Sgwrs â'r athrawes a'r nofelydd, Siân Rees
|
Cafodd Sian Rees ei magu yn ardal y Rhyl yng Ngogledd Cymru; dyma oedd ardal enedigol ei thad. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Dewi Sant, yna yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd a chael gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu’n gweithio fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd cyn penderfynu cael seibiant o weithio er mwyn magu ei phlant. Yn 1992 penderfynodd fynd yn ôl i weithio, a bu’n athrawes Gymraeg yn Ysgol y Creuddyn hyd nes iddi ymddeol yn 2012.
I ddechrau, diolch am y cyfle i gael gofyn ychydig o gwestiynau i chi. Beth a’ch ysbrydolodd i ysgrifennu’r nofel Hafan Deg? Mae’r ffaith fod fy nhad yn ddi-Gymraeg a bod y Gymraeg wedi ei cholli yn nheulu fy nhad wedi fy niddori ers blynyddoedd ac roedd hyn yn elfen bwysig roeddwn i’n ceisio ei chyfleu pan es i ati i ysgrifennu’r nofel. Fy mhrif ysbrydoliaeth fodd bynnag oedd hanes fy nhaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd fy nhaid o gymoedd de Cymru ac nid oedd y Gymraeg yn cael ei siarad ar aelwydydd yn yr ardal. Wrth ymchwilio mi wnes i ddarganfod bod fy nhaid yn un o’r miloedd o filwyr a ddaeth i’r Rhyl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd dyma lle’r oedd y dynion yn cael eu hyfforddi. Yn ystod ei amser yn y Rhyl mi wnaeth gyfarfod Cymraes, sef fy nain, a chyn iddo fynd i ymladd ar ddiwedd 1915 roeddent wedi priodi. Goroesodd fy nhaid y rhyfel a daeth yn ôl i’r Rhyl i fyw a dyna lle’r oedd am weddill ei oes. Dydw i ddim yn meddwl ei fod wedi dychwelyd i dde Cymru wedi hynny. Yn eich tyb chi, beth yw prif themâu y nofel? Nid oes un thema yn sefyll allan yn fwy na’r llall ond mae cariad yn sicr yn un thema bwysig: y cariad sydd rhwng Bertie fy nhaid a Florie fy nain. Thema arall yw rhyfel ac mae gwrthdaro i’w weld mewn sawl agwedd wahanol. Gwrthdaro rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, rhwng Bertie a’i deulu pan oedd yn tyfu i fyny oherwydd bod ei gefndir yn eithaf cymhleth tra oedd yn byw yn y De. Plentyn wedi ei fabwysiadu oedd o ac felly nid oedd yn gwybod dim am gefndir ei fam. Fe ailbriododd ei dad wedi iddo golli ei lysfam gyntaf, ac felly mewn ffordd fe gafodd dair mam. Roedd hyn i gyd mae’n debyg yn un o’r rhesymau pam nad oedd yn teimlo’r angen i ddychwelyd i’r de. Roeddwn i eisiau dangos tref y Rhyl mewn golau gwahanol i’r dref ddifreintiedig fel mae pobl yn ei hystyried hi erbyn hyn oherwydd yn y cyfnod pan oedd fy nhaid yn byw yno roedd y dref yn rhywle llewyrchus, roedd awyr iach yno ac roedd mynyddoedd yn y pellter. Hefyd, roeddwn eisiau mawrygu’r milwr cyffredin anniwylliedig ac roeddwn hefyd eisiau dangos sut mae modd i iaith ddiflannu fel iaith gartref dros gyfnod o flynyddoedd. A oes arwyddocâd penodol i’r teitl Hafan Deg? Oes, hen arwyddair tre’r Rhyl oedd ‘Hafan Deg ar Fin y Don’ a ’dw i’n teimlo bod y Rhyl wedi bod yn hafan deg i fy nhaid gan fod ei fagwraeth wedi bod mor galed. Roedd yn gweithio yn y pyllau glo pan oedd yn byw yn y Cymoedd ac felly efallai bod fy nhaid wedi penderfynu mynd i’r rhyfel fel dihangfa o’r pyllau glo. Roedd y Rhyl fel nefoedd ar y ddaear ’dw i’n siŵr gan fod amodau mor wael yn y pyllau glo a’r gwaith mor galed i’r gweithwyr. Yn sicr, cafodd fod yn rhan o deulu cyflawn pan oedd yn byw yn y Rhyl. A ydi’r tensiynau ieithyddol yn y nofel yn adlewyrchu eich magwraeth chi? Er bod fy nhad yn ddi-Gymraeg nid oedd tensiynau yn fy magwraeth i. Roedd yn dod yn hollol naturiol i ni ein bod yn siarad Cymraeg efo’n mam a Chymraeg efo’n tad. Ond efallai pan gyrhaeddodd fy nhaid y Rhyl ar y dechrau, gallaf ddychmygu bod tipyn o densiwn wedi bod. Yn y cyfnod hwnnw mi fyddai’r teulu oll yn byw yn yr un cartref gan gynnwys Nain aTaid ac felly efallai bod hyn wedi bod yn dipyn o fraw iddo ef ac i’r teulu. Roedd yn rhaid iddynt newid i siarad Cymraeg ac felly rwy’n siŵr bod tensiynau wedi bod. Rydw i wedi ceisio adlewyrchu rhai o’r tensiynau yma yn y nofel. ’Dw i’n cofio fy nhad yn dweud wrthyf, pan oedd o’n blentyn mai iaith cyfrinachau oedd y Gymraeg ac mi fyddai’r oedolion yn newid i siarad Cymraeg er mwyn i’r plant beidio â deall beth oedd yn cael ei drafod. Beth sydd wedi ennyn cymaint o ddiddordeb ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf? Y ffaith bod fy nhaid wedi bod yno ac wedi dychwelyd i Gymru yn fyw. Allan o bob pedwar milwr a oedd yn mynd allan i ymladd, roedd dau yn cael eu lladd, un yn cael ei glwyfo ac roedd un yn dod adref yn fyw. Mae’n debyg, petai fy nhaid heb fod yn ymladd ni fyddwn wedi cymryd cymaint o ddiddordeb ond gan fod gennyf gysylltiad uniongyrchol roedd hyn yn atyniad cryf i mi ddarganfod mwy am ei hanes. Mi es i efo’r teulu rai blynyddoedd yn ôl bellach i ymweld â’r mynwentydd ac fe ddangosodd hyn i mi faint o ddinistr oedd wedi digwydd. Er mwyn ysgrifennu’r nofel hon mae’n rhaid bod llawer o ymchwil wedi cael ei wneud. A oedd darganfod yr wybodaeth a gwneud yr ymchwil yn anodd? Nid anodd oedd y broses, ond araf. Er mwyn ysgrifennu nofel mae’n rhaid casglu’r wybodaeth a darllen digon am y pwnc. Mi wnes i ddarganfod bod fy nhaid wedi bod yn ymladd yn yr un rhyfel â Hedd Wyn ac mi wnes i ddarganfod ei rif fel milwr. A fyddech chi’n ystyried ysgrifennu nofel i blant yn y dyfodol? Baswn. Rydw i wedi ysgrifennu ychydig o straeon ar gyfer plant yn y gorffennol. Mi wnes i ychydig o waith sgriptio ar gyfer cyfres deledu Ffalabalamyn yr 80au. Pan oeddwn yn dysgu roedd yn rhaid i mi wneud tipyn o daflenni gwaith ac ati ac felly mae’n rhywbeth na fedraf i beidio â’i wneud. |