Trysor
|
Mae’n dipyn o enw i ddyn pum troedfedd ac ychydig, ond mae Dad-cu’n ddyn a hanner. Fy hen, hen dad-cu, y Capten John Beaufort sydd yn gyfrifol am ddau o enwau Dad-cu, a Dad-cu ei hun sy’n gyfrifol am un o’m henwau innau. Mae’r enw Beaufort yn gadwyn sy’n pontio cenedlaethau yn ein teulu ni.
Dwy genhedlaeth ymhellach yn ôl aeth Capten arall o’n teulu ni ar fordaith i Ganada, ac yn anffodus bu farw yn y wlad honno a’i gladdu mewn tref o’r enw Beaufort yn ne talaith Carolina. Ysgrifennwyd at ei wraig ’nôl yn Ffos-y-ffin, ger Cei Newydd, i ddweud wrthi am farwolaeth ei gŵr. Derbyniodd hithau’r llythyr ar yr un diwrnod ag yr oedd yn mynd i gofrestru genedigaeth eu mab newydd-anedig. Rhys David oedd enw’r mab, a drodd yn Rhys David Beaufort er coffa am ei dad. Mae’r môr yng ngwaed fy nheulu ac mae’r enw Beaufort yn don gyson sy’n torri ar draethau ein henwau ers cenedlaethau. Mae gan Dad-cu a minnau bererindod flynyddol i ddwy fynwent, ac un ohonynt ydy mynwent Hen Fynyw, ger Ffos-y-ffin. Mae’r olygfa o’r fynwent tua’r môr yn gefnlen heddychlon i’r lle ac yn arwydd hefyd o’r enw arall sydd ar y fynwent, sef mynwent y Beddau Gwag. Mae gan fy hen-dad-cu garreg fedd barchus yno, a’i garreg lwyd, lefn yn wynebu’r môr. Ond nid yw ei gorff yn y bedd hwn. Bu’r môr yn gyfrifol am sawl colled yn ein teulu ni, ac mae Dad-cu yn adrodd hanes ei dad-cu yntau fel pennod o lyfr hanes, gan na chafodd erioed gwrdd ag ef. Roedd y Capten Beaufort hwn yn gapten llong a lwyddodd i oroesi’r Rhyfel Mawr, ac fe gafodd cwmni masnachol yr ‘Anglo American Oil Company’ berswâd arno i dywys un llwyth olaf o olew o America ’nôl i Brydain ar fwrdd yr SS Ottawa. Ar y fordaith honno, diflannodd y tancer olew anferthol o wyneb y dŵr, a diflannodd pob signal radar yn ogystal. Boddwyd pob enaid byw oedd ar fwrdd y llong, a chymaint oedd nerth y ffrwydrad, fel nad oedd hyd yn oed olion olew i’w gweld ar wyneb y dŵr. Y rheswm tebygol am y diflaniad rhyfeddol yw bod ffrwydryn oedd yn arnofio ar y môr ers y Rhyfel Byd Cyntaf wedi taro’r llong, a’i chwythu i ebargofiant. ‘Hedd Perffaith Hedd’ yw’r geiriau ar garreg fedd y Capten Beaufort hwn yn Hen Fynyw, sy’n ddigon eironig o gofio’r ffrwydrad anferthol a’i hamsugnodd i ddyfnderoedd y môr. O gofio’r digwyddiadau o’r math hwn sydd yn britho hanesion y teulu, does dim syndod nad oedd fy nhad-cu yn orawyddus i fynd yn forwr! Roedd ei dad ar y môr pan anwyd Dad-cu, ym mis Chwefror 1933 yng nghanol yr eira mawr. Nid oedd Talgarreg, ei bentref genedigol, ond rhyw ychydig filltiroedd o Gei Newydd. Er hyn, roedd yn ddigon o bellter i Dad-cu beidio â theimlo bod tonnau’r môr yn ei alw ato. Fel ei ŵyr, rwy’n gweld Dad-cu bob dydd gan ei fod yn dad-cu ac yn gymydog imi, ac felly mae’n anodd imi gredu na welodd Dad-cu ei dad