UMCA
|
Ni’r criw bach sy’n crebachu, a ni’r llu
draw o’r Llew sy’n rhygnu am ‘heniaith’, rhai sy’n mynnu ail-fyw rhyw hen hwyl a fu. Ni’r rhai gwan (heb ru gennym) yw’r saddos, cras ydy’r sŵn wrthym; idiots o Gymry ydym, eithafwyr annifyr ŷm. Ni y niwsens ynysig yn ein hall, ni’r hen hiliaeth 'styfnig, a ni’r dicks a geidw’r dig yn gadarn o gaeedig. 'Mond hwrian, mynnu twrw yn y man fel maniacs ar herw; cadw stŵr, yfed cwrw a meddwi wnawn … medden nhw! |