Ffiniau
|
Dacw ddynes yn clecian ei sodlau
ar hyd y carped coch o stryd, yn cadw golwg ar amser ei horiawr drud. I ble yr aiff hi? Cwestiwn dwl. ‘Singlei Abersoch,’ meddai hi yn golur i gyd a’r breichledi ar ei breichiau’n tincian wrth iddi ymbalfalu am ei phwrs boliog yn y bag llaw lledr. Estynna am y pwrs a lenwa’i llaw a thynnu â’i hewinedd cain, coch bapur ugain punt o’i grombil moethus. ‘Tair punt pum deg plîs del,’ dyweda’r gyrrwr wrthi. Hithau heb newid mân, llithra’r arian yn ara’ deg i’w law. ‘Cadwa fo,’ sibryda ef yn ôl, yna wincia. Swagra hi, yn ei sodlau a’i swae i’w sedd. *** Dyma un arall – tybed i ble yr aiff hon sy’n llusgo’i thraed ar hyd y palmant, dros y sblotsys o wm cnoi a phapurau fferins. Hon yn un sy’n cyfri’i horiau fesul stwmp sigarét. ‘Single,’ ebe hon. Saib. Ar y gyrrwr gwena hithau wên sy’n trio’i gorau i ddangos direidi y tu ôl i’r diffyg dannedd. ‘I Nefyn,’medda hi eiliad neu ddwy yn ddiweddarach. ‘Sgin i’m newid… sori,’ ddaw o’i genau wrth ollwng pedair punt i law’r gyrrwr un wrth un. Yntau ddim yn taro’r un golwg arni, dim ond crafu darn pum deg ceiniog o waelod y blwch plastig a’i sodro yn ei llaw. ‘Dyna chdi’,swta a gadael iddi. Sleifia hon yn swil rhwng y rhesi, wedi ’i chywilyddio. Eistedda ac arhosa, yn single i Nefyn. |