Sgwrs â'r prifardd Myrddin ap Dafydd
|
Yn wreiddiol o Lanrwst, aeth Myrddin ap Dafydd i Ysgol Dyffryn Conwy cyn symud ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae bellach wedi ymgartrefu yn Llwyndyrys ger Pwllheli gyda’i deulu. Dyma ddyn talentog dros ben, yn Brifardd, yn olygydd, ac yn gyhoeddwr ac ar hyn o bryd yn Archdderwydd, wrth gwrs.
Rydych yn dod o deulu adnabyddus, yn fab i Dafydd Parri, awdur llyfrau plant, ac i Arianwen Parri, gwerthwraig llyfrau, sut byddech chi’n disgrifio eich magwraeth a’r dylanwad gafodd eich rhieni ar eich gyrfa chi? Y wraig y tu ôl i’r cownter yn y ‘Siop Gymraeg’ yn Llanrwst oedd Mam. Ond cyn hynny roedd wedi bod yn athrawes yn dysgu Cymraeg ail iaith yn sir y Fflint. Athro oedd Dad, oedd yn mynnu cael ei gwricwlwm Cymreig ei hun wrth gyflwyno Hanes a Daearyddiaeth yn Ysgol Dyffryn Conwy. Roedd addysgu am y gwreiddiau, deall ein hunaniaeth yn bwysig iawn i’r ddau ac wrth gwrs, gan iddyn nhw agor y siop llyfrau Cymraeg fodern gyntaf yng Nghymru yn Llanrwst yn 1955, roedd llyfrau ac awduron yn allweddol yn eu gweledigaeth nhw. Yr un oedd nod y siop â gwersi’r ysgol. Bob pryd bwyd, siarad am y bylchau yn y byd cyhoeddi Cymraeg yr oedden nhw – ‘Biti na fasa na lyfr Cymraeg ar gael am...’. Nid edrych yn ôl ar lwyddiannau ond edrych ymlaen at dargedau newydd oedden nhw. Ac heb os, dyna pam y gwelais i mai ym myd cyhoeddi a sgwennu y buaswn i’n hoffi treulio fy amser. O sefydlu Gwasg Garreg Gwalch, i farddoni, i gyfansoddi caneuon – mae eich gyrfa i weld yn eithaf amrywiol. Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud fwyaf a pham? Pan ddechreuais i ’sgwennu, plesio athrawon, beirniaid eisteddfodau, pobl ddiwylliedig hŷn na fi oedd yn bwysig. Canfod fy nhraed a dechrau cael hyder. Yna daeth cyfnod teithiau’r beirdd, cyfnod y cerddi a’r caneuon i gyfoedion mewn cynulleidfaoedd byw yn bennaf. Ond mae’r rhan fwyaf o’r ganrif hon wedi bod yn ’sgwennu ar gyfer y cenedlaethau sy’n fy nilyn. ’Sgwennu i blant a phobl ifanc felly sydd bwysicaf fuaswn i’n dweud. Y rhain, wedi’r cyfan, fydd yn pleidleisio mewn refferendwm ar annibyniaeth Cymru ryw dro yn y dyfodol! Annisgwyl oedd y symud yma at sgwennu i blant. Cael gwahoddiad i fynd i siarad mewn ysgol wnes i, ar ôl ennill cadair genedlaethol am gerdd oedd yn sôn am enedigaeth plentyn. Mi sylweddolais yn fuan nad oedd gen i ddim i’w rannu efo nhw a dyma drio ’sgwennu am brofiadau roeddwn i wedi’u cael pan oeddwn i eu hoed nhw. Mewn rhyw ffordd, dw i’n cael ail-fyw fy mhlentyndod wrth ’sgwennu i blant – ac mae’n syndod be sy’n dod yn ôl i’r cof! Rhannu ydi ’sgwennu, ac felly mae cael ymateb yr un sy’n derbyn yn bwysig iawn. Mae’n braf iawn dal i fynd o gwmpas ysgolion a chael clywed barn y plant a chael cynnal gweithdai efo nhw. Wnes i erioed ddychmygu fy hun yn ’sgwennu nofelau chwaith. Rwyf wrth fy modd yn eu darllen ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn drama ers pan oeddwn i’n ifanc. Rwyf hefyd wedi mwynhau addasu darnau o nofelau yn sgriptiau i’w perfformio ar lwyfan yr ‘Ymgom’ yn Eisteddfodau’r Urdd. Mae hynny wedi bod yn gymorth mawr i ddeialog greu cymeriad ac i ddangos y ddrama – yn hytrach nag egluro gormod. Nofelau hanesyddol ar ryw agwedd o hanes Cymru yn ystod y 150 o flynyddoedd diwethaf ydi’r wyth nofel dw i wedi’u ’sgwennu ar gyfer pobl ifanc. A does dim amheuaeth mai ceisio arwain y to iau at adnabyddiaeth well o’n hanes ydi’r cymhelliad. Nid ffordd o edrych yn ôl ond ffordd o edrych ymlaen ydi hanes i mi. Ydych chi’n teimlo o dan bwysau o gwbl wrth ysgrifennu? Rydw i’n mynd yn nerfus iawn cyn dechrau ’sgwennu nofel newydd. Fel arfer mi fyddaf wedi penderfynu ar ba stori a lle mae hi’n digwydd, ond wedyn mae’n rhaid darllen llawer am yr hanes a’r lleoliad. Byddaf yn darllen degau o lyfrau fel arfer, ac yn ymweld â’r ardal. Yna bydd rhai cymeriadau yn dod i ymweld â fi yn fy mreuddwydion ac mi fyddaf yn gwybod wedyn ei bod hi’n amser dechrau ’sgwennu. Pan ddaw hi i hynny, ’sgwennu un bennod y dydd am ryw fis fydda i yn ei wneud. Mae’n