Siomi Ffrind
|
Fe friwiais, a siomais Siôn,
Ac felly rwyf, gyfeillion, Yn ŵr swrth ar awr y swydd, Fy agro yw f’euogrwydd. ̓R unig gais ar ên y gŵr Oedd ’mod i fod yn fwydwr, Cais i mi i borthi Belle, Yn ei gwydr ei gadael. Hyn oedd ei mofyn i mi, Es ymaith gan ei siomi. Anghofiais ei gais yn gynt, Na’ enwir un dwyreinwynt. Esgeuluswyd y bwydo Yna’r aeth yr aur i’w gro. Fechan lân heb iddi lais, Un dawel a neilltuais. Y ’sgod heb fwyd na ’sgeden A’i chur oer ger ei chaer wen. Huno mae, a gwaetha’r modd, I’w hangau Belle a drengodd. Yn y dre, bu’i galon drom Yn ingol o chwith rhyngom. Pryd da i finna a fo Oedd hanes y wledd honno, A’i fwyd yn tystio ei fod Yn llun o gyfaill hynod. A mwy, ’r ôl trafod fy mai, Yn ei ddolur meddyliai: A ŵyr am gyfeillgarwch? Ai boi yw hwn, ynteu bwch? Yn stêl o dawel rhwng dau Estynnodd ei gwestiynau: ‘Ai gormod dy osod di I astud wylio drosti? Ac ai sbri dynodi dyn Yn geidwad ar bysgodyn? Pa werth fu ei chipio hi O’i hofn yn ffair Llanllyfni?’ Fe friwiais, a siomais Siôn, Ac felly, bûm gyfeillion Yn rhy lew fy addewid, Yn or hy i leddfu’i lid. |