yntau nes ei fod yn dair blwydd oed. Darlunia Dad-cu y profiad o gwrdd â’i dad fel cwrdd â dyn dieithr pan aeth i borthladd Caerdydd i’w gyfarfod am y tro cyntaf. Gwrthododd Dad-cu fynd yn agos at y morwr ond cafodd ei berswadio, yn llawn chwilfrydedd, i gamu ar fwrdd y llong. Yno, cafodd ymweld ag ysblander caban y Capten ond roedd ei swildod yn ormod iddo, ac fe gafodd bi-pi ar y llawr! Ymhen rhai blynyddoedd o deithio’r byd, fe drodd y Capten llong yn dad unwaith yn rhagor, gan ddychwelyd i Dalgarreg at ei deulu. Yn sicr, mae Dad-cu yn trysori’r blynyddoedd hynny, a phrofiadau ei dad ar y môr ac mewn gwledydd pell wedi ei wneud yn dipyn o storïwr erbyn iddo ddychwelyd tuag adref. Un da yw Dad-cu am adrodd stori, ac mae’n sicr iddo ddysgu gan feistr, a oedd hefyd yn medru ymestyn pob stori i’w siwtio. Pan mae Dad-cu yn ei hwyliau, mae e wrth ei fodd yn adrodd straeon am ddychweliad ei dad o’r môr i Dalgarreg wedi’r Ail Ryfel Byd. Ei arfer oedd dechrau pob stori gyda ‘Pan oeddwn i yn America’; neu ‘Pan oeddwn i yn yr India’ … ac roedd yn llwyddo i synnu a rhyfeddu trigolion y pentref nad oeddynt wedi gweld ymhellach nag Aberaeron yn aml. Trysora Dad-cu sawl peth sy’n ei glymu wrth y môr; cist teithio fy hen-hen dad-cu, telesgôp ei dad-cu ynghyd â Bwda bach efydd y daeth ei dad adre o’i deithiau mynych i’r Dwyrain Pell. Roedd yr egwyddorion roedd y Bwda bach yn eu cynrychioli wedi taro tant Capten Beaufort, ac mae’r eangfrydedd hwnnw yn rhywbeth mae fy nhad-cu wedi ei etifeddu. Dydy Dad-cu ddim yn beirniadu na bod yn unochrog fyth, mae ei feddwl, fel byd ei gyn-deidiau, yn eang. Llwyddodd Dad-cu i ennill ei le yn un ar ddeg oed yn Ysgol Ramadeg Aberaeron, a hynny, yn ei farn ef oherwydd dylanwad aruthrol ei athro cynradd arno. Medra ddyfynnu englynion a chywyddau rif y gwlith, oherwydd y parch a roddai ei brifathro yn Ysgol Talgarreg at ddysgu barddoniaeth ar y cof. Roedd Mr Tom Stephens, y Prifathro, yn gyfaill pennaf i Brifardd Talgarreg, Dewi Emrys, a byddai ef hefyd yn ymwelydd cyson â’r ysgol. Adeg Sul y Blodau bob blwyddyn, mae pererindod Dad-cu a minnau yn mynd â ni i fynwent Hen Fynyw a hefyd i fynwent Pisgah yn Nhalgarreg. Yno, mae tri chyfaill pennaf yn gorwedd mewn rhes: Dewi Emrys, Tom Stephens a Capten Beaufort. Rhoddwn flodau yn flynyddol ar y tri bedd. Mae’n siŵr, yn ei is-ymwybod, bod ei Brifathro yn Nhalgarreg wedi arwain gyrfa Dad-cu i fod yn Brifathro ei hun, ond llwyddodd Dad-cu i weld cryn dipyn o’r byd cyn hynny. Er nad ydy’r môr yn ei waed, mae teithio yn sicr yn elfen bwysig ohono, a hoffa fynd ar dramp o hyd. Wedi gadael yr ysgol fe aeth yn brentis fel pensaer i swyddfeydd cyngor Ceredigion, gan ddysgu crefft fanwl a chywrain sydd ganddo hyd heddiw. Ar welydd ein cartref ni, mae darluniau pensaernïol