Sgwrs â'r bardd a'r swyddog cyhoeddiadau Elinor Wyn Reynolds
|
Swyddog Cyhoeddiadau a Chynorthwy-ydd Undeb yr Annibynwyr yw Elinor. Fe’i magwyd yng Nghaerfyrddin; mynychodd Ysgol y Dderwen ac Ysgol Bro Myrddin ac yna aeth ymlaen i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe aeth i Goleg yr Iesu yn Rhydychen i barhau â’i hastudiaethau, a bu’n gweithio fel golygydd i Wasg Gomer. Mae Elinor yn caru iaith, darllen ac ysgrifennu. Dywed Elinor, ‘Does dim byd yn well na thudalen blaen o bapur a dechrau ysgrifennu stori.’
Beth wnaethoch chi ar ôl gorffen eich Lefel A? Fe es i astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth ac, ar y pryd, pennaeth y flwyddyn gyntaf oedd Bobi Jones a dwi’n cofio ei ddarlith olaf. Ar ddiwedd y ddarlith olaf fe gyhoeddodd, ‘Ac yn awr i’r cysgodion,’ ac i ffwrdd ag e! Yn y coleg hefyd roedd John Rowlands yn darlithio i mi ar lenyddiaeth yr ugeinfed ganrif a rhaid i mi ddweud mai ef a gafodd y dylanwad mwyaf arna 'i. Fe wnes i ddysgu fod dim byd yn anghywir; roedd e’n derbyn pob math o greadigrwydd. Roedd e’n ein hannog ni i gyd i gymryd diddordeb byw mewn llenyddiaeth. Felly mae fy nyled i’n fawr i lot o bobl, ond yn bennaf i John Rowlands. Beth ydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd yn y wasg? Fy swydd i yng Ngwasg Gomer ar hyn o bryd yw Golygydd Cymraeg i lyfrau oedolion, sy’n golygu fod gen i restr o lyfrau dwi angen eu cyhoeddi, deunaw llyfr mewn blwyddyn, ac mae'n rhaid iddynt fod yn llyfrau gwahanol iawn. Felly mae yna sawl genrerydyn ni’n eu cyhoeddi. Rydym yn cyhoeddi hunangofiannau, nofelau, cyfrolau barddoniaeth, cyfrolau hiwmor, cyfrolau lluniau, cyfrolau ffeithiol, cyfrolau posau, pob math o gyfrolau. Ers pryd ydych chi’n gweithio i’r wasg? Dwi wedi bod yn gweithio i Wasg Gomer ers 2010. Mae wedi bod yn ffantastig achos dwi’n cael y gorau o ddau fyd: dwi’n cael bod yn greadigol, gweithio gyda phobl greadigol, a beth sy’n braf yw galluogi pobl eraill i wireddu eu dyheadau creadigol nhw. Does ’na ddim yn rhoi mwy o bleser i mi na gweld awdur yn cyhoeddi llyfr. Dwi’n gwybod beth yw’r broses o greu llyfr a phan dwi’n gweld llyfr yn dod o’r wasg, mae fel hud a lledrith. Mae gweld llyfr newydd yn dod oddi ar y peiriannau yn rhywbeth anhygoel. Alla ’i ddim ei esbonio fe. Allwch chi ddisgrifio eich diwrnod arferol yn y wasg? Dwi’n credu mai chaosgwyllt yw’r disgrifiad gorau. Yn aml iawn beth dwi’n ei wneud yw delio gyda’r ochr weinyddol. Mi fydda i’n gweithio ar destunau fy hun gydag awduron, gan weithio hefyd ar sawl testun ar yr un pryd sydd i gyd ar wahanol gamau. Dwi nawr yn meddwl am 2019 ac yn ceisio gweld pwy all fod yn cyhoeddi gyda ni. Felly heddi dwi yn y swyddfa ond fory gallwn i fod ar yr heol i fynd i gwrdd ag awdur. Felly mae’n amrywio a dyna beth sy’n braf ynglŷn â’r gwaith. Beth wnaeth eich denu chi at waith golygu? Dwi’n caru darllen