Pam?
|
Pam fod yr awyr yn las, Dad?
Pam fod yr awyr yn las? Pam fod bwganod yn gas, Dad? Pam fod bwganod yn gas? Pam fod olwynion yn grwn, Dad? Pam fod olwynion yn grwn? Pam fod sŵn mawr i wn, Dad? Pam fod sŵn mawr i wn? Pam nad oes gwallt gan Tad-cu, Dad? Fel twrci ddydd ’Dolig heb blu? Pam fod y gofod yn ddu, Dad? A hwnnw y du t’wyllaf sy’? * Ti’n hoff iawn o ofyn cwestiynau, yn’dwyt? Rhai llawer rhy anodd i mi! Os fedri di ganfod yr ateb i’rrhain, Ti fydd y clyfra’n tŷ ni. |