Sul y Cofio
|
Gwisg dy babi coch yn falch ar dy frest
Canran fechan o'r cochni ar lawr. Heidia ar yr awr, dangosa dy barch Dan guddfan dy got fawr a’th ymbarél Rhag trawiad y gwynt a’r glaw, Clyw’r tangnefedd ffrwydrol. Cyfnewid sgrechfeydd hiraethus Am dy fywyd moethus; Cyfraniad ugain ceiniog, A chadw i gerdded. Cerdded. Coesau. Colled. Eu haberth nhw, Dy eiddilwch di. Yn angof ni chânt fod Canys y pabi coch A chenhedlaeth sy’n ofni beirniadaeth Nid rhyfel. |