Lliw
|
Nadolig 2014
Lliw het Siôn Corn, lliw aeron y celyn, lliw trwynau wrth i bobl stryffaglu gyda’u bagiau trwy’r strydoedd, lliw’r llugaeron a gewch gyda’ch twrci. Ymhell o Gymru mae’r Nadolig yn llai llawen. Lliw’r groes yn erbyn cefndir gwyn, lliw wynebau’r gwirfoddolwyr, lliw’r gwaed sy’n llifo’n dew. Lliw Ebola. |