Sgwrs â'r bardd, Elis Dafydd
|
Daw Elis Dafydd o Drefor yn Llŷn, ac ef oedd bardd cadeiriol Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r fro 2015. Bu’n fyfyriwr y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn ymchwilio i gyfeiriadaeth lenyddol a rhyngdestunoldeb y teyrngedau i Iwan Llwyd fel BA, ac i ddefnydd Twm Morys, Iwan Llwyd, Steve Eaves a Rhys Iorwerth o’r allweddeiriau ‘tŷ’, ‘lôn’, a ‘sêr’ ar gyfer ei MA. Bu’n un o’r beirdd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd 2013, ac yn gyd-olygydd gwadd ar y deugeinfed rhifyn o Tu Chwith. Cafodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Chwilio am Dân, ei chyhoeddi gan Gyhoeddiadau Barddas fis Ebrill.
Sut dechreuodd y diddordeb mewn ysgrifennu a barddoni? Roedd barddoniaeth o gwmpas y lle drwy’r amser pan o’n i’n tyfu i fyny – mewn emynau yn y capel (er nad o’n i’n hoff iawn o dywyllu’r lle hwnnw) ac yn y caneuon ar y radio. Ac yn ehangach mae defnyddio geiriau mewn ffordd drawiadol yn rhan o bopeth – o farddoniaeth ei hun i hysbysebion, er enghraifft, felly does gen i ddim cof o ‘ddechrau’ cymryd diddordeb. Ond pan o’n i’n fach roedd Mam yn mynd â fi a ’mrawd i nosweithiau barddol Twm Morys, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn a Geraint Løvgreen a’r rheini, ac mae gen i gof byw iawn o fod yn noson ‘Syched am Sycharth’ yn Harlech yn 7 oed, a’r noson yng Nghricieth i gyfarch Twm Morys am ennill Cadair Meifod 2003 yn 10 oed. ’Dw i’n cofio meddwl mai’r beirdd ’ma oedd y bobl fwya cŵl a ffraeth yn y byd. ’Dw i’n cofio darllen Stompiadau Podpan o’n i tua 11 – cyfrol hollol anllad ac anweddus oedd hi, ond doniol eithriadol hefyd ac fe fues i’n chwerthin am oriau wrth ei darllen hi. ’Dw i’n cofio darllen Hanner Cant, Iwan Llwyd pan oeddwn tua 14 oed, a stwff T. H. Parry-Williams ryw ddwy flynedd wedyn a chael fy nghyfareddu’n llwyr. Bron nad awn i mor bell â dweud bod ʽDychwelyd’, Parry-Williams wedi newid fy mywyd i. Fe brofodd y beirdd yma i gyd mor eang ydi cwmpas barddoniaeth, a bod barddoniaeth yn gyfrwng addas i ddweud popeth. Ond dechrau’r diddordeb mewn ‘barddoni’ yn hytrach na ‘barddoniaeth?’ Dim syniad – dim ond bod yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth roedd gen i ddiddordeb ynddo fo, am wn i, fel ffan o Jimi Hendrix yn penderfynu trio dysgu sut i chwarae gitâr. Enillaist y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Fro y llynedd, a elli di esbonio ychydig o gefndir y gerdd, ʽGwreichion’? Cefndir ʽGwreichion’ ydi ʽGwreichion’ arall – ʽGwreichion’ Iwan Llwyd, y dilyniant a enillodd Goron Cwm Rhymni iddo fo yn 1990. Ymateb i’r bleidlais ʽNa’ yn refferendwm 1979 oedd Iwan yn ei wneud ac ar ddechrau’r dilyniant rydan ni mewn mynwent wyntog ym Môn, mewn angladd ffermwr – symbol o’r Gymru a fu farw efo’r bleidlais ‘Na’ yn ’79. Ond yn y fynwent honno hefyd mae Rhys – symbol o’r Gymru newydd a fyddai’n pleidleisio ‘Ie’ yn refferendwm 1997 – yn cael ei genhedlu. Y syniad gefais i oedd bod Rhys bellach wedi dod i oed, yn rhywun tua’r un oed â fi, ac yn digalonni ac yn meddwl tybed pa obaith sy’n bodoli bellach cyn cael ei gyffroi gan refferendwm annibyniaeth yr Alban. Mae o’n mynd i fyny i Gaeredin, fel y gwnes i, gan obeithio gweld gwawr