Cwrs Preswyl Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Bob haf, cynhelir Cwrs Preswyl yr Adran ar gyfer disgyblion ysgol Cymraeg blwyddyn 12 ar gampws y Brifysgol yn Aberystwyth. Darperir rhaglen wych o sesiynau amrywiol ar wahanol agweddau ar y cwricwlwm Safon Uwch gan aelodau o staff yr Adran, awduron ac arbenigwyr eraill. At hynny, darperir llety, swper a brecwast yn Neuadd Pantycelyn, ynghyd ag adloniant gyda'r hwyr.
Cynhelir Cwrs Preswyl 2023 ddydd Iau a dydd Gwener 6–7 Gorffennaf. Os hoffech archebu lle ar y cwrs, llenwch y ffurflen ar lein isod. Bydd mwy o fanylion yn cael eu hanfon atoch maes o law. |