a wnaeth Dad-cu fel rhan o’i brentisiaeth, ac mae ôl ei law ddiwyro a’i ofal manwl yn amlwg ar y darluniau hyn. Yn debyg i Dad-cu ei hun, mae lle i bopeth a phopeth yn ei le. Gorfu iddo adael ei fesur a’i ddesg a threulio blwyddyn yn gwneud gwasanaeth milwrol gorfodol yn y Royal Engineers. Mae’n amlwg iddo fwynhau ei hun, gan iddo ymestyn ei gyfnod yn y fyddin a theithio i Singapore, a oedd yn rhyfela yn erbyn y comiwnyddion ar y pryd. Ymddengys iddo ddatblygu rhinweddau arwain yn y fyddin, gan iddo gael ei wneud yn un o Sarjants ieuengaf ei gatrawd erioed. Golygai hynny cryn dipyn o fanteision yn Singapore: roedd ganddo ei dŷ hardd ei hun, a morwyn i ofalu amdano. Mae Mam-gu’n grediniol o hyd bod llawer o fai ar y forwyn fach hon am nad ydy Dad-cu’n fawr o foi am gadw tŷ o hyd! Er y ffordd o fyw, cyfeiria Dad-cu o hyd at y brwydro ffyrnig a welodd yno, a’i fod yn gorfod bod yn wyliadwrus bob awr o’r dydd. Cafodd gyfle i aros yno, a pharhau â gyrfa yn y fyddin, ond roedd rheswm gan Dad-cu i ddychwelyd i Dalgarreg, a Mam-gu oedd honno. Fe weithiodd Dad-cu yn galed i gael gafael ar Mam-gu. Symudodd hithau yn ei harddegau i Dalgarreg a dod yn destun sylw i lawer. Mae gan Mam-gu gof ohono yn Ysgol Ramadeg Aberaeron yn sefyll yn rhy aml y tu allan i ddrws y Pennaeth, ac felly ni thalai lawer o sylw i’r bachgen drygionus, penddu o’r pentref. Er hyn, fe fynnodd Dad-cu ei sylw hithau. Pan sylweddolodd Dad-cu ei bod hi wedi dechrau caru gyda dyn arall, fe sleifiodd yntau a’i ffrind i glos y fferm a gadael y gwynt o bob un teiar yn ei gar. Fe gofiaf ychydig o flynyddoedd yn ôl, a Dad-cu a minnau yn aros yn syrjeri’r meddyg, inni gwrdd â’r dyn hwn eto. Doedd Dad-cu ddim wedi’i weld ers iddo fod â’i fryd ar Mam-gu, ac er ei gwrteisi ymddangosiadol tuag ato, roedd ei falchder mai ef a gipiodd galon Mam-gu dal yn amlwg. Fe sibrydiodd yn llawn drygioni imi, “Ti’n lwcus mai fi yw dy dad-cu di, ’drycha. Allet ti fod wedi cael hwnna yn lle!” Wedi perswadio Mam-gu i’w briodi, a chwblhau cwrs dysgu yng Ngholeg y Drindod, bu Dad-cu yn athro Daearyddiaeth ac Ymarfer Corff mewn ysgol uwchradd ger Manceinion. Dychwelodd i Gymru yn brifathro ar Ysgol Gynradd Penuwch, yna i Lanwnnen ac fe orffennodd ei yrfa yn brifathro yn Ysgol Gynradd Ffynnonbedr, Llambed. Sonia byth a beunydd sut mae pethau wedi newid ym myd addysg, a rhyfedda nad ydwyf yn gorfod gwisgo tei i’r ysgol ac nad ydy pawb yn gwybod eu tablau ar eu cof. Fe ddysgodd Dad-cu fy mam a fy modryb yn Ysgol Gynradd Llanwnnen, ac maent yn cofio athro a oedd yn mynnu llawysgrifen daclus, yn mynd â’r ysgol gyfan ar deithiau natur ac yn medru enwi coed a blodau’r fro. Cofian nhw am athro oedd yn darllen barddoniaeth a nofelau yn hudolus i’w ddosbarthiadau, ac athro nad oedd byth yn mynd â nhw i