Gwyn
|
Dyma ni, wedi ein hel yn un haid o ymbarelau,
yn astudio’n hesgidiau. Heibio’r dafarn, a Bryn y Bedd yn bererindod bell heddiw. Gwibia’r ceir, a’n gwthio at y gwrychoedd. ‘O’r pridd i’r pridd’, â rhai dan do’r gasebo, a phawb yn cofio amdano. Hel meddyliau i gyfeiliant dagrau, a’r enwau ar y beddau wedi ein boddi ni’n dau. |