Cau
|
Eistedda Ifan ap Gwynfor ap Madog ap Llywelyn mewn swyddfa ddestlus ym Mae Caerdydd. Adlewyrcha pelydrau’r haul gwanllyd oddi ar y môr olewydd, disgleirio drwy’r ffenestri mawrion, a thaflu eu golau gwelw ar y welydd, y desgiau a’r lloriau sydd i gyd fel y galchen. Mae Ifan ap Gwynfor ap Madog ap Llywelyn yntau yn go welw hefyd. Heddiw, fe gafodd ddyrchafiad, ac yng ngeiriau ei ddiweddar ddat-cu, mae Ifan yn … cachu pants. Roedd Ifan yn dwlu ar ei ddat-cu, yn dwli ar ei welis a’i dractor, ei ŵyn swci a’i regfeydd diddiwedd. Duw a ŵyr beth fyddai ei ddat-cu yn ei ’weud nawr yn ei weld e fan hyn, yn y flwyddyn 2030.
Teitl swydd newydd Ifan ap Gwynfor ap Madog ap Llywelyn yw ‘Cyd-lynydd Strategaeth Goroesedd Cymunedol’ i Lywodraeth Cymru; ond ni fyddai’r teitl hirfaith a’r swyddfa swanc wedi creu unrhyw argraff ar ei ddat-cu, cymeriad oedd yn bwysig iddo fe. ‘Hysbys y dengys dyn o ba radd y bo’r wreiddyn’ oedd ei hoff ddyfyniad. Good old Tudur Aled, meddylia Ifan, roedd e wedi’i deall hi. Er mai swydd dat-cu oedd ffarmio Tyddyn Llan a bod swydd Ifan ym Mae Caerdydd, mae tebygrwydd i’w disgrifiadau swyddi, sef achub cefn gwlad. Yn ôl cytundeb swydd newydd Ifan, mae ganddo chwe mis i wneud hynny. Chwe mis i achub elfen gwbwl hanfodol o hunaniaeth Cymru, elfen mae pawb yn dechrau ei diystyru. Mae’n ystyried ei bod yn well iddo gychwyn ar ei waith felly. Clatsho bantfyddai dat-cu wedi’i ddweud. At: Uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru Ynglŷn â: Achub Cefn Gwlad Annwyl Swyddogion, Rwy newydd gael fy mhenodi i swydd newydd sef ‘Cydlynydd Strategaeth Goroesedd Cymunedol’ a hoffwn greu llawlyfr byr o syniadau ar gyfer gwahanol gymunedau yng ngorllewin Cymru. Byddwn yn falch iawn pe baech yn medru danfon adborth imi ar y gwaith cyn imi ei rannu ymhellach. Bydd y bennod gyntaf yn eich cyrraedd yn y diwrnodau nesaf. Yn gywir, Ifan ap Gwynfor ap Madog ap Llywelyn Synna at weld ymateb i’w e-bost yn syth bin. Cilwena wrth iddo ystyried ei fod yn dechrau gwneud gwahaniaeth yn barod. Fe’i cymeradwya ei hun … At: Ifan ap Gwynfor ap Madog ap Llywelyn Ynglŷn â: Achub Cefn Gwlad Good luck with that one mate! Wouldn’t want to be in your shoes! Dafydd Ha blydi ha. Mae Dafydd Jones yn boen, yn gyn-ddisgybl o un o ysgolion Cymraeg uchel eu parch ac uchel eu cloch Caerdydd. Er ei fod yn atgoffa pawb o’i bedigri Cymreig nid yw byth yn yngan yr un gair o Gymraeg wrth neb. Roedd Ifan yn ffrindiau ysgol gydag e, wel, wedi mynychu’r un ysgol o leiaf. Pobl fel ef oedd y rheswm pam bod mam a thad Ifan yn ei ddanfon i’r Gorllewin i ffermio bob haf, am mai dyna ble roedd y Gymraeg wir yn cael ei siarad, nid ar enau Dafydd a’i sort. Gwyddai rheini Ifan ei fod yn bwysig iddo wybod nad Canton oedd Ceredigion a bod mwy i’r Gymraeg na chymhwyster TGAU ychwanegol, neu gynnig diamod i Brifysgol Bangor. At: Dafydd Jones Ynglŷn â: Achub Cefn Gwlad Mae mwy o obaith ’da fi i lwyddo gwd boi, sy’n fwy na alli di ddweud gyda dy job di … sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050??!! Good luck with that one, mate! Wela i ti yn Clwb Ifor nos fory, ma dal arnat ti beint i fi ers tro dwethaf. Ifs Gwyddai’n na fyddai’n cael peint ganddo ond o leiaf mae’n atgoffa Dafydd o’i ddyled. Mae’n