Postmon y Faenor
|
Sbonciodd y fan bost dros y graean tuag at y faenor. Roedd ei gyrrwr yn curo curiad ar y llyw, lle roedd ei ymddygiad blinedig wedi rhwbio’r lledr i ffwrdd. Parciodd y fan ym mhen draw’r dreif hir a chamu allan, a cheisio llyfnu’r plygion yn ei swyddwisg siriol. Doedd dim diben i’r oriau diddiwedd roedd wedi eu treulio’n smwddio pan benderfynodd y fyddin ei ‘ddyrchafu’ o filwr i bostmon.
‘Rhaid inni helpu’r cyhoedd i weld milwyr fel pobl ddibynadwy eto.’ ‘Rybish!’ meddyliodd Morgan, gan wawdio at ei uwch-swyddogion. Go brin fod y bocsys dognau hanfodol yn ddigon i fwydo teulu fel ei un e, lle byddai plant newydd yn ymddangos ar ôl pob taith. Tynnodd Morgan ddrws cefn y fan ar agor i ddatgelu'r bocsys mewn lliwiau gwladgarol, cwpl yn fwy na’r arfer, yn enwedig ar gyfer ei daith olaf am y dydd. Trwy wirio ei gofrestr, gallai Morgan weld fod menyw ifanc wedi symud i’r fflat gwag yn y faenor, ond nid oedd hynny’n egluro pam fod dau focs taclus wedi’u labelu ag enw’r fenyw heb bartner na theulu, pan nad oedd teuluoedd fel ei deulu pum person e’n cael un bocs yn unig. Penderfynodd Morgan mai camgymeriad oedd y bocs arall ac y byddai e’n gwirio a oedd y fenyw’n byw ar ei phen ei hun. Os felly, byddai’n cymryd y bocs adref, yna byddai’r teulu cyfan yn bwyta’n iawn yr wythnos honno. Cerddodd Morgan i fyny grisiau'r faenor gyda phentwr o dri bocs ac, fel arfer, roedd y bocs cyntaf ar gyfer y dyn bach yn y fflat islawr, ac fe’i cipiodd ar frys y foment y cyrhaeddodd Morgan y ris uchaf. Rhedodd y dyn yn ôl i’r fflat islawr eto cyn y gallai Morgan ofyn iddo lofnodi ei dabled fach. Dyfalai Morgan fod y dyn ar frys am fod yn rhaid iddo ddechrau ei sioe blant ar-lein. Meddyliodd Morgan am ei ddillad bisâr a’i golur clownaidd annymunol ar y gorau, ond fe wyddai fod ei blant yn dwli ar y sioe, a’u bod yn ei gwylio bob nos cyn amser cinio. Aeth Morgan at ddrws y tenant newydd a churo. Agorwyd y drws gan fenyw bert mewn gwisg drwsiadus, gyda gwallt gwyllt a cholur beiddgar ond benywaidd. Wrth gymryd y dabled, atebodd hi gwestiynau Morgan. ‘Ie, symudais i’r wythnos diwethaf ond galwch fi’n Margot, nid Ms Banner, plis.’ ‘Ms? Mae’r fflat hwn yn enfawr i berson sy’n byw ar ei phen ei hun, onid yw?’ ‘’Dwi’n casglu pethau,’ atebodd Margot yn gwrtais. Cafodd Morgan yr argraff na ddylai ofyn mwy. Daliodd y pecyn allan iddi, yn barod i orffen y sgwrs letchwith, pan glywodd lais wrth ei ymyl. ‘Morgan, bach! Gallwn i weld dy fod ti wedi cyfarfod â Margot! Onid yw hi’n hyfryd?’ Llais Mrs Doan, hen wraig yn byw ar lawr uchaf y faenor. Roedd hi’n fenyw garedig, gyda gwên lachar a gwallt llwyd mawr, a nawr, roedd hi’n dod i lawr ar ei lifft risiau. ‘Mae’n iawn bach, hoffwn i ymestyn fy nghoesau!’ dywedodd Mrs Doan pan gynigiodd Morgan ddod â’r parsel i fyny’r grisiau iddi, er gwaethaf y gadair a oedd yn llithro i lawr. Rhoddodd Morgan y parsel i Margot tra oedd Mrs Doan yn agosáu. Cyn y gallai Margot cau’r drws, dangosodd Mrs Doan ddwy darten felys mewn blychau tecawê. ‘Nawr, mae yna un ar gyfer pob un ohonoch chi, ceirios a lemwn. Mwynhewch!’ Canodd corws bach o ‘wow’ a ‘diolch’ wrth i’r ddau gymryd ei danteithion. ‘Ie, ie, byddant yn fy ngwneud yn sant pan fyddaf wedi marw, rwy’n siŵr,’ chwarddodd Mrs Doan ar ei ffordd ’nôl at y grisiau. Dywedodd Morgan ei ffarwél wrth Mrs Doan cyn troi’n ôl at Margot, mewn pryd i weld ei drws yn clicio ar gau. Cyrhaeddodd Morgan adref i’w dŷ tawel lle roedd ei blant yn gwylio’r clown o’r faenor ar y teledu a’i wraig yn cysgu ar y soffa, er gwaethaf sŵn aflafar y teledu. Diflannodd Morgan i’r gegin i agor yr ail barsel ac enw Margot arno, wedi’i gyffroi gan y syniad o gael pryd bwyd gweddus yr wythnos honno. Agorodd y parsel yn ofalus, yn y gobaith y câi fyrbryd ar ei gyfer ef ei hun y gallai ei guddio rhag y lleill. Pan agorodd Morgan y bocs o’r diwedd, cafodd ei synnu gan y diffyg bwyd. Yn hytrach, roedd parsel bach, wedi’i lapio mewn ffabrig, a nodyn bach. Trodd y nodyn drosodd, a darllenodd Morgan yn dawel: ‘Mae e’n gwybod; rhaid i chi ei wneud heno.’ Cododd Morgan y parsel yn gyflym, teimlad cyfarwydd yn ei ddwylo. O dan y ffabrig roedd gwn gloyw, y gwn a ddylai fod yn nwylo Margot. |