Boddi
|
Tu hwnt i’r môr mae llinell ddiderfyn,
Pinc y gorwel yn gwaedu i’r dyfroedd, Dagrau hallt yn gymysg efo’r ewyn, Minnau’n dyheu am deimlo’i thymhestloedd. Chwytha gwynt y gwyll i gyfeiriad y tir A’m fferru, methaf â symud un cam. Dim ond taro tonnau yn y cefndir A lliwiau’r machlud yn eirias wenfflam. Er gwaetha’r fferru, af tua’r tonnau, Caf gysur o gosi’r llanw ar fy nhraed A’i deimlo’n crafu fy asennau, Mynnaf fynd ymhellach, iddo halltu fy ngwaed. O’r dim byd hwnnw, dychwelaf yn ôl I’r traeth gwag a hynt ei wynt gogleisiol. |