rhaid dechrau ar y gwaith, a pheidio whilbero mwg drwy’r dydd (dat-cu ’to) … Llawlyfr ar gyfer Cymunedau Gwledig – Pennod 1 (drafft) Cred Llywodraeth Cymru ei bod hi’n hollbwysig fod Cymru benbaladr yn gymunedau llewyrchus a ffyniannus a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at ddyfodol ein gwlad. Mae cymunedau gwledig yn bwysig iawn inni ac rydym yn cynnig llawer o strategaethau a chynlluniau er mwyn annog pobl i fyw bywyd llawn y tu hwnt i brifddinas Cymru, a hynny drwy’r Gymraeg hefyd. Mae Ifan yn falch o’i ymdrech gyntaf. Cred ei fod yn dangos parch i gefn gwlad ac yn cyfleu bod Llywodraeth Cymru eisiau helpu. Penderfyna Ifan fod angen iddo ymchwilio ymhellach i’r strategaethau a chynlluniau sy’n helpu cefn gwlad. Mae’n 4.00yp ac mae’n rhaid llenwi awr o’i amser cyn iddo seiclo adref, felly mae’n sgrolio drwy Facebook. Dychwela i’w fflat yn y Bae, ryw hanner can llath o’i swyddfa. Mae’n bwrw bwyd o M&S i’r meicrodon, rhentu’r ffilm ddrutaf ar Sky Movies a hel meddyliau i gyfeiliant rhegfeydd Al Pacino a chlep gwn. Mae’r fflat yn wag oni bai am Ifan, felly does neb i’w ddihuno pan mae’n cwympo i gysgu ar y soffa gyda gweddillion findalŵ ar hyd ei swch. Mae’n codi drannoeth, llyfu ei wefusau a cherdded i’r toilet i yfed yn syth o’r tap, golchi ei wyneb a chwistrellu gormod o Lynx Africa dros ei gorff zombie gwelw. Er ei fod yn byw ar yr ail lawr mae’n gorchmynnu’r lifft i’w gasglu, mae’n cerdded y camau byrion i’w swyddfa wen yn llipa a’i gyfrifoldeb newydd bron yn ormod iddo’n barod. Mae’n troi ei olygon at dasg y dydd, sef ymchwilio i’r strategaethau a’r cynlluniau sy’n helpu cefn gwlad. Dechreua dyrchu drwy wefan fewnol y Llywodraeth, storfa pob dogfen a grëwyd erioed. Mae cannoedd o filoedd yma. Tynna un ei sylw, ‘Strategaeth ar gyfer yr ifanc yng nghefn gwlad’. Gwna Ifan nodiadau wrth ddarllen; mae ei grynodeb o’r cynnwys yn fyr:
Edrycha Ifan ar ddyddiad cyhoeddi’r strategaeth, Tachwedd 2019. Hen beth o’r oes a fu, move on, ap Gwynfor ap Madog ap Llywelyn, move on, mae Cymru wedi gweddnewid ers hynny. Chwilia eto. Gwêl strategaeth arall, ‘Polisi ar gyfer creu cyfleoedd hamdden yng nghefn gwlad’. Reit, beth am hwn? Darllena’n frwd. Mae ei nodiadau yn lleihau:
Dogfen hanesyddol arall, meddylia Ifan; Chwefror 2020. Mae hyd yn oed Ifan yn gwybod beth ddigwyddodd i fudiadau’r Ffermwyr Ifanc a’r Urdd yn ystod 2020. Mi oedd Dat-cu yn wyllt gacwn am hynny nes iddo fynd i’w fedd, y clwb ffermwyr ifanc a’r aelwyd leol yn dod i ben o fewn tri mis i’w gilydd. Gwna search arall am ddogfen; dim byd. Degawdau o bolisi Llywodraeth Cymru ar gefn gwlad mewn dwy ddogfen gachu. Happy days. Mae Ifan yn dychwelyd at ei Lawlyfr a chychwynna ysgrifennu. Llawlyfr ar gyfer Cymunedau Gwledig – Pennod 1 (drafft) Un o’r dulliau o hyrwyddo cymunedau gwledig hyfyw fyddai sicrhau ymglymiad pobl ifanc yn nyfodol eu hardaloedd. Gellid sicrhau hyn drwy …drwy… drwy… ipyummdp5otey,i5y-.6 Mae Ifan yn stop teipio nonsens, ac edrych o amgylch ei swyddfa wen. Mae pawb yn syllu ar sgrin, yn deisyfu am i atebion ddod o’r feddalwedd, o’r rhyngrwyd, o bobman heblaw amdanyn nhw eu hunain. Teimla Ifan yn fethiant. Mae’n cau’r ddogfen unwaith yn rhagor. O’i flaen ar y sgrin mae yna lun stoc