Chdi, Fi a'r Botel
|
Ani
Gaa 4 shot o Vodka Fanta Oren Treuliais fwyafrif o’r bore yn stwnan o gwmpas fy stafell newydd, ac er bod sawl wyneb cyfarwydd wedi’u fframio a’u dotio ar hyd y waliau gwyn, a oedd yn fy atgoffa i o waliau Ysbyty Gwynedd, roedd popeth eto mor anghyfarwydd. Y single bed pren golau yng nghornel dde’r stafell, y carped crinllwyd o dan fy nhraed, a’r dodrefn tri shade gwahanol o frown. Peth rhyfedd oedd meddwl mai’r stafell hon y bydda’ i’n ei galw’n ‘adra’ ar ôl ’chydig wythnosau, a hitha’n teimlo mor ddiarth. Roedd tua chwech wedi cyrraedd y fflat erbyn hyn, a dw i’n siŵr fy mod i’n cofio un yn swogio yng Nglan-llyn hefo mi. Merch ddigon dymunol o be dw i’n ei gofio, ond fedrwn i’m yn fy myw gofio’i henw hi. “Os na wnei di ffeindio ffarmwr tuag Aber ’ma, does gen ti’m gobaith ffeindio un o gwbl!” meddai Nain Cath yn bryfoclyd wrth blygu fy nillad yn dwt ar y duvet newydd blodeuog. “Wel, gobeithio bod ffarmwrs y de yn well cop na rhai y gogledd felly Nain.” “Mi fysa Siôn Pwll Glas ’di gneud cariad bach neis i ti, Ani,” taerodd Nain, “ond waeth i chdi beidio â meddwl am hwnnw rŵan, mae o ’di setlo hefo merch Arwyn Bryn Awel erbyn hyn.” Rhuthrais i gau’r drws pren trwm cyn dwrdio Nain i fod yn ddistaw rhag i un o’r fflat glywed am un o fy nghyn-gariadon cyn hyd yn oed fy nghyfarfod i ... a phwy a ŵyr pwy ’sa’n nabod Siôn, hen gi oedd o hefo’r merched. Wedi oriau o ddadbacio fy mywyd allan o gês a oedd bron yn fwy na ’nghorff, roedd rhaid ffarwelio gyda Nain. Gafaelais yn dynn am ei chorff esgyrnog, brau gan sychu fy nagrau gyda fy llawes wlyb ar yr un pryd, rhag iddi weld yr hiraeth ar fy wyneb. Cymerais anadl ddofn er mwyn gwneud yn siŵr ’mod i’n cofio’i harogl cartrefol. Gwyliais y car yn dringo allt Penglais ac yn diflannu ar y gorwel. Dim ond fi oedd ar ôl, yn fach mewn stafell ddieithr ond a oedd bellach yn llawn pethau cyfarwydd. “’Sa i’n gwybod beth i’w wisgo heno, Beth!” sgrechiodd un o’r merched yn y coridor. Agorais ddrws fy stafell yn araf a sbecian i weld pwy oedd yno. Safai dwy ferch ym mhen pella’r fflat yng nghanol pentwr o ddillad lliwgar ar lawr. Mentrais gyflwyno fy hun i’r ddwy, a chofio mai Alys oedd enw’r ferch yng Nglan-llyn. Merch hyderus, a oedd yn barod i ddweud ei dweud, ac mi o’n i’n gallu tybio ar ôl dim ond hanner awr yn ei chwmni ei bod hi am fod yn un o’r merched ’na oedd pawb yn ei haddoli. Honnodd ei bod yn gwybod y triciau i gyd am sut i oroesi Wythnos y Glas, am i’w chwaer dreulio y ‘tair blynedd ore’ yn Aber. ‘Dim ond i chi roi clec i beint o Gaa yn Harry’s cyn mynd am y Llew ac mi fyddech chi’n siarad ’da pawb a’u mam-gu, ferched.’ Gwenais yn ansicr ar Beth, gan feddwl am Mam hefyd yn rhoi clec i botel heno, a staen y cyffur coch yn glais ar ochr ei gwefus. Gaynor Shiraz ‘Moment o ias a degawdau’n datod.’ ‘Alcoholiaeth’, Aled Jones Williams Gwyliais y waliau gwyn yn troi’n ddu wrth iddi nosi, a theimlo’r cysgodion yn fy mygu yn y tywyllwch. Roedd y distawrwydd yn fyddarol. Gorweddais yn fy ngwely’n teimlo’n fwy marw nag o’n i’n fyw, gan feddwl am Ani’n chwerthin yn aflafar yng nghwmni ei ffrindiau newydd. ’Na chdi ferch hunanol yn gadael i’w Mam bydru yn ei gwely, tra’i bod hithau’n meddwi’n dwll gyda’i ffrindiau newydd. Estynnais am y botel o Shiraz ar ochr y gwely, a llowcio’r gwenwyn coch tan fy mod i’n fyr o anadl. Dyna braf oedd y teimlad ohono’n llithro i lawr fy ngwddw ac yn fy ngwenwyno fesul cegaid. Meddyliais amdani’n gadael gyda’i Nain bore ’ma, a’i hwyneb hiraethus yn fy nghorddi i’r byw. Ei byd wedi’i bacio’n flêr mewn cês a bocsys cardbord llychlyd. Dyna braf byddai cael dianc. Sefais yn droednoeth ar y concrit oer, a’r cerrig bychain o dan fy nhraed yn brathu fy ngwadnau. Ro’n i'n gwybod y byddai gweld ei Mam yn ddim byd ond esgyrn mewn coban wrth droed y car yn gwenwyno ei meddwl ar ei thaith i Aberystwyth, ac fe roddodd hynny wefr o bleser imi. Dygais ei geiriau olaf i’m cof, ‘Dw i jyst isho ti wella, Mam,’ meddai’n dawel gan fwytho fy llaw. ‘Os ’sa ti isho fi’n well, ’sa ti’n aros adref.’ Poerais yn greulon, eto yn gwybod y byddai fy ngeiriau’n ei harteithio ar y daith. Cropiais yn ôl i fy ngwely’n fodlon o ’ngorchest, cyn estyn am y botel nesaf. |