a charu sgwennu. Felly dwi’n meddwl fy mod i wastad yn mynd i ddod i fan hyn. Os nad Gwasg Gomer, rhywle arall. Dwi wedi ysgrifennu fy llyfrau fy hunan, dwi wedi gwneud teithiau barddoniaeth o gwmpas Cymru, er enghraifft ‘Dal Clêr’ gyda Menna Elfyn, Sarah Jones ac Ifor ap Glyn. Dwi’n hoffi iaith, dwi’n caru geiriau ac felly, er efallai nad wyf ar hyd fy ngyrfa ddim wedi gweithio yn y llefydd mwyaf creadigol, dwi’n dal i ddefnyddio iaith ac yn mwynhau hynny. Ydych chi’n mwynhau cyfieithu yn fwy na golygu? Y broses greadigol yw’r peth sy’n rhoi pleser i mi. Mae llyfr yn oesol, unwaith mae llyfr yn cael ei gyhoeddi mae e yna, lle mae rhaglen deledu neu raglen radio wedi mynd ar ôl iddi gael ei darlledu. Mae rhywbeth braf iawn mewn gwybod fy mod i, a thîm yr adran gyhoeddi, yn cyfrannu at waddol llenyddol y genedl. Mae hynny yn anhygoel rîli. Mae llenyddiaeth mor bwysig i fywyd a dwi’n cael bod yn rhan o hynny nawr. Dwi mor, mor lwcus. Oes gennych chi hoff fardd neu awdur? Dwi’n hoff iawn o farddoniaeth Iwan Llwyd; dwi'n hoff o gerddi T. H. Parry Williams a Waldo Williams hefyd. Ond mae pawb yn dweud Waldo Williams. Mae yna reswm am hynny siŵr o fod. Mae rhywbeth anhygoel o syml a dwfn am Waldo. Gallwch chi ddeall Waldo ar gymaint o lefelau gwahanol. Dwi hefyd yn hoff iawn o waith Rhys Nicholas. Mae e’n ysgrifennu caneuon telynegol iawn. Roedd e’n olygydd yng Ngwasg Gomer cyn fy amser i. Mae hwnna’n rhywbeth braf hefyd: gweithio mewn cwmni sydd wedi bod mewn bodolaeth ers 125 o flynyddoedd a bod yn rhan o ryw fath o draddodiad. Ond dwi’n caru Caradog Prichard ac Un Nos Ola Leuad. Dwi’n meddwl mai honno yw nofel orau’r Gymraeg ac mae yna lawer o nofelau sydd wedi dod ers hynny sydd efallai wedi’u dylanwadu gan yr hyn yr oedd Caradog Prichard yn ei ysgrifennu. Fel golygydd llyfrau Cymraeg, a ydych chi’n poeni am sefyllfa’r iaith yng Nghymru? Gallech chi fynd y naill ffordd neu’r llall! Gallwn i ddweud, on’d yw hi’n sefyllfa ofnadwy, ein hiaith leiafrifol, llai ohonom ni’n siarad a darllen Cymraeg o bosib, onid yw ein sefyllfa ni’n ofnadwy? Neu gallwch chi feddwl, dyma ni, gwlad leiafrifol ar ymyl gorllewinol Ewrop, ymhell o bob man sy’n bodoli: mae hi’n syndod ein bod ni gystal! Dyna beth dwi’n ei feddwl: syndod ein bod ni gystal. Mae’r diwydiant llyfrau ar hyn o bryd yn cynhyrchu llyfrau amrywiol o bob cwr; mae’n amser da i lyfrau Cymraeg, yr her yw cael mwy o bobl i ddarllen. Mae pobl yn anhyderus am eu Cymraeg ac yn anhyderus i gydio mewn llyfrau Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn eiddo i ni i gyd ac mae hynny yn bwysig. Nid ail orauyw’r Gymraeg, dim ond iaith arall yw’r Gymraeg, ac rydyn ni’n lwcus i siarad dwy iaith. Rhaid i ni fod yn falch o'r ddwy ohonyn nhw ac mae’n rhaid i ni fwynhau’r ddwy ohonyn nhw. Mae’n nhw’n ddwy iaith ar wahân, Saesneg a’r Gymraeg, ond dyw un ddim yn well na’r llall. |