Sgwrs â'r prifardd, y prif lenor a'r Athro Mererid Hopwood
|
Gwna’ i ddechrau drwy sôn am eich plentyndod. A oes ’na un adeg benodol sy’n sefyll allan fel amser pan wnaethoch chi sylweddoli eich bod chi eisiau anelu at fod yn llenor?
Rwyf wedi bod wrth fy modd â stori dda erioed, a Mam a’m dwy fam-gu’n rhai da iawn am ddweud stori, ond alla’ i ddim meddwl am un adeg yn benodol pan drodd y mwynhau’n awydd ysgrifennu. Eto i gyd, wrth glirio’r atig yn ystod y clo mawr daeth ambell stori mewn ysgrifen plentyn bach o’r corneli tywyll … mae’r dehongliad o Mair a Joseff yn mynd i Fethlehem yn ‘ddiddorol’ a dweud y lleiaf. Doeddwn i’n amlwg ddim cweit wedi deall yr hanes! Beth yw’r darn o waith rydych chi’n teimlo’n fwyaf balch ohono? Gall hyn fod o ganlyniad i ba mor galed y gwnaethoch chi weithio, neu sut fath o ymateb a gawsoch chi oherwydd eich gwaith, er enghraifft. Roedd dod i ben â llunio awdl yn dipyn o dasg, ac mae’n rhaid i mi ddiolch i Tudur Dylan Jones, athro’r Ysgol Farddol yng Nghaerfyrddin a holl ddisgyblion y dosbarth nos hwnnw am eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch wrth i ni gyd-ddysgu’r cynganeddion. Ond mae lle mawr i ddiolch i Nora Isaac hefyd. Roedd hi dros ei phedwar ugain pan symudon ni fel teulu i Gaerfyrddin o Lundain, a phan glywodd hi mod i’n ymddiddori yn y canu caeth, roedd hi’n benderfynol y dylwn i ‘fynd amdani’. Doedd ganddi ddim amynedd i ddadleuon fel ‘ond mae awdl yn hiiiiiiir’. Ei hateb didrugaredd hi oedd: ‘rhaid i chi feddwl am awdl nid fel 200 llinell ond fel dwy neu dair neu bedair llinell ar y tro’. Gan ystyried eich nofel, O Ran, oes cymeriadau neu ddigwyddiadau a gafodd eu hysbrydoli gan eich bywyd personol? Mae’n wir fy mod i, fel Angharad yn y nofel, wedi cael fy magu yng Nghaerdydd ar ddiwedd 60au’r ganrif ddiwethaf. Yn hynny o beth, mae manylion y nofel yn perthyn i brofiad personol, ond nid y digwyddiadau na’r cymeriadau fel y cyfryw. Hynny yw, rwyf wedi tynnu ar gynneddf y cof ar gyfer pethau fel disgrifiadau marchnad Caerdydd, y dillad, y ceir, a.y.b., ond cynneddf dychymyg sydd wedi creu’r stori a’r bobl sydd ynddi. Ydych chi’n bwriadu llunio unrhyw nofelau ychwanegol yn y dyfodol? Gobeithio! Ydych chi’n darllen nofelau yn eich amser rhydd? Os felly, gan bwy a pha fath? Cefais flas aruthrol ar ddwy nofel yn benodol y tymor diwethaf, a’r ddwy gan gyn-fyfyrwraig Prifysgol Aberystwyth, sef Lleucu Roberts. Mae hi wedi cyflawni’r dwbl-dwbl, drwy ennill y Fedal Ryddiaith a’r Daniel Owen yn yr un flwyddyn a hynny mewn dwy Eisteddfod. Hwrê! Os nad ydych eto wedi darllen Y Stori Orau neu Hannah-Jane, estynnwch amdanynt! Pa gyngor sydd gennych chi i oedolion ifanc sy’n bwriadu dyfod yn awdur/awdures? Nid yw llyfr yn ysgrifennu ei hunan. Amdani! |