Sgwrs â'r bardd, Gruffudd Antur
|
Daw Gruffudd yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ger y Bala. Mae’n un o raddedigion y Brifysgol hon a bellach ym Mangor yn cwblhau cwrs PhD yn y Gymraeg. Caiff ei adnabod yn bennaf fel enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd yn y Bala yn 2014. Ond nid oedd y gamp honno'n ddieithr iddo, oherwydd fe gipiodd y gadair yn Eisteddfod yr Urdd Eryri yn 2012 hefyd. Mae ganddo ddawn arbennig i drin geiriau ac fe ddywedodd beirniaid y gystadleuaeth yn 2014, Mari George ac Eurig Salisbury, eu bod wedi cael eu “gwefreiddio gan awdl Gwenno” a bod safon y gerdd yn “gyson uchel o’r dechrau i’r diwedd."
Disgrifia dy hun mewn tri gair. Swil, diamynedd, sinigaidd. Pa ysgolion wnest di eu mynychu? Cefais fy addysg gynradd yn Ysgol O.M Edwards, Llanuwchllyn ac yna es i Ysgol Uwchradd y Berwyn, yn y Bala. Beth wnest di ar ôl dy Lefel A? Es i astudio Ffiseg am dair blynedd yn Aberystwyth, cyn graddio a mynd i wneud MA a PhD mewn Cymraeg ym Mangor. Beth yw dy brif uchafbwynt hyd yma? Mae amryw o uchafbwyntiau wedi bod yn y gorffennol, ond yr un sy’n sefyll allan yn bendant ydi ennill cadair Eisteddfod yr Urdd yn fy milltir sgwâr fy hun yn 2014. Beth wyt ti’n mwynhau ei wneud yn dy amser hamdden? Rwy’n mwynhau darllen, mynydda a dod i adnabod Cymru yn well. Os oes gen ti amser i wylio’r teledu rhwng dy ddiddordebau eraill, pa un yw dy hoff raglen deledu? Have I Got News For You. Pe gallet ti fod yn anweledig am ddiwrnod, beth fyddet ti’n ei wneud? Byddwn yn cuddio stwff pobl nad ydw i’n eu hoffi a bod yn boen yn gyffredinol. Beth wyt ti’n ei wneud ar hyn o bryd a lle rwyt ti’n dy weld dy hun mewn deng mlynedd? Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar PhD mewn llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Ymhen deng mlynedd ’dw i’n gobeithio y byddaf wedi hen orffen, ond yn dal i weithio yn yr un maes. Ym mhle fyddai dy wyliau delfrydol? Lle bynnag mae yna gwmni difyr a mynyddoedd! Pe baet yn cael cyfnewid dy fywyd am wythnos ȃ rhywun, boed yn enwog ai peidio, pwy fyddai’r person hwnnw? Yn sicr, Guto’r Glyn. Gorffen brawddegau … Y bwyd gorau ydi’r madarch mewn saws cyri mae Mam yn ei wneud. Y lliw mwyaf godidog ydi coch tywyll. Y swydd waethaf a ges i erioed oedd pacio siocled mewn ffatri yn ystod haf 2008. Y llyfr yr hoffwn fod wedi ei ysgrifennu ydi Cerddi’r Cywilydd. Mi wnes i freuddwydio unwaith bod rhywun wedi gofyn cwestiynau fel rhain i mi, ac mi oedd gen i atebion tipyn gwell. Y wers bwysicaf mewn bywyd ydi torri dy gŵys dy hun, ond cadw golwg ar un dy rieni. Y cyngor gorau gefais i erioed oedd dysga gynganeddu. Mae o’n arbed llwyth o bres wrth feddwl am anrhegion i bobl. Does gen i ddim amynedd gyda llawer iawn gormod o bethau. O’r holl dymhorau mae’n well gen i ddiwedd yr hydref a dechrau’r gaeaf. Y lle a wnaeth fwyaf o argraff arnaf i ydi Castell y Bere. Digwyddiad na ddylai’r Cymry anghofio amdano ydi dienyddiad Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri am arwain lluoedd Harri IV ar goll yn y mynyddoedd yn hytrach na’u tywys tuag at Owain Glyndŵr. O’r holl lenorion a’r beirdd yr ydw i wedi darllen eu gwaith mi hoffwn allu ysgrifennu fel Saunders Lewis. Petawn yn cael newid unrhyw beth mi fyddai gen i gythgam o ofn gwneud pethau’n waeth! Mae’r ardal yr wyf i’n byw ynddi yn hyfryd, ond yn codi hiraeth am ardaloedd eraill. Pan oeddwn yn blentyn mi o’n i’n gwybod mwy na ’dw i’n ei wybod rwan. |