Sgwrs â swyddog cyfranogi cwmni'r Frân Wen, Gwennan Mair Jones
|
Yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog mae Gwennan bellach yn gweithio i Gwmni Drama’r Frân Wen ym Mhorthaethwy fel Swyddog Cyfranogi. Graddiodd o Brifysgol Lerpwl gyda gradd mewn Community Drama yn 2014 ac mae hi wedi bod yn gweithio’n galed iawn gyda phobl ifanc gogledd Cymru ers hynny. Un o’i llwyddiannau diweddaraf yw bod un o’i phrosiectau, Sbectol, wedi cael ei enwebu fel un o ddigwyddiadau byw gorau 2015 yng Ngwobrau’r Selar eleni.
Diolch am adael i fi ddod yma i siarad â ti yn swyddfa’rFrân Wen heddiw. Ti ydi’r Swyddog Cyfranogi yma. Beth yn union mae hynny'n ei olygu? Swyddog Cyfranogi ydi swyddog sy’n rheoli prosiectau pobl ifanc y cwmni i gyd. Mae cyfranogi yn golygu cymryd rhan, felly fi sy’n rhedeg y gweithdai sy’n cyd-fynd â’r cynyrchiadau proffesiynol. Fi sydd hefyd yn gyfrifol am brosiectau dyfeisio fel prosiect Sbectol. ’Dw i’n eu cydlynu nhw i gyd efo’i gilydd, mewn ffordd. Be ydi dy darged di o fewn y Frân Wen? Be fuaset ti’n hoffi ei gyflawni tra wyt ti yma? Un peth sy’n bwysig iawn i mi ydi’r ochr gyfranogi a ’dw i ddim yn meddwl ei fod o’n cael digon o barch yn y byd celfyddydau. Mae’n cael ei weld fel rhywbeth ar yr ochr, sydd ddim cystal â pherfformiad proffesiynol neu raglen deledu. Fy mwriad i ydi gwneud yr ochr cyfranogi cymunedol yn rhywbeth sydd yn cael ei weld fel rhywbeth proffesiynol, ac yn cael yr un faint o gyllid a pharch â phethau proffesiynol. Ond gôl bersonol i mi ydi gwneud y Frân Wen yn gwmni sydd wir yn gweithio yn benodol hefo pobl ifanc; fod pobl ifanc yn gwybod ei fod o’n lle i allu datblygu a rhannu syniadau, eu bod nhw’n gwybod fod y drws ar agor iddyn nhw a'u bod nhw’n gallu dod i mewn yma a chyflwyno syniad, a chael cyfleoedd fel ’dw i ’di eu cael. A oeddet ti wastad yn gwybod dy fod ti am weithio gyda phobl ifanc a’r theatr? Roeddwn i’n bendant yn gwybod ’mod i eisiau gweithio efo theatr yn y gymuned ond ’doeddwn i ddim yn meddwl y baswn i’n gweithio hefo pobl ifanc yn unig. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweithio efo pobl hŷn sydd erioed wedi defnyddio theatr fel maes cyfathrebu. Mae ’na lot mwy o botensial i theatr na mae pobl yn ei feddwl. Mae pobl yn gallu cymdeithasu a mynegi eu hunain trwy’r theatr mewn ffordd ddiogel iawn. ’Dydi pobl ddim yn deall hynny eto ’dw i ddim yn meddwl. ’Dydi holl ystyr y theatr ddim yn glir iddyn nhw. Rydw i wedi dy weld ti’n cyfarwyddo, actio, creu grŵp creadigol a llawer mwy. Pa un wyt ti’n ei fwynhau fwyaf, achos mae'r rhain i gyd yn bethau hollol wahanol? Ydyn, cymaint o bethau hollol wahanol a ’dw i mor falch ’mod i’n cael gwneud hynny yn y swydd yma. Ond mae ’nghalon i yn yr ochr ddyfeisio, hwyluso a chyfarwyddo, ond yn fy ffordd i. Dyna fy nghwestiwn nesaf: oes gen ti broses o wneud pethau? Rwyt ti’n gweithio mewn ffordd wahanol iawn i bobl eraill. Waw, fedra i ddim ei esbonio fo. Ond y gôl ydi nad ydy pobl ddim yn meddwl dy fod ti’n gwybod be’rwyt ti’n ei wneud ond