I Fardd Eiddigus
|
Mewn noson farddol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, fe ganodd Gruffudd Antur gywydd dychan digon edmygus imi, gan ddisgwyl ateb. Bu’n rhaid iddo aros blwyddyn gron am ei drafferth, a darllenais y cywydd hwn mewn noson farddol arall lawn rhialtwch yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015. Mae teitl y cywydd yn adleisio cerdd gan un o enwogion bro’r brifwyl, Gwerful Mechain, a ganodd gywydd ‘I Wragedd Eiddigus’ rywdro yn ail hanner y bymthegfed ganrif. Mae’r llinellau olaf yn cyfeirio at y ffaith fod gen i glamp o farf fis Awst y llynedd!
Yn Llanelli, yn hollol Ddi-nod, un flwyddyn yn ôl, Mewn noson fel hon, mewn hen Neuadd yn llawn o awen (Clwb criced), serenediwyd Fi yn llon gan lefnyn llwyd, Cyw bardd, un coci, â bol, A rôi bennill derbyniol I mi heb fawr ddim awen. Roedd y llanc mewn arddull hen Yn honni 'mod i'n ŵr del, Dyheai ef yn dawel Amdanaf i, am dôn fas, Awenyddai’n anaddas Am fy hynod wawdodyn, Dileitiai o’n f’awdlau tyn. I'r priod awdurdodau Rhois fraslun o'r hogyn iau, Yna gofyn iddyn nhw Hanes y stelciwr hwnnw. 'Y gŵr pwdwr, pwy ydyw? Y llefnyn pyrfyn, pwy yw?' 'Bardd o ardal y Bala, Yn ôl sôn, un digon da, Ond hen grôni ydi o, Dowt y gweli di o eto.' Ym Meifod – dyma godwm, Ac yntau'r un hogyn trwm Welais i'n Llanelli nawr Yn wasgfain brydydd rhwysgfawr, Styd eofn mewn shêds duon Yn riffio o hyd ar ei ffôn, Boi digon del, bron fel fi, Boi reit randym, byr, trendi, Ond boi anllad o Benllyn, Niwsans taer mewn chinos tyn, Rêl hen granc ifanc efo Rhyw ferch hardd ar ei fraich o. Yn raddol, sylweddolais, I'r dyn rown i'n eilun … nais, Fi'n siŵr oedd ei arwr o, Obsesiwn oeddwn iddo. Gruffudd graff, ddigri, hoffus, Y Gruff nad yw'n llenwi'i grys, Ar y maes wrth chwarae mig, Rho'r gorau i hogio Eurig! O liw y crys, stelciwr wyt, Doplgangwr, wawdiwr, ydwyt, Rhyw flynyddol ddrychiolaeth A’i hwyl bob un ŵyl yn waeth … Watsia di wa, na ddôi di  barf fain heibio i'r Fenni! |