Castell Caernarfon
|
'Noswaith dda i bawb, shwmae …'
Mae hi’n hwyr ac yn dywyll. Roedd y dydd yn hir gyda mynydd o broblemau A gwaith a disgwyliadau rhy uchel. 'Trafod yr atebion' a beth oedd y cwestiwn, Beth ydy hwn yn Saesneg, beth wyt ti’n gwneud yma yn ffau’r llewod Os nad oes dim Cymraeg gyda ti? Mae hi’n hwyr a thywyll a phob un yn yr ystafell yn chwerthin Achos mae hynny’n hwyl, mae hynny’n arferol Mewn byd newydd oer ac aisteach – na, dim Cymraeg ydy hwn! 'Beth yw eich ateb ar gyfer y cwestiwn hwn, bobl?' Peidiwch ag edrych arnaf i, dim syniad, dim syniad o gwbl, Beth yw ‘don’t know’ yn Gymraeg? Pawb arall yn gallu siarad ond alla i ddim. Mae lluniau cestyll gyda phawb, cestyll hyfryd. Gwthio gair ar flaen fy nhafod, Caernarfon, Dydd niwlog a gwyntog a gwych gyda lluniau pert a waliau anferthol A stori drist am Elinor a oedd yn blentyn priod i ffwrdd o’i chartref. Dydd sy’n gorffen gyda siocled poeth mewn caffi bach ar noson lawog. ’Dw i’n gwybod, ’dw i’n gwybod yr ateb! Ond Beth ydy ‘I think it’s ...’ yn Gymraeg? 'Castell Caerdydd? Bron, ond nid yr ateb cywir... Castell Caernarfon yw e.' Roeddwn i’n gwybod yr ateb. Mae’r castell yn fach iawn yn y llun. Saethwyd cwestiynau eraill ond mae hi’n rhy dywyll ac yn rhy hwyr. Gwaith yn aros ar fy nesg, tasgau ac aseiniadau A cherdd. Ganrifoedd yn ôl, pan ddywedodd y brenin wrth y bobl, 'Adeiladwch gastell mawr yma', a oeddynt yn poeni? Mae angen amser A gwaith caled a blynyddoedd o brofiad i adeiladu castell, ac arian. Gair bendigedig ydy arian. Mae’r nos yn dywyll ac roedd y dydd yn hir ond Mae llawer o eirfa fendigedig yn yr iaith Gymraeg. Ac os gallai pobl symol adeiladu castell mor fawreddog a brawachus â Chaernarfon, Gallaf innau ddysgu sut i beintio alaw â geirfa Gymraeg. |