Sgwrs â'r awdur, y bardd a'r cyhyrchydd teledu Gwion Hallam
|
Awdur, bardd a chynhyrchydd teledu yw Gwion Hallam. Daw ef yn wreiddiol o Rydaman, ond nawr mae’n byw yn Y Felinheli gyda'i deulu ac yn gweithio i’r cwmni cynhyrchu Ffilmiau TwmTwm. Ei ffocws yw creu rhaglenni dogfen fel arfer. Mae’n fardd ac yn awdur llwyddiannus iawn ac mae wedi gweithio fel cyflwynydd teledu. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bodedern yn 2017 gyda'i gerdd ‘Trwy Ddrych’ a gwobr Tir na n-Og yn 2006 am ei lyfr Creadyn. Yn y cyfweliad hwn cawn weld beth sydd yn ysbrydoli ei waith, beth yw ei broses weithio a byddwn yn cael golwg ar y syniadau sydd yn ei waith.
Sut cychwynnaist ti farddoni ac ysgrifennu yn greadigol? Pan oeddwn i yn yr ysgol doeddwn i ddim y disgybl mwyaf disgybledig a bod yn hollol onest. Yr hyn yr oeddwn yn ei fwynhau fwyaf oedd drama a hefyd y gwersi Cymraeg lle roeddem yn trafod barddoniaeth. Dwi ddim yn siŵr pryd dechreuais i ysgrifennu. Doeddwn i ddim yn ifanc iawn. Roeddwn yn ysgrifennu pethau eraill, ond roeddwn yn y chweched dwi’n credu pan ddechreuais i. Ches i ddim rhyw epiffani mawr. Roeddwn o hyd yn potsian efo gwahanol bethau. Ond actio oedd y prif beth a dramâu ac ati. Mae’r berthynas rhwng theatr, dramâu a barddoniaeth yn agosach nag aml i beth rwyf yn credu. Mae rhythm yn bwysig mewn deialog; mae’r delweddau yn bwysig. Mae barddoniaeth yn gyfrwng gweledol iawn. Dwi wastad wedi cael fy nhynnu at hynny, ac wedi fy nhynnu at yr ochr yna o bethau. Mae dweud stori trwy luniau yn bwysig ac mae barddoniaeth weithiau yn gwneud hynny hefyd. Beth yw dy broses wrth ysgrifennu? Hir a llafurus a gwastraffus. Mae’r syniadau yn dod ym mhobman, nid wrth eistedd wrth ddesg neu wrth ddarn o bapur neu laptop. Fel arfer mae’r syniadau yn dod pan fyddaf i’n gwneud rhywbeth arall. Efo barddoniaeth fel arfer mae’r syniadau yn dod achos bod yna ddigwyddiad. Er enghraifft, 2-3 blynedd yn ôl nawr bu ffrind da imi farw yn ifanc. Roedd hi'r un oed â fi a jest ffordd o ddelio gyda’r peth oedd ysgrifennu cerdd. Wrth ysgrifennu barddoniaeth bydda i yn ffeindio fy mod yn ysgrifennu gyda llaw fel arfer. Dyna yw’r unig adeg bydda i’n defnyddio papur a beiro yn ddiweddar. Efo barddoniaeth bydda i o hyd yn ysgrifennu gyda phapur, beiro a phensil. Dwi ddim yn gwybod pam. Bydda i yn cael pyliau o recordio pethau ar fy ffôn. Dwi’n rhy anniddig i dreulio amser mawr yn ysgrifennu barddoniaeth. Felly mae barddoniaeth wastad yn codi o ryw fath o ddigwyddiad, sgwrs, rhythm, taith neu greisis. Sut dechreuaist ti dy yrfa yn y byd teledu? Tipyn bach fel barddoni, mae pethau yn digwydd yn hytrach na fi’n trefnu eu bod nhw’n digwydd. Pan oeddwn i’n iau doeddwn i ddim wedi meddwl mai cynhyrchu rhaglenni dogfen y byswn i yn bennaf, ond rwyf wrth fy modd yn gwneud hynny nawr. Felly dwi di ’neud pob math o deledu. Dechreuais weithio hefo Cwmni Da yng Nghaernarfon flynyddoedd yn ôl ar raglen am y celfyddydau, ac yn cyflwyno’r rhaglen yna. Wedyn dechreuais i ymchwilio ac wedyn cynhyrchu rhaglenni. A jest ffeindio mai'r math o raglenni oedd yn tanio fi fwyaf oedd rhaglenni dogfen am bobl ac am straeon a rhaglenni a fydd gobeithio yn ysbrydoli. Rwyf yn hapus i wneud pob math o raglenni. Dwi’n cael fy ysbrydoli fwy i ’neud rhaglenni am bobl a sefyllfaoedd a straeon sydd efallai yn agor y drws ar fyd newydd i fi ac i’r gwyliwr. Mae teledu yn gyfrwng pwerus iawn. A yw hi’n deg dweud felly fod pobl yn thema yn dy waith? Does dim byd newydd mewn pobl ar un llaw ond eto mae popeth yn newydd hefyd. Dwi’n gwybod ei fod o yn baradocs llwyr ond ry’n ni i gyd yn medru uniaethu gyda bron pawb mewn rhyw ffordd, dyna sydd yn drawiadol mewn ffordd. ’Dyn ni i gyd yn gallu cael empathi gobeithio. Does yr un ysgrifennwr, bardd neu ysgrifennwr ffilm am fynd yn bell iawn heb empathi. Weithiau dwi’n meddwl mai sôn amdanon ni ein hunain yr ydym er mwyn trio deall sut bysem yn ymdopi yn y sefyllfa yna. Dwi’n credu bod cyfarfod pobl yn arbennig a rhannu eu profiadau nhw yn cyfoethogi ein bywydau ni i gyd gobeithio. O blith o dy holl ddulliau creadigol, teledu, cerddi a storiâu, pa un yw dy ffefryn a pham? Dwi ddim yn gwybod os oes un yn ffefryn imi. Yn yr ysgol roedd genna’ i ormod o ddiddordebau, mewn ffordd a jack of all trades and a master of none o’n i. Mae ’na gryfderau yn hynny. Mae yna bethau sydd yn cysylltu'r pethau yma, pobl yn deud straeon, creu delweddau, creu lluniau, herio syniadau ond mae’r ffaith efallai bo fi ddim yn sticio i’r un peth, mae o yn gallu bod yn gryfder a gwendid ar adegau. |