Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
EIN HADRAN NI – DY ADRAN DIMae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn adran gartrefol ac eang iawn ei harbenigeddau. A hithau wedi ei sefydlu yn 1875, gwta dair blynedd ar ôl sefydlu'r coleg yn 1872, mae'n un o'r adrannau hynaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gyda'r mwyaf modern hefyd, a diddordebau ei staff yn rhychwantu pob maes a chyfnod yn hanes yr iaith, o'r Gododdin i ddatganiadau i'r wasg, o'r Wyddeleg i gyfieithu proffesiynol.
Beth bynnag yw dy ddiddordeb, mae gan yr Adran gwrs gradd ar dy gyfer di. Am fwy o wybodaeth, clicia ar y dolenni uchod.
|
Mae naws gartrefol iawn yn yr Adran. Mae symud i'r Brifysgol yn gam mawr, ond mae'n mynd yn llai unwaith rwyt ti yma yn Aber, gan fod pawb mor garedig a chyfeillgar. |
Sut i ddod o hyd i'r Adran
Mae croeso iti gysylltu â ni neu alw heibio am sgwrs
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Adeilad Parry-Williams Prifysgol Aberystwyth Ceredigion SY23 3AJ 01970 622137 [email protected] |