Eisteddfod yr Urdd gan nad oedd yn mwynhau gweld plant yn cystadlu yn erbyn ei gilydd! Mae Dad-cu wedi ymddeol ers imi ei adnabod, ac er ei fod yn wyth deg a phedair oed bellach, mae’n parhau i gymryd diddordeb byw yn y byd a’i bethau. Gollyngodd Dad-cu ei angor a bellach ei gadair gysyrus yw ei borthladd tawel. Pan ddychwelaf o’r ysgol, bydd y sbectol gwdihŵ yn fy nghyfarch o’r ffenestr a phaned o de wrth y bwrdd bach sy’n dal ei lyfr, ei hances a phowlen o ryw ffrwyth. Ymgais Mam-gu iddo fwyta’n iach yw’r bowlen ffrwythau, ond mae ei ddant melys yn drech na’r bowlen yn aml. Ar adegau, ceir ychydig o gryndod yn ei ddwylo ond nid oes neb yn dweud dim amdano; gwylio’r crynu a chau’r geg sydd orau. Dioddefa o haint cyson ar ei ysgyfaint sy’n achosi pyliau peswch difrifol, ac eto, pasio’r hancesi ac aros i’r pwl ddod i ben sydd orau. Britho mae’r gwallt tywyll, ac mae’r llygaid barcud yn gwibio i bobman, yn colli dim. Mae’n fain o gorff o hyd, ac mae modd deall sut y bu’r dyn hwn yn joci mewn rasys lleol yn ei laslencyndod. Mam-gu a Radio 4 yw ei ddau gymar cyson, ac mae ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn fyw ac yn effro. Teimla’n hynod falch o lwyddiant Elin Jones, ein haelod Cynulliad, gan iddo ei dysgu yn yr ysgol gynradd. Bydd Dad-cu yn aros ar ei draed drwy gydol noson etholiad ac mae’n byw cyffro’r cyfrif. Fe benderfynodd noswylio cyn y canlyniad adeg y refferendwm ar Ewrop, ac mae’n gredinol y byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol pe bai wedi aros yn effro! Medda ar feddwl miniog, chwim, ac mae’n anodd i’w guro mewn dadl. Darllena’n frwd, a chwaraeon yw ei ddiddordeb mawr arall, ac rydyn ni’n dau wedi treulio oriau yng nghwmni’n gilydd gyda Sky Sports yn gyfaill triw. Gwaetha’r modd, mae ganddo glyw gwael, ac felly rwy’n gyfarwydd erbyn hyn â gwylio gêm bêl-droed gyda’r sain yn atsain drwy’r pentref! Cerdda â herc ac ar bwysau ffon erbyn hyn, ond nid yw’r poenau’r crudcymalau yn drech ag ef. Mae’n parhau yn gwmnïwr da, ac rwy’n clywed ei chwerthin lond y tŷ pan fo cwmni ganddo yn y lolfa. Yn aml, bydd yn sleifio gwydraid bach o chwisgi i ddwrn ei bartner, gan fynnu mai’r diferyn lleiaf o ddŵr ddylai fod yn unig gwmni i’r gwirod. Un o’i hoff bethau erbyn hyn yw trefnu gwyliau, ac er bod y teithiau i Seland Newydd a Chanada bellach wedi’u newid i deithiau i fwynhau gwres Sbaen, mae’r awydd i deithio’r byd yn y gwaed. Mae wedi ymweld â’r pum cyfandir, fel ei gyn-deidiau gynt. Rwy byth a beunydd yn sillafu fy enw canol i wahanol bobl, a phan oeddwn yn iau, roeddwn yn pitïo nad oedd gen i enw canol ‘normal’ fel pawb arall. Bellach, rwy’n trysori’r Beaufort, yn deall yr hyn y mae’n ei ddweud am ein teulu ni a’n teithiau drwy’r byd. Llinyn di-dor ydyw, yn gwlwm cariad; yn hanes ac yn ddyfodol. |