Tri thriban
|
Tri pheth sy’n codi calon
Yw heulwen, jin a chwpon. Caf weld y tri pheth gyda lwc Gan grwc o’r enw Meirion. Un tro fe blennais haden, Fe dyfodd coeden onnen, A hon oedd coeden dala’r fro, A Chymro oedd ei pherchen. Wrth joio gyda’m ffrindiau Ar dywod ac ar donnau, Fe droediwn ni’r holl gerrig mân A chynnau tân llawn lliwiau. |