Dad-ddofi
|
Mae'n codi ofn
y sôn sy'n lledu am ailwampio, ailsiapio, ailwylltio'r elltydd, ailblannu'r dolydd. Ar y ffridd, gwelaf ffydd fy nhad a'i dad yntau yn gwella'r tir yn nerthu'r nodd cyn ei roi, yn ei dro yn rhodd i rai fel ni. A be' wnawn â'r mynydd wedyn? Troi'r hen gartre' yn furddun. Dadwisgo'r maeth, dadwreiddio'r pridd, dadafael mewn hen hanes dad-wneud, dad-ddysgu, dad-ddofi. |
Lluniais y gerdd hon mewn ymateb i'r sylw diweddar sy'n cael ei roi i’r cynllun dad-ddofi ('rewilding'). Un ardal sy'n cael ei thargedu yw fy ardal i yng ngogledd Ceredigion, sef ‘O'r Mynydd i'r Môr', cynllun sy'n ymestyn o ucheldiroedd Pumlumon i ddyffrynnoedd afon Dyfi, gyda'r bwriad o adfer ecosystemau gwyllt, boed hynny trwy gyflwyno creaduriaid gwyllt, neu beidio â thrin y tir. Yn naturiol, a minnau'n ferch fferm, rwy'n poeni'n arw am hynny. Yn poeni am ei effaith ar ddyfodol ffermydd teuluol, sy'n gadarnleoedd i'r iaith Gymraeg, yn ogystal â'i effaith ar ffrwythlondeb y tir y mae ein cyndeidiau wedi llafurio i'w wella er ein budd ni. Rwy'n ofni bod mwy na'r gweiryn glas yn y fantol yn fan hon.
|