Sgwrs â'r nofelydd Caryl Lewis
|
Awdur Cymraeg llawn amser yw Caryl Lewis ac fe’i magwyd ar fferm deuluol Ffosdwn yn Nihewyd. Mynychodd Ysgol Gynradd Aberaeron ac Ysgol Gyfun Aberaeron ac yna aeth i Brifysgol Durham cyn dychwelyd i Gymru i dderbyn gradd uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl graddio derbyniodd swydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Cymru Tŷ Newydd a’'r Academi Gymreig ac yna bu’n gweithio am ychydig ym myd y cysylltiadau cyhoeddus. Yn 2003 cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion ifanc sef Dal hi!, a blwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddodd y llyfr Iawn boi?yn bennaf ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ac fe lwyddodd y llyfr hwn i ennill Gwobr Tir na n-Og yn 2004. Cyhoeddodd Y Lolfa un o lyfrau enwocaf Caryl Lewis yn Nhachwedd 2004 sef Martha, Jac a Sianco. Nofel sydd wedi ei lleoli yng nghefn gwlad Ceredigion yw hon ac sy’n canolbwyntio ar fywyd dau frawd a’u chwaer. Yn 2005 enillodd y nofel hon wobr Llyfr y Flwyddyn ac fe’i haddaswyd i’r Saesneg ynghyd â chreu ffilm Gymraeg ohoni. Mae’r gweithiau a gyhoeddwyd gan Caryl ers 2004 yn niferus, boed ar gyfer oedolion neu blant, a chafodd ei nofel Y Gemyddei chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2008. Cyhoeddodd ei degfed nofel yn 2015 sef Y Bwthyna dyma ddisgrifiad Manon Steffan Ros o’r nofel, ‘Mae Caryl Lewis ar ei gorau yn y nofel rymus hon.’
A oedd gennych ddiddordeb mewn ysgrifennu yn gynnar yn eich bywyd? Roeddwn i’n hoff iawn o ddarllen ond dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig meithrin diddordeb mewn amrywiaeth o bethau er mwyn cael gwahanol brofiadau. Beth sydd orau gennych, ysgrifennu nofelau dwys ar gyfer oedolion neu lyfrau ysgafn ar gyfer plant? Dwi wedi ysgrifennu nofelau mwy ysgafn ar gyfer oedolion, a dwi wedi ysgrifennu drama am farwolaeth i blant bach. Dwi’m yn meddwl ei bod hi’n bosib rhannu’r llon a’r lleddf. Ai ennill Gwobr Tir na n-Og yn 2004 yw un o brif lwyddiannau eich gyrfa fel nofelydd? Mae gwobr Tir na n-Og yn bwysig iawn er mwyn hyrwyddo llyfrau plant. Wedi dweud hynny, dwi’n meddwl mai ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn am yr eilwaith llynedd am Y Bwthynyw’r pinacl hyd yn hyn. Heb os, ystyriaf y nofel Martha, Jac a Siancofel eich prif gampwaith. A fyddech yn cytuno? Dwi’m yn meddwl y gwnei di ddarganfod un awdur ar y ddaear yma sy’n meddwl eu bod wedi creu campwaith! Sut deimlad oedd hi pan gafodd y llyfr hwn ei gyfieithu i’r Saesneg a'i addasu fel ffilm deledu? Fi wnaeth ysgrifennu sgript y ffilm felly roedd hynny yn broses ddiddorol. Roedd gweld y nofel yn cael ei chyfieithu yn golygu bod ganddi gynulleidfa ehangach. A ydych wedi ystyried cyhoeddi hunangofiant? Naddo. Dwi’n ysgrifennu nofelau. Y rheini yw record fy mywyd … A oes rhywun wedi bod yn ddylanwad mawr arnoch yn ystod eich gyrfa? Dwi’n hoff iawn o waith yr enwog Thomas Hardy. Beth yw eich barn chi ynglŷn â nifer y llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi yn flynyddol, ac a oes yna ddigon yn cael eu cyhoeddi? Oes, credaf fod yna ddigon o lyfrau yn cael eu cyhoeddi yn flynyddol yng Nghymru ar gyfer plant ac oedolion. Petasech yn cael cynnig gwneud unrhyw swydd sy’n wahanol i’r hyn rydych yn ei wneud nawr, beth fyddai eich dewis? Mi fyddwn wrth fy modd yn cyflawni’r gwaith o fod yn filfeddyg. A oes yna waith cyffrous arall ar y gorwel ar gyfer plant neu oedolion? Dwi’n gweithio ar gyfres deledu ar hyn o bryd. Dwi hefyd yn gweithio eto efo Valériane Leblond ar gyfer plant bach. |