Limrigau
|
Rwy’n gwybod pob dim sydd i’w wybod
Am ferched, a’r triciau i’w trafod, Ond rhaid dweud y gwir, Nai’m eu cadw nhw’n hir – Mae’n glir eu bod nhw’n gwybod gormod. Mae gen-i gymdogion go fentrus Sy’n hoff iawn o garu yn nwydus. Mae caru yn iawn, Heblaw amball b’nawn Pan ma'nw’n neud hynny’n gyhoeddus. Nid oeddwn yn teimlo'n ddiogel. Gwers beintio, a finnau yn fodel?! Fe waeddodd 'rhen Jîn, 'Gawn ni weld dy din?' Fel llipryn fe dynnais y tywel. |