Agoriad
|
Mae'n 'USA!' o reiat.
Ac ar gyrch i wasgu'r gât, Daw'r fyddin daer o fyddar, Ei rhesi gwyn ar y sgwâr Eisiau gwaed. Mae fel oes gynt, A'r hewl dan dymer helynt. Ond â Ionawr, daeth gwawr gall. Ymlaen, nawr, mae lôn arall. Mae'n llain hir, mae'n llawn eira, Lôn yw hon dan len o iâ, A'r dasg, er oered yw hi, Yw i'r haul ei meirioli. |