Ar Gastell Caernarfon
|
Er hoffter ‘Cah-doo’ ohono
Mae’r muriau yn gas gennyf i, Yn symbol o’r hen oresgyniad A’n gwendid a’n methiant ni. Ond eto, o strydoedd Caernarfon Yn chwifio yng ngolwg y byd, Fe welaf y ddraig ar bob baner A ninnau sydd yma o hyd. |