Sgwrs â'r cerddor, y colofnydd a'r archaeolegydd Rhys Mwyn
|
Yn gerddor, colofnydd ac archaeolegydd, mae Rhys Mwyn yn ymddiddori mewn meysydd amrywiol. Caiff ei adnabod yn bennaf am ei waith ym maes cerddoriaeth boed hynny fel rhan o fand pync chwyldroadol yr 80au, ‘Yr Anhrefn’, neu’n fwy diweddar, fel cyflwynydd rhaglen ‘Recordiau Rhys Mwyn’ ar BBC Radio Cymru. Caiff Rhys a’r Anhrefn eu hystyried fel ‘rebels’ yn erbyn consfensiynau y Sîn Cerddoriaeth Gymraeg a diwylliant Cymreig ac yn y cyfweliad yma, mae’n rhoi cipolwg ehangach ar ei feddylfryd unigryw am y Gymraeg ac am fyd cerddoriaeth Gymraeg.
Rydych yn wreiddiol o Sir Drefaldwyn, ardal sydd wedi’i hynysu o brif ffrwd diwylliant Cymraeg. Allech chi ddisgrifio sut wnaeth eich magwraeth yn yr ardal siapio eich gweledigaeth ar y sîn cerddoriaeth Gymraeg a diwylliant Cymraeg ar y cyfan? I mi, yn Sir Drefaldwyn, mae yna sawl peth. Roedden ni’n byw yn Llanfaircaereinion, Dyffryn Banw ac mae’r afon Banw yn rhedeg i mewn i’r Fynwy, sy’n rhedeg i mewn i’r Hafren. Pe byddet ti’n cario ymlaen i fynd i’r Dwyrain, byddet ti’n landio yn yr Amwythig a Lloegr. Pe byddet ti’n mynd i fyny’r dyffryn, i’r Gorllewin, y pentrefi nesa’ i mi oedd Llanerfyl, Llangadfan, y Foel, a oedd yn ‘Gymreigaidd’ iawn. Felly y peth cyntaf fyswn i’n ei ddweud; roeddwn i bron â bod ar y ffin ieithyddol yn Llanfair. Felly, pan roedden ni’n yr ysgol, mi oedd yna ffrwd Gymraeg a ffrwd ddi-Gymraeg, Saesneg; hanner dy ffrindiau di yn siarad Cymraeg a hanner ohonyn nhw ddim. Wedyn, roedden ni’n tyfu fyny efo’r peth yma o fod reit ar y ffin, felly oedd yna ochr ohonon ni isio bod yn Gymraeg. Wedyn, mi oedd yna hanner arall, lle oeddet ti’n hollol gyfforddus – yn fy arddegau o’n i’n mynd i gigs i weld bands byw mewn llefydd fel yr Amwythig, Shrewsbury Musical. Wedyn, pan o’n i’n 16 a 17, o’n i’n mynd i gigs yn Lloegr. Ond doedd hi ddim yn teimlo fel Lloegr oherwydd oedd hi jyst yn dref lle roedden ni’n mynd i siopio ond yn dechnegol roedd o dros y ffin yn doedd. Felly, roedd y fagwraeth, fyswn i’m yn dweud ei bod hi’n od – ond roedd y tyndra yma drwy’r amser rhwng y byd Cymraeg a’r byd Saesneg achos ein bod ni mor agos i’r ffin. O ganlyniad i’r tyndra yma, felly, roedd yr Anhrefn yn anmharod i gyd-weithio â phrif ffrwd diwylliant Cymraeg megis S4C. Petai yr Anhrefn heddiw yn derbyn gwahoddiad i ddigwyddiad megis Maes B a fyddech yn fodlon gyda hynny? Mwy na thebyg, bydden ni dal yn dweud na. I mi, efo’r Anhrefn, roedd o’n reit specific. Oedden ni ʼisio gwneud rhywbeth oedden ni’n ei alw yn danddaearol, yn Saesneg, underground. Wedyn, oedd beth oedden ni’n ei wneud ddim i fod yn ymwneud â’r brif ffrwd. Nid dyna oedd y pwynt. Wedyn, oedd ein hysbrydoliaeth ni yn dod o bethau fel be ddigwyddodd yn y 70au yn Efrog Newydd - artisitiaid fel Talking Heads neu Debbie Harry a Blondie a rheina i gyd. Oeddet ti’n creu llwybr arall. Oedd o ychydig bach fel edrych ar y map lle oedd gennyt ti draffordd, oedd