid craff hi. Roedd Gwawr yn dal yn ei phriod le wrth y ffens, ei llygaid wedi ei chwyddo gan y binociwlars anferthol, yn gwneud dim ond syllu arno. Roedd hi’n chwilio am dystiolaeth. Byddai’n fodlon ar unrhyw esgus i’w gyhuddo eto. Ysgydwodd Ceitho ei ben. Druan. Roedd hi hyd yn oed wedi galw’r heddlu cyn hyn. Bu’n rhaid iddo fynd i lawr i’r orsaf a cheisio argyhoeddi rhyw ionc o dditectif ei fod yn ddieuog. Er i Gwawr fod yn chwilio ers misoedd, doedd yna ddim tystiolaeth ei fod yn llofrudd. Doedd e ddim yn llofrudd. Mewn rhyw ffordd, roedd wedi dechrau dod i arfer â’i phresenoldeb hi wrth iddo weithio. Roedd hi’n goruchwylio pob hedyn a blannai, pob chwynnyn a chwynai. Roedd hi, fel y gwnâi’r foment honno, yn gwylio pob egwyl answyddogol a gymerai y tu ôl i’r sied offer, a chredai Ceitho ei bod hi hyd yn oed wedi dechrau nodi pob ymwelydd a ddôi yno ato. Roedd Ceitho’n disgwyl rhywun y diwrnod hwnnw hefyd. Twriodd yn ei boced, a gafael yn ei ffags. Cododd un at ei wefusau, a’i thanio. Doedd dim un cusan mor felys â blas chwerw ei sigarennau. Twymodd ei ysgyfaint, diolch i’r tar a’r nicotin oedd yn y mwg drwg. Gwyddai ei bod hi yno yn ei feirniadu. O wel, twll ei thin hi. Gallai ei gyhuddo tan ailddyfodiad Iesu Grist, ond ni fyddai neb call yn ei chredu. Reit... meddyliodd pa dwlsyn y gallai esgus chwilio amdano. Doedd y menywod ddim callach pa arfau roedd yn eu defnyddio yn rhan o’i waith. Cymerodd ddracht hir arall o’i sigarét... a dyma flonden yn ymddangos, a hithau’n camu ar flaenau ei thraed tuag ato. Roedd hi’n gwisgo cot goch lachar, a sodlau uchel a suddai i mewn i’r môr o laswellt gwlyb. Ochneidiodd. I ddechrau, roedd hi’n sarnu ei lawnt berffaith ef, ac roedd ef eisoes wedi dweud wrthi am ddod drwy’r giât gefn, er mwyn cadw’r peth yn dawel. ‘Hey baby!’ gwichiodd hithau. Wel, nid oedd wedi ei dewis am ei phersonoliaeth gall a chlyfar, felly doedd wiw iddo ddweud y drefn wrthi. Dychmygai afael yn y bronnau mawrion a guddiai o dan ei chot, a bu bron iddo redeg tuag ati yn y fan a’r lle. Ond na... nid dyna’r ffordd i’w trin nhw. Doedd merched ddim yn haeddu’r un gofal ag a gâi ei flodau. Ni ffwdanodd Ceitho ateb ei chyfarchiad o gwbl. Doedd dim angen iddo. Roedd hi’n gaeth i gyffur ei garisma dirgel, ac roedd hi eisoes wedi rhuthro heibio iddo (gymaint ag y gallai yn ei sodlau anferthol) ac wedi dechrau diosg ei dillad yn y sied. Arhosodd Ceitho tan iddo orffen ei sigarét. Doedd dim angen iddo frysio. Sugnodd honno yn araf, gan fwynhau un cusan canseraidd arall, cyn ei gorffen a’i thaflu ar lawr. Claddodd honno dan sawdl un o’i fŵts trwm. Cymerodd un cipolwg cyflym i gyfeiriad Gwawr. Roedd hi’n dal i’w wylio... druan ohoni. Doedd ganddi ddim byd gwell i'w wneud, bosib. Roedd hi wedi camgymryd ei chwant am ryw fath o gariad. Ac yntau wedi rhannu cyfrinach â hi yn ystod eiliad wan. Wfft. Doedd dim tystiolaeth. Dim byd ond ei gair hi. A doedd neb call yn mynd i wrando ar hwnnw. Ymunodd Ceitho â’r ferch yn y sied. Clodd y drws ar ei ôl, a manteisio’n llwyr ar y pleserau cnawdol roedd hi’n eu cynnig iddo - gan wybod yn iawn fod y brunetteyn dod i ymweld ag ef yfory. Na, nid llofrudd mohono. Camgymeriad oedd hi. Gwawr, hynny yw. Damwain oedd beth ddigwyddodd i Alys. |