Dau ddarn o lên meicro
|
Sylw
Eisteddodd wrth y bwrdd yn gwylio’r mat wrth y drws. Sylwodd ar y rhes o sgidie’n sowldiwrs ar hyd y wal. Sgidie segur. Ystyriodd frwsio, mopio, dwstio. Penderfynodd eistedd, meddwl, diawlio. Y gegin. Doedd prosiect ddim wir yn ddigon o air i ddisgrifio’r stafell. Dechreuodd y newidiadau a’r gwelliannau dros bedair blynedd ar ddeg ynghynt! Edrychodd ar y llawr, yr hen deils diflas oedd wedi bod yno ers cyn cyfnod Mam-gu. Y ddau ddrôr oedd yn cwympo i bishys wrth y sinc, a hwnnw’n drip dripian trwy’r amser. Sylwodd yng nghornel ei llygad ar y golau nad oedd yn gweddu i weddill y tŷ, yn eistedd yn segur yng nghornel y stafell. Teimlodd ddrafft yn dod i mewn o dan waelod y drws. Cyn iddi allu gwylltio, lledodd gwên ar hyd ei hwyneb. Teimlodd y tensiwn yn llifo ohoni wrth iddi weld y ‘prosiect pren’ fel y cyfeiriai ef ato, y bachyn personol i ddal allweddi. Roedd hi ar goll yn ei meddyliau pan glywodd gnoc ar y drws. Yr ymwelydd cyntaf. Te
‘Te, unrhyw un?’ sibrydodd Mair. Byddai rhai pobl yn methu cyrraedd cyfarfod, weithiau fyddai beiro ddim yn gweithio ac, ambell waith, byddai ffraeo dros ryw fater dibwys. Ond un peth oedd yn gyson, byddai Mair wastad yn cynnig te i bawb o leiaf ddwywaith, yn gyntaf pan fyddai pawb wedi cyrraedd a phum munud cyn i’r cyfarfod ddod i ben. Doedd neb byth wir eisiau paned; doedd neb wir eisiau bod yn y cyfarfod, hyd yn oed, a’r nod oedd gorffen cyn gynted ag y gallen nhw. Gwyddai pawb fod gwneud te iddyn nhw’n meddwl y byd i Mair, rywsut. Cytunodd yr aelodau ymysg ei gilydd y byddai pawb yn ei dro’n derbyn y cynnig am baned. Gwir arwydd o golled yw te, ffordd i ymdopi, a doedd Mair erioed wedi gallu rhoi’r gorau iddo. |