Tad-cu
|
‘Wyneb crwn llawn bywyd sydd ganddo. Gwallt pupur sy’n cwympo dros ei wyneb a llygaid brown sy’n adrodd hanes ei fywyd. Bu ei wên yn goleuo ’stafell a bu ei straeon yn cipio anadl pawb.’ Mae’r enw James yn pontio cenedlaethau yn ein teulu ni. Colin James, fy nhad-cu annwyl. Teimlaf falchder yn rhannu’r un enw â dyn mor ysbrydoledig.
‘Dyn a wnaeth ymroi ei fywyd i geffylau. Yn ei ddyddiau cynnar, carlamai ar ei geffyl drwy’r nos gan deimlo’r gwynt yn ei wallt; ei ddihangfa rhag realiti creulon bywyd. Jac oedd enw ei hoff geffyl, march wedi’i baentio mewn arlliwiau brown prydferth. Yn ei holl ogoniant, ymddangosai’r lliw ym mhelydrau’r haul yn goronog pan garlamai. Ceffyl gosgeiddig, cain a digynnwrf oedd Jac - yn union fel cymeriad Tad-cu. Boreau Sadwrn oedd boreau rasio point-to-point. Cyn pob ras, cerddai Tad-cu'r trac gan archwilio amodau’r ddaear oddi tano. Daeth yn gyfarwydd â’r cwrs, rhagwelai’r corneli ac astudiai batrymau’r llawr - y twyni tyrchod a’r camau gwag. Er taw march cry’ a chyhyrog oedd Jac, carnau fflat oedd ganddo. Câi drafferth wrth gael gafael ar ddaear laith a gwlyb. Paratôi Tad-cu'n drylwyr, gan rag-weld ble byddai angen dod allan yn llydan neu dorri’n gul i osgoi’r darnau gwlyb. Ffrwydrai Tad-cu â balchder wrth ymdrin â’i geffyl teilwng. Bob bore Sadwrn, carlamai Tad-cu mor gyflym ar gefn Jac fel eu bod yn un â’r gwynt. Deuent yn fuddugol yn aml. Datblygai Jac grafiadau ar ei goesau yn ystod y rasys er gwaethaf ei gryfder a’i daldra. Cymerai Tad-cu Jac i draeth Aberafon ar ddyddiau Sul, ac esboniai fod dŵr halen y môr yn trin ei grafiadau. Tra oedd e’n ei farchogaeth ar hyd traeth Aberafon, cwympai ei wallt pupur dros ei dalcen. Cystal oedd partneriaeth y ddau fel nad oedd angen penffrwyn na chyfrwy; defnyddiai law gadarn ar fwng Jac yn unig i'w dywys am filltiroedd. Teimlai Tad-cu wres yr haul ar ei wyneb, clywai’r tonnau yn torri a blasai’r halen ar frig ei dafod. Dau enaid cytûn. Aeth blynyddoedd a blynyddoedd heibio a pharhaodd i garlamu er iddo fynd ychydig yn arafach erbyn hyn. Wrth i Tad-cu dyfu’n hŷn roedd ei weld ef ar ben Jac yn brofiad prin. Nid oedd ei lygaid yn adrodd hanes ei fywyd, nid oedd ei wên yn goleuo ’stafell ac nid oedd yn rhannu straeon a oedd yn cipio anadl pawb. Pryderwn. … Cancr. Roedd Tad-cu’n dioddef o’r salwch ers sbel. Pam celu hyn oddi wrthyf? Pam? Cymerais ef yn ganiataol, yn tybio y byddwn yn treulio blynyddoedd maith gydag ef, gan greu atgofion y byddwn yn eu trysori am weddill fy oes. Ond nid dyna a fu … Edrychaf i fyny tua’r nefoedd a gwelaf ei wyneb crwn llawn bywyd. Gwelaf ei wallt pupur sy’n cwympo dros ei wyneb a’i lygaid brown sy’n adrodd hanes ei fywyd. Rwy’n ei golli.’ Cymera fy nhad anadl a gwelaf ddeigryn yn treiddio i lawr ei wyneb. ‘Roeddwn yn ddeunaw oed pan fu farw.’ Gwelaf enaid fy nhad-cu yn fyw drwy wyneb fy nhad. Pam y bu Duw mor greulon? Pam gymerodd ef fy nhad-cu gan fy atal rhag cwrdd ag ef? Pam? Yn aml, syllaf ar y llun ohono ar silff ffenest fy rhieni – llun ohono ar gefn Jac wrth gwrs. Tybed, pe byddai Tad-cu yma heddiw, a fyddwn i'n marchogaeth ar gefn ceffyl teilwng gan ddilyn ei lwybr? Breuddwydiaf am yr hyn na fu. Yn wyth oed, cofiaf ofyn y cwestiwn canlynol i fy nhad, ‘Pam penderfynodd Duw gymryd bywyd Tad-cu?’ ‘Fy merch annwyl, pan wyt ti yn yr ardd, pa flodau wyt ti’n eu pigo?’ ‘Y rhai mwyaf prydferth.’ ‘Dyna ni.’ |