Canllaw ar sut i ddygymod â symud yn ôl adref am yr haf o'r Brifysgol
|
Wedi blwyddyn gyfan o fwynhau’r drefn ddyddiol o gysgu drwy’r dydd, bwyta dim oni bai am fîns ar dost neu dêc-awê cyn mynd allan i yfed tan oriau mân y bore, mae hi’n amser dychwelyd adref at fywyd diflas 9-5 dan reolau llym dy rieni. Sut yn y byd fyddi di’n goroesi? Dyma ganllaw defnyddiol i dy atgoffa di am safonau’r byd y tu hwnt i fyd myfyriwr.
Alcohol Y dasg fwyaf y byddi di’n ei hwynebu yw cuddio’r ffaith dy fod bellach yn ddibynnol ar alcohol er mwyn mwynhau a dioddef sgyrsiau diflas dy annwyl deulu. Mae ysgrifennu traethawd ar nos Iau gyda photel win yn gwbl annerbyniol yn nghartref parchus dy rieni, a chofia fod unrhyw beth mwy nag un jin achlysurol ar nos Wener yn croesi’r ffin i alcoholiaeth lwyr. Nid yw hi’n arferol nac ychwaith yn dderbyniol yfed chwe siot ar nos Fawrth; hyd yn oed os wyt ti ym mharti dy Nain. Yr Oergell Efallai fod y teclyn hwn yn un cyfarwydd i ti fel bocs mawr lle mae bwyd yn mynd i lwydo. Bob dydd Sadwrn bydd dy rieni yn llenwi’r bocs hwn hyd nes bod pob silff yn llawn llysiau a ffrwythau.* Nid yw’r bwyd yn yr oergell gartref yn llwydo fodd bynnag! Bydd dy rieni yn defnyddio’r hyn maent yn ei brynu i greu prydau bwyd blasus a byddant yn bwyta’r prydau hynny ar dair adeg benodol yn y dydd; brecwast,** cinio a swper. Ffrindiau Ysgol Er mwyn osgoi cwyno diddiwedd dy annwyl rieni am y drewdod annioddefol sy’n dod o dy ystafell wely, yn ogystal â beirniadaeth dragwyddol am dy batrwm cysgu, bydd yn rhaid iti ddianc o’u cwmni am ychydig oriau bob dydd. Y ffordd orau i wneud hyn yw ailgysylltu ag ychydig o’th ffrindiau ysgol. Dyma’r bobl a oedd yn gwmni iti cyn iti ddianc am y brifysgol. Paid meddwl am eiliad fodd bynnag y bydd y sgyrsiau yr un mor ddifyr, yn enwedig os yw unrhyw un o dy ffrindiau wedi mynd i Brifysgol Bangor, i Brifysgol Caerdydd neu i ddinas fawr yn Lloegr. Bydd myfyrwyr Bangor yn treulio’r prynhawn cyfan yn sôn am yr Eisteddfod Ryng-golegol a ddigwyddodd dros bedwar mis yn ôl, a bydd myfyrwyr Caerdydd yn ceisio dy berswadio i beidio â bwyta cig gan mai feganiaeth yw’r unig ffordd i achub y blaned, heb anghofio brolio eu bod yn mynychu ‘Russel Group University’. Bydd myfyrwyr a aeth i Loegr yn chwerthin am ben y cyfan gan alw ein prifysgolion yn “fach a ciwt”. Heb os, bydd cwmni dy rieni dros un jin gwan a phlât yn llawn llysiau yn llawer haws i’w oddef wedi iti dreulio’r prynhawn yng nghwmni dy ffrindiau. *Llysiau a ffrwythau; pethau iachus y mae pobl yn eu bwyta gyda’u prydau arferol neu fel byrbryd. Awgrymir dy fod yn bwyta o leiaf pump o’r rhain bob dydd i gadw’n iach. Efallai fod blas ambell ffrwyth yn gyfarwydd iti gan fod nifer o ddiodydd alcoholaidd yn cael eu gwneud i flasu fel ffrwythau; seidr afal neu fwyar duon a jin oren, er enghraifft. **Brecwast- Pryd pwysicaf y dydd, sydd gan amlaf yn cael ei fwyta rhwng 7 a 10 y bore, ac sy’n sicrhau bod gennyt ddigon o egni i wynebu bore caled o waith. Rhybudd - rhaid deffro cyn amser cinio i allu mwynhau’r pryd hwn, a chyn 9 os wyt ti eisiau cymorth dy rieni i’w baratoi. |