gennyt ti A roads ac oedd gennyt ti lwybr mwdlyd. Wel, oedden ni ʼisio mynd ar hyd y llwybr mwdlyd achos oedd o’n fwy diddorol. Ddaru ni erioed ddweud ein bod ni’m isio i neb wrando ar beth oedden ni ei wneud. Oedd o’n agored i rywun i wrando, ond oedd pwynt y peth yn fwy tanddaearol o ran ysbryd y peth. Oedd o’n rhywbeth a oedd yn digwydd tu allan i’r brif ffrwd. Teg yw dweud mai ‘herio’ oedd bwriad yr Anhrefn a gwelwyd y band yn teithio ar hyd a lled Ewrop. A ydych yn parhau i weld yr un ymdrechion o fewn y sîn cerddoriaeth Gymraeg i herio ffiniau daearyddol y sîn fel y gwnaeth yr Anhrefn? Mae o’n digwydd yn fwy naturiol rŵan. Ella efo’r Anhrefn oedden ni’n arfer dweud ein bod ni’n chwalu ffiniau, ti ʼmod, ac oedd hwnne’n rhan ohono fo. Dw i’n cofio eistedd mewn faniau pan oedden ni’n teithio Ewrop yn edrych ar Road Atlas a chroesi o’r Belg i’r Iseldiroedd ac o’n i o hyd yn meddwl ei fod o mor gyffrous y syniad yma o deithio a chroesi ffiniau a bob tro oeddet ti yn cael gig mewn gwlad newydd oedd o’n teimlo’n gyffrous. Ond, erbyn heddiw, dw i’n meddwl ei fod o’n digwydd yn llawer mwy naturiol. Felly, Adwaith a Gwenno, maen nhw i gyd wedi canu’n rhyngwladol yn barod a dydi o ddim yn big deal. A dweud y gwir, y rhwystr mwyaf rŵan ydy, o ganlyniad i Brexit, mae hi’n fwy anodd allforio’r offer, dros y ffiniau. Mae yna gost sylweddol ers Brexit a dw i meddwl byset ti’n ffeindio fod pobl fel Elton John hyd yn oed yn sôn am hyn. I artists llai, mae’r gost yn sylweddol. Rydych wedi sôn lawer tro am y band yn denu cynulleidfa amrywiol a’r mwyafrif yn hollol ddi-Gymraeg boed yng Nghymru, Lloegr neu ar draws Ewrop. Er ei bod hi’n orfodol i blant hyd 16 oed astudio’r Gymraeg mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru, ni theimla’r mwyafrif o bobl ifanc heddiw unrhyw gysylltiad gyda’r Gymraeg. Sut mae modd hybu ac ymgysylltu pobl ifanc â’r iaith? A oes modd defnyddio cerddoriaeth i wneud hyn? Reit, yr ateb syml ydy bydd yn rhaid i’r Gymraeg fod yn berthnasol, yn bydd. Os ʼdan ni’n siarad am y bobl ifanc yma sy’n bymtheg oed neu rywbeth, pa iaith mae nhw’n siarad efo’i gilydd ar y buarth? Oes yna unrhyw beth yn y Gymraeg yn berthnasol iddyn nhw? A’r risg ydy bod yna ddim. Mae o’n sobor anodd hyn, oherwydd does ʼna ddim un fix nagoes. Felly, mi faswn i’n dadlau bod miwsig yn un ffordd; chwaraeon yn ffordd arall. Ond ydy unrhyw un o fewn yr holl sefydliadau yn sylweddoli scale y peth? Os wyt ti’n byw yn Shotton, dim byd Cymraeg o dy gwmpas di, sut wyt ti’n mynd i newid hynny? Ti’n sôn am y Steddfod; dydi steddfod ddim yn eu cyrraedd nhw’n Shotton. Ti’n sôn am S4C; dydi hwnna ddim yn eu cyrraedd nhw’n Shotton. Felly, mae pawb sydd yn byw yn y byd Cymraeg yn meddwl “hunky-dory, ʼdan ni’n gwneud gwaith da”. Dydyn nhw ddim wedi bod am dro i Shotton. Hwnna ydi’r challenge, ti’n gweld. A ʼdw i’n meddwl ella, fedra i ddim rhoi ateb i dy gwestiwn di, ti’n gweld. Diolch yn fawr ichi, Rhys, am sgwrs hynod o ddiddorol! |