newydd yn torri yn y fan honno – ac yn digwydd disgyn mewn cariad ar yr un pryd. Yr ochr ‘Na’ enillodd, wrth gwrs, ond penderfyniad Rhys ar ddiwedd y gerdd ydi peidio â phoeni am y dyfodol; efallai mai marw fydd ein hanes ni, ein hieuenctid ni a’n hiaith a’n diwylliant ni a bob dim, ond os oes rhaid inni gicio’r bwced, yna rhoi cic mor swnllyd fel y bydd hi’n atseinio yng nghlustiau’r byd ydi’r ffordd o wneud hynny. Pwy fyddet ti’n cyfrif fel dy brif ddylanwadau llenyddol? ’Dw i wedi enwi Pod, T. H. Parry-Williams a Twm Morys, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Myrddin ap Dafydd a Geraint Løvgreen yn barod ond mae ’na ddegau y gallwn i eu hychwanegu atyn nhw. Emyr Lewis, Steve Eaves, Rhys Iorwerth, Mihangel Morgan, Leonard Cohen, Beirdd yr Uchelwyr, Wiliam Owen Roberts, John Rowlands, Saunders Lewis, Twm Miall, rhywfaint o Jack Kerouac ac Allen Ginsberg – rheini ydi’r rhai sy’n dod i’r cof. A oes gen ti ddiddordebau eraill? A oes elfennau o’r rhain sy’n dylanwadu ar dy gerddi? Mae fy meddwl i wastad yn mynd yn wag o unrhyw atebion pan mae rhywun yn gofyn be ydi fy niddordebau i – mae rhywun jyst yn byw ei fywyd ac yn cymryd diddordeb mewn gwahanol bethau rhag diflasu, am wn i. Dyna’n sicr ’dw i’n ei wneud, gan dreulio fy oriau hamdden yn cymryd diddordeb mewn pobl, hanes, gwleidyddiaeth, llefydd gwahanol, crwydro, cerddoriaeth a mynd i gigs a digwyddiadau eraill, mwydro ac yfed mewn cwmni difyr. O ran dylanwadu ar fy ngherddi i, mae diddordeb mewn hanes a gwleidyddiaeth yn siapio bydolwg rhywun hyd yn oed os nad ydi ei union ddaliadau o’n cael eu cynrychioli mewn cerddi, ond yn sicr mae cerddoriaeth a malu awyr efo pobl ddifyr mewn tafarnau wedi dylanwadu ar fy ngherddi i, ac fe fuaswn i’n dlawd iawn heb y dylanwadau hynny arna’ i’n bersonol hefyd. Beth yw dy darged di ar y funud a beth yw dy obeithion at y dyfodol? Ar y funud, does gen i ddim targedau na gobeithion mwy pendant na dim ond ‘Cymryd fy siawns a dawnsio, / Cymryd y byd fel y bo,’ i aralleirio T. H. Parry-Williams. Beth yw dy hoff ddarn o farddoniaeth? Wel am gwestiwn! Newid o ddiwrnod i ddiwrnod, ond mae’n siŵr mai’r darn ydw i’n troi ato fo amlaf ydi ʽGolygfa 10: Rhagfyr 1988 - Carol’ allan o ʽGwreichion’, Iwan Llwyd: Maddau’r cariad na roddais i ti, a boreau barugog y swta ffarwél, maddau’r gwin nad yfasom ni a’r p’nawniau diog na welsom eu hel: maddau’r gân na chenais i ti, a’r cyfrinachau na chawsom eu rhannu â’r sêr, a maddau’r defnyn o’n cyfeddach ni, o’r dagrau na wylasom sy’n weddill yn rhywle yng ngwaddod fy mêr. I mi, mae honna’n berffaith, ac yn un o gerddi mawr yr iaith. Beth yw’r cyngor gorau a gefaist ti erioed? ‘Snogia beryglon, swigia amheuon a phoeri breuddwydion i’r pafin. Nadda dy lais â’r geiriau gloyw, miniog sy’n dy ddallt. Paid ag ofni’r tywyllwch; tywyllwch sy’n gadael iti adnabod disgleirdeb y sêr. Paid â chysgu cyn rhyfeddu o leiaf unwaith. Cria’r dagrau sydd yng ngwaddod dy fêr dan chwerthin yn ymryson ffraethineb y bore bach.’ Darn o gerdd sgwennodd Guto, fy mrawd, imi ar fy mhen-blwydd yn 21. Hynna, neu’r cyngor ges i gan Mam cyn mynd i’r brifysgol: ‘Paid â chymryd drygs; mae’n nhw’n messo dy ben di lan, a mae dy ben di’n hen ddigon messed up yn barod.’ |