mi wyt ti go-iawn. Os wyt ti’n meddwl am brosiect Sbectol, mi ddechreuodd pawb boeni ar ôl pythefnos ond mi roedd hynny i fod i ddigwydd. Chi oedd piau’r prosiect yna, nid fi. Roedd o’n bwysig iawn i mi fod y bobl ifanc yn teimlo perchnogaeth, a’r unig ffordd i wneud hynny ydi mynd ar goll ynddo fo. Ond mae’r gemau ’dw i’n eu chwarae ar ddechrau prosiect yn bwysig hefyd. ’Dw i’n gwybod yn union beth ’dw i’n mynd i’wchwarae. Ond mae’n rhaid i chdi feddwl ydi’r grŵp yma yn adnabod ei gilydd. Os nad ydyn nhw, rhaid i mi chwarae gemau tîm a dechrau torri’r waliau rhwng pobl. Weithiau mi gaf i grŵp o gymeriadau mawr iawn, ac mi wnaiff o gymryd tua hanner awr i mi eu torri nhw i lawr i bwy ydyn nhw go-iawn a bod yn nhw eu hunain. Dyna oedd fy nghwrs i yn y coleg. Mi ges i radd mewn hwyluso, sut wyt ti’n darllen criw o bobl sy’n cerdded i mewn i ystafell ac yna eisiau cael rhywbeth allan ohonyn nhw. Eglura fwy i ni am hwyluso a Community Drama. Mae’n anodd ei egluro, ond am y flwyddyn gyntaf mi oedden ni’n cael hyfforddiant i fod yn actorion, felly dod i adnabod ni ein hunain yn gyntaf. Mae’n hollbwysig dy fod ti’n adnabod chdi dy hun cyn trio cael rhywbeth allan o bobl eraill. Roeddem ni’n dadansoddi ein hunain, dod i adnabod beth sy’n dylanwadu arnom ni fel artistiaid; hunanymwybyddiaeth oedd pwyslais y flwyddyn gyntaf. Wedyn yn yr ail flwyddyn roeddem ni’n cael dewis bod yn hwylusydd neu’n gyfarwyddwr. Mi benderfynais i fod yn hwylusydd gan ’mod i wir yn mwynhau gweithio efo grwpiau nad oedden nhw erioed wedi cael profiad o’r theatr. Roeddwn i’n dal i orfod mynd ar leoliad, felly mi wnes i hynny hefo grŵp o blant efo anghenion arbennig, ond mi oeddwn i hefyd yn gweithio hefo grŵp o oedolion byddar a 90 o bensiynwyr a oedd yn chwarae bingo bob nos Fercher. Mi oedd hynny’n eithaf epic! Erbyn dy flwyddyn olaf mi wyt ti wedi dysgu’r holl sgiliau yma felly rwyt ti’n cael gwneud beth rwyt ti eisiau’i wneud. Mi wnes i barhau i weithio hefo grŵp o oedolion byddar, a chreu perfformiad yng nghanol Liverpool One. Roedd o’n brofiad od gan dy fod ti’n gorfod gwneud cais busnes a chais cyllid a phob dim. Fi oedd yn rheoli pob agwedd. Beth sy’n dy ysbrydoli di?Beth a wnaeth wneud i ti feddwl dy fod ti am wneud drama? Hwyl ’dw i’n meddwl. Ydi hynny’n gwneud synnwyr? Mi oeddwn i’n gwybod ers pan oeddwn i’n ifanc iawn nad oeddwn i eisiau bod yn actores, gan ’mod i eisiau bod yn nyrs. Dydw i ddim yn hoffi bod yn ganolbwynt sylw o gwbl. Er bod hynny yn swnio’n wallgo’ achos mi wnaf i ddawnsio o flaen pawb mewn gigs a gwisgo dillad od. Ond mae’n lot gwell gen i ’mod i yn ysbrydoli a gwneud gwahaniaeth i bobl eraill. ’Dw i’n meddwl ’mod i wedi dod o hyd i swydd sy’n fy ngalluogi i fod yn greadigol a gobeithio gwneud gwahaniaeth i bobl drwy ddefnyddio’r theatr: dyna ydi’m hangerdd i. Os ydw i’n gallu ysbrydoli un person y flwyddyn mi fydda i’n hapus. ’Dydi o ddim amdana’ i mae o am bobl eraill; dyna sy’n fy nghadw i fynd. Diolch yn fawr am y sgwrs a llongyfarchiadau efo Sbectol! |