braf mynd dros eich pen a’ch clustiau i fyd arall – ond gan gadw un llygad ar y byd go iawn o hyd hefyd. Mae’r Gymraeg yn amlwg yn agos iawn at eich calon gyda hynny wedi cael ei bortreadu yn nifer o’ch gweithiau. Ydych chi’n teimlo bod hynny wedi codi her i chi yn ystod eich gyrfa? Mae Cymru a safle cyhoeddus y Gymraeg wedi newid yn chwyldroadol ers pan ges i fy ngeni yn 1956. Anodd disgrifio i bobl ifanc heddiw sut oedd hi dan yr hen drefn. Roedd gan Gymry Cymraeg gywilydd o orfod defnyddio’r iaith, roedden nhw’n ymddiheuro wrth wneud, roedden nhw’n ffieiddio at griw Cymdeithas yr Iaith yn gwneud y ffasiwn lol ynglŷn â hi. Doedd athrawon Cymraeg yn siarad dim byd ond Saesneg o flaen dosbarthiadau Cymraeg. Ni oedd gelynion pennaf ei dyfodol hi. Ond mi fues i’n lwcus. Ges i fy magu yng nghysgod y genhedlaeth gyntaf a ddechreuodd weithredu dros newid pethau o safbwynt y Gymraeg. Oedd, roedd ymgyrchu ac ennill brwydrau yn bwysig; ond y frwydr fawr wedyn oedd defnyddio’r Gymraeg ym mhob dull a modd ym mhob gweithgaredd oedd gennym ni. Waeth heb na chael arwyddion ffyrdd dwyieithog a pheidio defnyddio’r enwau lleoedd Cymraeg. Waeth heb gael disgo os nad oedd yna ganeuon Cymraeg, na radio na theledu os na fyddai yna raglenni Cymraeg. Ac wrth gwrs mae angen llyfr Cymraeg ar bob pwnc dan haul. Ia, dyna’r batri sy’n gwneud i’r gwningen fach hon redeg! Rydych wedi ysgrifennu a chyhoeddi yn helaeth – a ydych chi’n credu bod yna thema benodol yn llinyn i’r holl waith? Hyd yma dw i’n siŵr fod rhai o’r atebion hyn yn swnio fel rhyw wladgarwch ynysig, mewnblyg i rai pobl – yn amrywiaeth ar y jingoistiaeth Brydeinig Lundeinig sy’n ein tagu ni ar hyn o bryd. Ond mi fues i’n lwcus o un peth arall yn fy magwraeth – mi aeth Mam a Dad â ni am wyliau teuluol i wahanol wledydd yn Ewrop ers pan oeddwn i’n chwech oed. Mi laddodd hynny unrhyw duedd i glochdar ein bod ni yn well nag unrhyw wlad neu ddiwylliant arall. Gweld Cymru yn rhannu’r un llwyfan â gwledydd eraill ydi’r ddelfryd yn y pen draw, siŵr o fod – yn gyfartal, yn cael yr un cyfle, yn mwynhau cwmni pobl o wledydd eraill, yn rhannu profiadau a dysgu oddi wrth y naill a’r llall, yn aelod o gymdeithas ryngwladol o wledydd annibynnol eu barn sydd ar yr un pryd yn sylweddoli ein bod ni i gyd yn ddibynnol ar ein gilydd os am oroesi ar y ddaear yma. Rydych wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn, gan ennill sawl cadair mewn eisteddfodau, cael eich penodi yn Fardd Plant Cymru yn 2000, ennill Gwobr Tir na n-Og; beth ydych chi’n ei ystyried yn uchafbwynt eich gyrfa? Wrth gael fy nghyflwyno mewn nosweithiau cymdeithasol yma ac acw, mae rhai yn hoffi gorffen ar nodyn cellweirus drwy ddweud rhywbeth fel hyn, ‘Ond uchafbwynt gyrfa Myrddin wrth gwrs, oedd cyfansoddi’r caneuon yna am y tractor bach coch, gan gynnwys y llinell anfarwol, “Tecwyn, bib-bib!”.’ Y mwyaf i gyd dw i’n meddwl am y peth, y mwyaf i gyd dw i’n meddwl bod yna wirionedd yn y smaldod hwnnw. Petaech chi’n gallu bod yn fardd neu’n awdur arall am ddiwrnod – byw neu hanesyddol – pwy fyddech chi’n ei ddewis a pham? Fwyfwy, fy arwyr llenyddol i ydi’r beirdd a’r nofelwyr hynny sy’n ’sgwennu pethau na fedrwn i fyth bythoedd eu dynwared. Dw i’n cynganeddu ers dros hanner canrif felly mae’n ddeffroad braf i mi gael darllen telynegion cynnil a chrefftus ar fesur heb odl na chynghanedd. Yn aml iawn merched sy’n creu’r cerddi yma sy’n apelio cymaint ata i – merched ambell dîm ar y Talwrn a beirdd fel Annemarie Ní Churreáin a Jane Clarke o Iwerddon a Grace Nichols o Guyana. Fuaswn i byth yn medru canu fel maen nhw’n canu. Wedyn mae yna nofelwyr fel Caryl Lewis, Eva Ibbotson a Pip Williams yn ddiweddar sy’n mynd â fi i ryw blanedau newydd na allwn i fyth eu cyrraedd fy hun. Ond dw i ddim eisiau byw yn eu crwyn nhw – fuasai gen i neb i wirioni arnyn nhw wedyn. Beth sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol? Chwilio am y bylchau, mae’n debyg. Wrth ganfod y rheini, mae modd canfod tir newydd o brofiadau er mai’r un hen lais sydd gen i o hyd. |