ystamp.cymru
|
Ar 23 Mawrth yn nhafarn y Cŵps lansiwyd y rhifyn papur cyntaf o e-gylchgrawn newydd Y Stamp. Dyma gywydd a ddarllenwyd y noson honno i ddymuno’n dda i bedwar golygydd y cylchgrawn – Grug Muse, Llŷr Titus a dau o fyfyrwyr yr Adran, Miriam Elin Jones ac Iestyn Tyne – ac i annog pawb i anfon eu gwaith atyn nhw whap!
Ers saith mlynedd bu cleddyf Angau argylchgronau’n gryf, Troi miloedd yn bunnoedd bach, Torri grantiau rhy grintach, Ac yn fisol didolir Rhyw un teitl i’w roi’n y tir … Ond daw sŵn, ac mae’n dwysáu, I grynu dan gylchgronau, Dan esgidiau’n ysgydwad, Yn towlu’r wledd, ratlo’r wlad, Sŵn clamp o STAMP nos a dydd, Cic i’r ŵyl, cracio’r welydd. Os marw’r hen elw i ni, Yma ar lein mae’r aileni, Felly rho, gyfaill, le rhydd I’r wefan yn dy grefydd, Rho dy lein i’r dalennau, Rho stori i ni ei mwynhau, Rho dy stamp direidus di Dy hun ar y dadeni. |