o haul gwyn yn gwawrio dros gaeau gwyrddion. Edrycha fel cip o freuddwydion Ifan pan oedd yn fachgen ifanc, ond mae’r llun difywyd hwn yn codi arswyd arno. Mae’n edrych mor annifyr o berffaith, yn codi cywilydd ar Ifan, yn ei wneud yn fwy rhwystredig am nad oes ganddo’r ateb. At: Dafydd Jones Ynglŷn â: Miliwn o siaradwyr Cymraeg Hiya Daf, Ble ti arni o ran sicrhau mwy o siaradwyr Cymraeg yng nghefn gwlad erbyn 2050? Meddwl efallai byddai’n syniad da imi wybod ar gyfer y strategaeth rwy wrthi’n datblygu. Diolch iti boi, Ifs p.s dal arnat ti beint i fi Mae Dafydd yn amlwg yn ateb yn syth, gan mai ateb e-byst yw ei unig waith: At: Ifan ap Gwynfor ap Madog ap Llywelyn Ynglŷn â: Miliwn o siaradwyr Cymraeg It’s not going too well to be honest. Welsh speaking targets are being exceeded in the cities, but a real problem in the rural areas. Not enough to keep Welsh speakers there. Get it done and then I’ll owe you a pint. Trwy lwc, mae Ifan wedi bod yn gweithio i Lywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn, ac yn gwybod bod pob adran yn hoffi bwrw’r bai ar ei gilydd. Sylweddola fod gêm rygbi ryngwladol yn cael ei chwarae heddiw, un o hoff ddyddiau Ifan am fod y ddinas yn llu o grysau cochion gwladgarol. Chwardda wrtho’i hun yn dawel cyn teipio’n gyflym …
Ddeudydd yn ddiweddarach, a dyma’r unig ddatrysiad sydd gan Ifan o hyd. Dydy e ddim yn teimlo ei fod wedi cyflawni dim byd, ac mae hynny’n wir. Bu’r ddeuddydd diwethaf yn hunllef i Ifan. Mae M&S wedi mynd i’r wal, neu a defnyddio gwell idiom, mae Percy Pig wedi mynd drwy’r siop. Golyga hyn fod hoff ready meals Ifan wedi diflannu a rhaid iddo ddarganfod ystod newydd o Shepherd’s pies a Pasta Bakes sy’n safonol. Nid oes yr un siop gystal ag M&S ond mae Waitrose yn ddigon agos. Yr unig broblem gyda hynny yw ei fod yn edrych fel snob dosbarth canol Cymraeg, a dydy e ddim am ildio i’r stereoteip. Er mwyn osgoi hyn mae’n rhoi tro ar Lasagne o Tesco, ond mae’n cael siom. Felly yn ôl i Waitrose yn incognito mewn sbectol haul a chap pig wedi’i wisgo’n isel. Mae ansawdd ei fwyd a’i fywyd yn gwella dros nos. Erbyn heddiw mae Ifan wedi dygymod â’i siom a’i sioc ynghylch M&S, ac mae ei feddwl ’nôl ar waith. Llawlyfr ar gyfer Cymunedau Gwledig – Pennod 1 (drafft) Un o’r dulliau o hyrwyddo cymunedau gwledig hyfyw fyddai sicrhau ymglymiad pobl ifanc yn nyfodol eu hardaloedd. Gellid sicrhau hyn drwy roi cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at eu cymunedau. Mae’n bwysig fod ganddynt fforymau i ddod at ei gilydd, i fwynhau yn y Gymraeg, i gymdeithasu ac i leisio barn. Argymhellir y dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi eto mewn grantiau sylweddol ar gyfer mudiadau ieuenctid holl-bwysig fel yr Urdd i ailgyflogi’r swyddogion datblygu lleol ac i fudiad y Ffermwyr Ifanc i ailafael yn y gwaith … Blydi hel Ifs, byddai dat-cu’n prowd, ti’n swnio fel rial professional … Mae Ifan yn dechrau cael blas ar ei waith yn awr ac yn awchu am ragor, yr un teimlad ag oedd yn ei gael ar ôl bwyta Fish Pie M&S ’slawer dydd. Mae’r blynyddoedd dwethaf wedi bod yn hesb o Fish Pie, ers i orbysgota ddod â hynny i stop. Gwnaeth hynny olygu fod cannoedd o bobl ar hyd arfordir y Gorllewin yn ddi-waith gan ddilyn pererindod