Sgwrs â'r awdur Angharad Tomos am ei nofel ddiweddaraf, Y Castell Siwgr
|
Stori Dorcas, Cymraes o Ddolgellau sy’n symud i Gastell Penrhyn i weithio fel morwyn ac Eboni, caethferch o Jamaica sy’n gweithio ar blanhigfa teulu’r Penrhyn, ydy Y Castell Siwgr. Cafodd Angharad Tomos yr ysbardun wrth weld arddangosfa Manon Steffan Ros yng Nghastell Penrhyn am berthynas y teulu Pennant â chaethwasiaeth. Mae Angharad Tomos wedi ysgrifennu sawl nofel hanesyddol, gan gynnwys Paent, Darn bach o bapur a Henriét y Syffrajet. Yn dilyn y trasiedïau hiliol a ddigwyddodd yn 2020 ac ymgyrchoedd #BywydauDuoBwys yn ffynnu, mae’r nofel hon yn un amserol ac mae hi wedi’i chyhoeddi mewn union bryd inni allu dysgu mwy am hiliaeth yng Nghymru.
Oedd y syniad am y stori wedi dod atoch yn syth yn ystod yr amgueddfa, ynteu syniad a oedd wedi adeiladu dros gyfnod o amser oedd hi? Ar fy mhen fy hun yr euthum i'r arddangosfa, a ’dwi'n falch mai dyna wnes i o edrych yn ôl. Cafodd y fath argraff arna i, e.e. mynd i ystafell wag, a'r unig beth yno oedd soffa. Es at y soffa, yn yr hanner gwyll, ac arni roedd darn o ddefnydd efo gwniadwaith arno. Darllenais y geiriau, a dyma oedden nhw, ‘I do not wish the cattle or the Negroes to be overworked’, sef geiriau Richard Pennant, yr Arglwydd Penrhyn cyntaf. Aeth rhywbeth i lawr fy asgwrn cefn, achos yr hyn roedd o'n ei wneud oedd dangos ei fod yn meddwl am y caethweision ar yr yn lefel ag anifeiliaid, a dyna oedd yr holl drafferth efo pobl a gefnogai gaethwasiaeth. Fy ymateb cyntaf wedi gadael y lle oedd ‘Rhaid i bobl gael clywed am hyn’ a dyna pryd y penderfynais i y carwn sgwennu nofel – Gorffennaf 2018 oedd hi. Pa fath o waith ymchwil roedd angen ichi ei wneud ar gyfer ysgrifennu’r nofel? Faint o’r wybodaeth a gasgloch oedd yn newydd i chi? A deud y gwir, ddyliwn i ddim fod wedi cychwyn ar y nofel o edrych yn ôl! Wyddwn i fawr ddim am y G17-G18, wyddwn i fawr am Gastell Penrhyn a meddwl ’mod i'n gwybod rhywbeth am gaethwasiaeth oeddwn i. Yna, ym Mawrth 2019, es i'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis, i glywed Chris Evans, awdur Slave Wales yn siarad am y diwydiant gwlân yng nghanolbarth Cymru. Yn Nolgellau a threfi eraill, roeddent yn nyddu Negro Cloth neu Welsh Flannel a hwnnw a ddefnyddid i ddilladu caethweision. Penderfynais y byddai dwy ferch yn fwy diddorol na'r Arglwydd Penrhyn, un yng Nghymru, ac un yn Jamaica. Dydych chi ddim yn meddwl fod gan y ddwy ddim yn gyffredin, a'r unig beth sydd yn eu cysylltu yw’r Arglwydd Penrhyn. Doeddwn i erioed wedi clywed am y diwydiant gwlân a'i gysylltiad ag India'r Gorllewin. Roedd yn rhaid imi wneud llawer o waith ymchwil i'r farchnad gaethwasiaeth hefyd gan na wyddwn nemor ddim am hynny – ac es i Amgueddfa Gaethwasiaeth Lerpwl. Lwc i mi wneud hynny yn 2019, cyn Covid. Roedd y rhan fwyaf o'r wybodaeth a gesglais yn newydd. Ches i ’rioed wers ar gwaethwasiaeth yn yr ysgol, nac ar hiliaeth ac mae hynny yn fwlch go fawr i geisio ei lenwi. Gwyddwn am y llongau a oedd yn mynd â phobl dduon o'r Affrica i America, ond nes i ddim meddwl sut roedd y bobl yn cael eu dal yn Affrica i ddechrau un. Mae meddwl amdanynt yn cael eu herwgipio yn frawychus. Ac unwaith roeddent yn gaethweision, roedd eu hamodau byw yn waeth na dim a ddychmygais. Does dim yn y llyfr dwi wedi ei ddychmygu o ran cosbi'r caethweision. Mae ffeithiau i gefnogi pob cosb. Nid oedd y wybodaeth yn hawdd i'w chanfod ar adegau. Wedi George Floyd roedd gwybodaeth yn llawer haws cael gafael arni, e.e. roedd modd imi wneud cwrs ar-lein am Gaethwasiaeth yn Jamaica. Peth arall y dysgais lawer amdano oedd y broses o wehyddu hefyd. Yn amlwg, mae’r llyfr yn un dwys wrth inni weld sut mae Dorcas ac Eboni yn cael eu trin. Dychmygaf nad oedd yn hawdd ysgrifennu rhai o’r golygfeydd, felly oedd angen ichi ddatblygu dull newydd i ysgrifennu’r nofel hon? Doedd o ddim yn hawdd darllen amdano, heb sôn am ei sgwennu. Ambell waith, byddwn yn digalonni, ond byddwn yn cofio am arddangosfa Manon Steffan, ac yn dweud ‘Rhaid i'r ffeithiau hyn gyrraedd pobl.’ Dyna oedd y symbyliad i ddal ati. Mae'n wir nad oes fawr o ddarnau hapus ynddo – ar wahân i fywyd Dorcas ar gychwyn y nofel. A deud y gwir, rhan Eboni nes i ei sgwennu gyntaf, a phenderfynais ei sgwennu yn y person cyntaf. Yn lle ein bod yn meddwl am gaethferch fel ‘yr arall’, ron i'n meddwl mai gwell fyddai ceisio fy rhoi fy hun yn ei sgidiau. Teimlwn nad fy lle i fel person gwyn oedd gwneud hynny, ond mentrais roi cynnig arni. Ond yr unig ffordd i'w wneud oedd ei wneud yn bytiog, fel darnau o ddyddiadur dychmygol. Fedr rhywun ddim cymryd mwy na hyn a hyn o erchyllder ar y tro, a rhyw led-gyfeirio at ddigwyddiadau mae Eboni weithiau. Mae eisiau cofio rhai pethau, ond bod yn ymwybodol ei fod yn arwain at boen. Efo Dorcas, fe'i sgwennais yn y 3ydd person mewn dull naturiolaidd. Drwy ei lleoli yn Nolgellau a'i galw yn Dorcas, ’dwi'n talu teyrnged i nofel Marion Eames, Y Stafell Ddirgel. Doeddwn i ddim wedi disgwyl i fywyd morwyn yn y Penrhyn fod yn un mor drist chwaith. Dim ond wrth wneud yr ymchwil y canfyddais nad oedd llawer o ferched Cymraeg yn cael eu cyflogi yn y Penrhyn, ac felly roedd Dorcas yn cael ei gwahanu oddi wrth ei theulu, ei hardal, ei hiaith a'i chrefydd. Rydych chi wedi rhannu’r nofel rhwng y ddau brif gymeriad, a sylweddolais fod rhan Eboni mewn ffont cwbl wahanol i Dorcas a bod enwau i’w phenodau hi hefyd. Ai dull i wahaniaethu rhwng y ddwy oedd hyn? Stori dwy ferch sydd yma, heb unrhyw gysylltiad ymddangosiadol – dyna pam mae'r ffont yn wahanol. Gall y darllenydd ddarllen rhan o'r ddwy stori bob yn ail os dymunant. Stori Eboni sgwennais yn gyntaf, ac mae hon yn digwydd yn gynt yn gronolegol hefyd, ond penderfynais gychwyn efo'r cyfarwydd, a rhoi stori Dorcas yng Nghymru, wedyn y stori yn Jamaica. ’Dwi'n nodi hefyd na all dyddiadur Eboni fod yn un ‘go iawn.’ Dydi hi ddim yn berchen dim, yn cynnwys papur ac inc, a phetai ganddi'r deunyddiau angenrheidiol, fedrai hi ddim darllen na sgwennu. Ar y pwynt hwn, falle y dylwn sôn am y gwahaniaeth rhwng Dorcas a'i chyfnither, Cadi, y ddwy yn forynion. Dim ond wrth sgwennu'r nofel y daeth y gwahaniaeth rhwng y ddwy mor amlwg. Dim ond eglwyswyr fyddai'r Arglwydd Penrhyn wedi eu cyflogi, felly rhaid i deulu Cadi fod yn Eglwyswyr ffyddlon, tra bo Dorcas yn Fethodist. Ond gan fod Dorcas yn mynychu Ysgol Sul, mae’n gallu darllen a sgwennu. Fel un fyddai’n mynychu Seiat, byddai'n gyfarwydd efo trafod pregeth, rhywbeth na fyddai pobl yr Eglwys yn ei wneud. Gwelwn felly fod gan grefydd, neu enwadaeth, rôl yn ffurfio eu cymeriadau. Tra bo Cadi yn derbyn y drefn yn ddigwestiwn ac yn mynd ymlaen â'i gwaith, mae natur Dorcas yn un fwy ymchwilgar, ac mae eisiau herio'r drefn a'i chwestiynu. Hefyd mae natur dosbarth yn thema amlwg yn y gwaith; mae Dorcas yn dyfalu beth mae teulu'r Lord yn ei wneud drwy'r dydd. Credaf fod y nofel yma’n mynd i fod yn ddefnyddiol, fel gweddill eich llyfrau hanesyddol, i waith dysgu. Yn sicr dylai athrawon gyfeirio atynt mewn ysgolion. Oedd llyfrau penodol am hiliaeth a oedd yn ddefnyddiol i chi wrth ysgrifennu? Gwaith ffeithiol oedd llawer o’r deunydd cefndir a ddarllenais, ond cefais gyfle i ddarllen mwy nag un nofel. ’Dwi fy hun wedi bod yn euog o beidio darllen llawer am hiliaeth, ond mae yna nofelau da. Fy ofn i wrth sgwennu'r nofel ar y cychwyn oedd ei fod yn gyfnod pell yn ôl, ac ro’n i’n amau pwy fyddai’n darllen y nofel. Yna, llofruddiwyd George Floyd – a newidiodd popeth. ’Dwi’n ceisio darllen mwy yn awr. Un llyfr da yw Noughts and Crosses gan Malorie Blackman, un arall yw Blonde Roots gan Bernardine Evaristo, neu i oedran iau, Windrush Child gan Benjamin Zephaniah. Ac i orffen, hoffwn ofyn a oes unrhyw waith newydd ar y gorwel? Oes, nofel yn nes at adre; nofel am fardd a Sosialydd o Ddyffryn Nantlle, Silyn, a'i wraig, Mary. ’Dwi'n credu mai Arlwy'r Sêr fydd ei theitl. Bydd eleni yn dathlu 150 mlwyddiant ei eni. |