Adolygiad: Byw yn fy Nghroen gan Sioned Erin Hughes
|
Adolygiad oddi ar wefan gwales.com, drwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Dyma gyfrol lle y mae deuddeg o bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed yn rhannu eu profiadau o fyw â chyflyrau iechyd hirdymor yn agored ac yn onest. Rhoddir sylw i amrywiaeth eang o gyflyrau: iselder, gorbryder, cancr y gwaed, anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), ‘spina bifida’, clefyd y siwgr math 1, epilepsi, ‘ulcerative colitis’, clefyd ‘stargardt’, CFS/ME, acne a ‘myasthenia gravis’. Mae enwau rhai o’r cyflyrau yn gyffredin, ond mae’n bosib mai dyma’r tro cyntaf i nifer ohonynt gael eu trafod yn gyhoeddus yn Gymraeg. Egyr y gyfrol â rhagair gan y golygydd, Sioned Erin Hughes, sy’n egluro mai nod y gyfrol yw rhoi ‘llais i’r sawl sydd wedi ofni eu geiriau eu hunain cyhyd, a hynny ar gownt y stigma’, gan – ddangos hefyd nad yw bywyd pobl ifanc yn fêl i gyd. Ceir rhestr hynod o ddefnyddiol o beth y dylid ac na ddylid ei ddweud wrth rywun sy’n byw â salwch neu gyflwr hirdymor. Er enghraifft, gall rhywbeth mor syml â gofyn ‘Sut wyt ti’n teimlo heddiw?’ fod o gymorth mawr. Rwy’n siŵr y bydd rhestr o’r fath yn annog sgyrsiau gan fod pobl yn fwy hyderus eu bod yn gwybod beth i’w ddweud. Ceir strwythur a fformat gwahanol i bob pennod, gyda rhai cyfranwyr yn rhannu sut mae’r salwch wedi effeithio arnynt wrth iddynt dyfu i fyny, ac eraill yn penderfynu canolbwyntio ar gyfnod penodol. Er enghraifft, cofnod o ddiwrnod gydag OCD a gawn gan Elis Derby, sy’n dangos bod symptomau ac effaith cyflyrau o’r fath yn amrywio yn ddyddiol. Pwysleisir hyn hefyd gan Mared Jarman, a ddywed nad yw ei golwg hi’n gyson: ‘mae’n newid o ddydd i ddydd, o awr i awr, o ystafell i ystafell, ac o berson i berson.’ Mae’r profiadau a rennir yn y gyfrol hefyd yn llwyddo i chwalu mythau am rai o’r cyflyrau. Wrth feddwl am ‘epilepsi’, mae’n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom yn meddwl yn syth am ffitiau. Ond mae darn Liwsi Mô yn ein haddysgu am fath penodol o epilepsi, sef Atypical Absence Epilepsy. Yn yr un modd, mae Elis Derby yn chwalu’r stereoteip niweidiol mai gair i ddisgrifio person taclus neu drefnus yw OCD drwy ddisgrifio’r ‘meddyliau drwg’ a gaiff: ‘darluniau o weld aelodau o fy nheulu yn cael eu hanafu’n ddifrifol mewn damwain car.’ Cyfeiria nifer o’r cyfranwyr at y rhwystredigaeth sy’n medru codi o fyw â’r cyflyrau, nifer ohonynt yn rhai anweledig, o ddydd i ddydd. Rhwystredigaeth o anwadalrwydd y salwch, o golli rheolaeth ar eu corff, am ddiffyg iachâd penodol, am fethu â gwneud rhai pethau, am orfod dysgu byw â’r cyflwr am gyfnod hir ac am nad oes modd iddo ddiflannu’n llwyr. Yr hyn sy’n gwneud y gyfrol yn arbennig yw'r modd y plethir cyflyrau corfforol a meddyliol. Wedi’r cyfan, mae’n anodd meddwl am unrhyw salwch neu gyflwr na fyddai’n cael effaith negyddol ar sut mae rhywun yn teimlo. Cyfeiria Lois Mererid Williams at yr unigrwydd yn sgil ‘fod ’na neb arall yn dallt ‘go iawn’. Cofnoda Sioned Erin Hughes hefyd fod sgileffaith cyffuriau i drin Myasthenia Gravis yn medru cynnwys mathau o iselder, gorbryder, hysteria a pharanoia. Drwy rannu eu profiadau personol mor agored ac onest, cawn ein haddysgu am realiti byw â chyflyrau hirdymor o ddydd i ddydd. Cawn ddarlun gonest a real o’r cyflyrau, a hynny heb fod yn orddramatig. Er bod y cyfraniadau yn bwerus ac yn ddirdynnol ar adegau, mae gobaith yn amlwg ym mhob un ohonynt. Mae’r gyfrol yn rhoi llais i’r cyfranwyr i rannu eu profiadau, a thrwy hynny addysgu’r darllenwyr am gyflyrau y mae nifer ohonynt yn ddieithr. Mi wnes i yn sicr ddysgu llawer am y cyflyrau a dysgu rhywbeth gan bob un o’r cyfranwyr. Rwy’n siŵr bod darllenwyr sydd â phrofiad o’r cyflyrau hefyd yn cael budd a chysur o fedru uniaethu â’r profiadau a rennir. Er mai cyfraniadau gan bobl ifanc a geir yma, mi fuaswn i’n annog pawb i’w darllen, gan fod y cyflyrau iechyd a drafodir yn medru effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed. Rwy’n mawr obeithio y bydd y gyfrol hon yn esgor ar gyfrolau tebyg, ac y bydd mwy o bobl yn teimlo’n gyfforddus i rannu ac i drafod eu profiadau yn agored. |