Parliament Square
|
31.01.20
Nats gwyn yn Parliament Square Ar y gwin fore Gwener Ddiwedd Ionawr, ac awren O antur rydd cyn dal trên Gen i i’w lladd, ac yn lle Dwyn yr eiliad yn rhywle Cynhesach, mwy cynhwysol, Yn sŵn y ffydd, es i’n ffôl Am dro heibio wynebe’r Nats gwyn yn Parliament Square. Haws gweld yn Parliament Square Annibyniaeth can baner Yr hen undeb, cofebion A thwf ymerodraeth hon, Na synhwyro’r sŵn arall, Sŵn dim yn y myllni mall, Sŵn diflas amherthnasedd, Sŵn y byw’n dawnsio’n eu bedd, Sŵn difa syniad ofer … Ond haws gweld Parliament Square. Es gam o Parliament Square, A wynebau dygn Aber Yn cymell o bell, a’r byd Fel llafar cyfaill hefyd, A’r parti’n y brifddinas A holl hwyl ei gŵyl fach gas, Ei hacer rad a’i fflags croes, Y noson honno eisoes Ar ben, un bore Gwener Yn oes gynt Parliament Square. |
Darllenwyd y gerdd hon fel rhan o eitem am Brexit ar bodlediad Clera mis Chwefror 2020, ochr yn ochr â cherddi gan Mari George, Iestyn Tyne, Emyr Lewis, Annes Glyn, Siôn Aled, Siân Northey ac Aneirin Karadog (34.05 i mewn i’r rhifyn).
|