Diwrnod yng Nghoed y Foel
|
Gwelir y buarth wrth droi i fyny wrth y stabl, lle mae’r gwely blodau di-chwyn yn denu’r llygad bob tro. Parcia Mam y car a rhedaf i’r tŷ, fel plentyn yn rhuthro i siop fferins. Bu’r drws ar agor drwy’r dydd, fe wn, a Nain yn brysur yn coginio. Felly y bydd pan na fydd angen ei help ar y fferm, lle mae Taid yntau’n llafurio o fore gwyn tan nos.
Arogl siytni betys, finegr a nionod yn berwi. Mae’r bwrdd yn llawn hen jariau jam gweigion yn barod i’w llenwi a’u rhoi yn eu cartref newydd ar y silff yn y deri. Bydd pob un o’r jariau yn ei dro’n addurno’r prydau bwyd dros yr haf. Tynnu fy welintons wrth y drws ac estyn hen bâr o sliperi Taid o’r sbensh. Yn reddfol, estynna Nain gwpanau o’r cwpwrdd a chychwyn paratoi’r te. Wrth iddi roi’r te i fwydo yn y tebot sy’n berwi’n dragywydd ar y Rayburn, af i’r deri i weld pa gacen sydd ganddi yn y tun y tro hwn. Mae’r llawr carreg fel rhew gefn gaeaf, a sliperi Taid, sydd wedi gwisgo bron i’r pen, yn dda i ddim. Ar ben y rhewgell y mae’r tun, yn ymyl gweddillion cig eidion cinio ddoe, a fydd yn ginio ac yn swper i Nain a Taid am ychydig ddyddiau eto. Cip yn y tun – cacen lemon Nain, fy ffefryn. Yn ôl yn y gegin, torra Nain sleisen o gacen yr un i bawb, a sicrhau fod fy sleisen i’n un dew. Mae pawb yn eistedd yn eu seddau arferol pan ddaw Taid i’r tŷ am baned. Hanesion y dydd yw’r pwnc trafod, a Taid yn tynnu coes ac yn ein herian am bopeth. Pwyso’r ŵyn y mae o heddiw, yn barod at y mart ddydd Iau, ac mi ydyn ni i gyd yn awyddus iawn i helpu. Llyncu’r baned er mwyn cael gêm gyflym o pŵl, a brasgamu i’r parlwr drwy’r gegin orau, lle mae’r ddreser a’r cwpwrdd tridarn yn sefyll yn eu holl ogoniant. Maen nhw’n gymaint rhan o’r ystafell â’r papur wal, a’r cyfan yn drewi o farnais. Bron nad yw Nain a Taid yn eu trin fel aelodau o’r teulu, gan ein hatgoffa ni byth a hefyd i edrych ar eu holau pan fyddant yn eiddo i ni. Mae’r bwrdd pŵl yn y parlwr wedi gweld dyddiau gwell. Ond fe fydd, heb os, yn sefyll am flynyddoedd lawer eto. |