gyfarwydd lawr yr M4 i Gaerdydd. Ac eithrio llond dwrn a arhosodd yn eu broydd gan fod hynny’n asgwrn cefn i’w ffordd o fyw. Dyna’r ateb. Does dim pwrpas buddsoddi mewn menter neu ddiwydiant os nad oes cymuned gref i gefnogi’r gweithwyr. Cymuned sy’n cynnig ffordd o fyw, bod bywyd yn fwy na gwaith, bod bywyd cymdeithasol a chariad at fro yn bwysig. Epiffani. A chyn pen dim mae drafft cyntaf y Strategaeth Goroesedd Cymunedol wedi ei lunio … At: Uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru Ynglŷn â: Strategaeth Goroesedd Cymunedol Annwyl Swyddogion, Atodaf ddrafft o bennod gyntaf y Strategaeth Goroesedd Cymunedol at eich sylw. Gwerthfawrogwn unrhyw adborth. Yn gywir, Ifan ap Gwynfor ap Madog ap Llywelyn Arhosa Ifan yn hunanfoddhaus, arhosa am y llu o ebyst a fydd yn ei longyfarch am gyfeiriad strategol i’w ganmol. Nawr mi fyddai dat-cu yn browd o hyn. Dechreua gynnal sgwrs ddychmygol â’i ddat-cu. ‘Ti wedi fy ngwneud i’n hen ddyn hapus iawn Ifan bach. Achub cefn gwlad, dyna gamp! Roedd hi bownd o fod yn sialens go fawr, ond dyma ti, arwr Cymru. Ti wedi dy dorri o’r un brethyn â Gwynfor Evans, Madog ab Owain Gwynedd a Llywelyn ein Llyw Olaf.’ Mae ei ddat-cu yn ei gofleidio’n wresog. Gwylia ei flwch e-bost am hydoedd, nes … At: Ifan ap Gwynfor ap Madog ap Llywelyn Ynglŷn â: Strategaeth Goroesedd Cymunedol Annwyl Ifan ap Gwynfor ap Madog ap Llywelyn, Diolch am y gwaith cychwynnol hwn. Yn anffodus, oherwydd diffyg gweithwyr mewn adrannau eraill oddi fewn i’r Llywodraeth bydd yn rhaid eich symud o’r gwaith hwn i adran Datblygu Economi’r De-Ddwyrain. Yn gywir, Haf Hughes Sylla Ifan yn gegrwth, ond heb ei synnu chwaith. Dyma’r chweched tro mewn pedwar mis iddo symud adran. Roedd hyn yn wir am bawb arall yn y Llywodraeth hefyd, y symud byth a beunydd. Mae Ifan yn dal yn gynddeiriog, mae’n dyrnu sgrin ei gyfrifiadur a gafaela yn ei got. Mae’n chwarter i bedwar; am adre. Cerdda am ei fflat, yn ddiamynedd a braidd yn flin. Roedd e wir wedi eisiau gwneud jobyn da, cael ei ddannedd i rywbeth, gwneud gwahaniaeth – ac roedd e wedi methu eto. Ystyria fynd i Glwb Ifor heno a chael cwpwl o beints ac anghofio’r cwbl. Byddai noswaith mas gyda’r bois yn gwella ei hwyliau, yn gwneud iddo gofio bod mwy i fywyd na gwaith. Ystyria ei fod yn rhy ifanc i ymdopi â phwysau mawr i achub cymunedau gwledig… byddai’n llesol iddo fynd allan heno. Cyrhaedda adre, a gyrra neges at Dafydd. Clwb Ifor amdani. Cydia yn ei ffôn a’i waled, a cherdded am y drws. Cydia yn allweddi’r drws ffrynt o’r bachyn, ac oeda Ifan am eiliad. Mae allweddi Tyddyn Llan yn diog orwedd ar y bachyn o hyd, ers angladd dat-cu, ac ers iddynt gau’r drws am y tro olaf ar y lle. Allweddi Tyddyn Llan, ei rodd yn ewyllys dat-cu. Gwawdia’r allweddi yn fethiant, ei wawdio am gau’r drws a throi cefn. Dychmyga Tyddyn Llan a’r cloddiau’n chwydu draen ar draws y lôn. Gwêl, yn instragram ei atgofion,haul y bore’n codi dros frig y bryniau. Cydia yn ei allweddi a cherdded am y drws. Llongyfarchiadau mawr i Twm am ennill â'r darn rhyddiaith hwn gystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Ryng-golegol 2020, a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Clicia fan hyn i ddarllen cerdd fuddugol y Gadair gan Heledd Owen.
|