Tri llun, tair chwedl ac un Fedal Gelf
|
Penderfynais gystadlu eleni am y Fedal Gelf yn yr Eisteddfod Ryng- golegol yn Llanbed. Bob blwyddyn, mae cannoedd o fyfyrwyr Cymraeg yn dod at ei gilydd i fwynhau diwrnod gwyllt o gystadlu yn yr eisteddfod. Roedd Gwion Llwyd, Llywydd UMCA, wedi bod yn weithgar iawn yn ein hannog ni fyfyrwyr eleni i gystadlu yn y cystadlaethau gwaith cartref, yn ogystal â'r cystadlaethau llwyfan, ac roeddwn i’n ysu am gael mynd ati â’r fedal.
Mae diddordeb mawr wedi bod gen i mewn celf er pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd. Rydw i wedi cael nifer o brofiadau yn sgil y diddordeb hwnnw, yn cynnwys creu prosiectau gwahanol yn yr ysgol ac yn y coleg, ynghyd â phrosiectau personol, fel dylunio gwahoddiadau priodas. Felly gwelais fy nghyfle – byddai ymgeisio am y Fedal Gelf eleni'n gyfle anhygoel.
Y testun oedd ‘Y Chwedlau’. Fe wnes i fyfyrio am amser hir ynghylch beth y gallaswn i ei greu, a hynny er mwyn sicrhau fod y gwaith yn unigryw ac er mwyn iddo ddenu sylw. Penderfynais wneud y gwaith yn bersonol i mi. Mi es i ati i greu tri llun yn seiliedig ar y thema, a hefyd i'w cysylltu â thema'r môr. Dewisais y môr am fy mod i’n dod o dref arfordirol Porthmadog ac, erbyn heddiw, rwy'n astudio ger y lli yma yn Aberystwyth. Y tri lleoliad a ddewisais oedd Harlech, Aberffraw ac Aberystwyth, gan eu cysylltu â'r ddwy chwedl, Branwen ferch Llŷr a Chantre’r Gwaelod. Wrth i mi greu'r lluniau, fe ddysgais fwy am gefndir ac am hanes y chwedlau. Fy null arferol i o greu llun yw peintio â phaent dyfrlliw, yna ei sganio i’r cyfrifiadur er mwyn ychwanegu haenau at y llun gan ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol fel Illustrator a Photoshop. Yna byddaf yn ysgrifennu ar y llun, naill â’m llawysgrifen fy hun neu lawysgrifen oddi ar gyfrifiadur, gan ddefnyddio pastiliau a beiro inc du.
Pan gefais i wybod fy mod wedi ennill y Fedal Gelf, roeddwn i’n wên o glust i glust ac, yn wir, do'n i ddim yn gallu coelio’r newyddion. Roeddwn i mor hapus, ac yn barod i dderbyn y wobr fel aelod o UMCA. Nid oeddwn i fod i ddweud wrth neb, ond roedd yn rhaid i mi gael ffonio mam! Roedd hi wedi gwirioni. Er mai dod yn ail a wnaeth UMCA yn yr eisteddfod eleni, roedd pawb wedi cael diwrnod i'w gofio, un yn llawn chwerthin, yfed a dathlu. Ond nid oedd dod yn ail yn yr eisteddfod yn poeni dim arnaf i – roedd ennill y Fedal yn enw UMCA, ac ennill atgofion anhygoel yn ei sgil, yn brofiad cwbl arbennig.
|