Gwawr
|
Ar orwel mor bell i ffwrdd,
er mai ti oedd mor agos i mi. Mae’r twll wedi ei balu yn ddyfnach ers i ti fy ngadael i. Mae mis wedi mynd heibio, heb dy gwmni di. Llwch wyt ti bellach, yn rhydd i fynd gyda’r lli. Ac er bod y gât rhyngom, yn sicr ar glo. Pan dwi’n cael “bad day”, ti sy’n sicrhau bo’ fi byth yn rhoi’r ffidl yn y to! Wrth edrych ar y lluniau, ohonom ni, yn byw yn rhydd. Mae gen i yn fy nghalon, yr hiraeth gwaethaf sydd. Yn y flwyddyn ryfedd hon, a finnau ymhell o fod yn teimlo’n iawn. Mae hyd yn oed y lleuad, weithiau, yn anghyflawn. Goleuni ddaw gyda’r wawr, mae dy gyfnod ar ben. Ar fy ysgwydd am y tro olaf, a nawr daw’r amser i gau’r llen. Un peth sydd yn sicr, bydd yr haul yn codi bob dydd. Fydd y wawr byth yr un peth heboch chi. Nos da Mam-gu. |