Sgwrs â'r cynhyrchydd rhaglenni Gary Pritchard
|
Cafodd Gary Pritchard ei fagu yn Lerpwl gan fod ei fam a’i dad, fel cannoedd o Gymry eraill yn ystod y 1960au, wedi symud i’r ddinas er mwyn sicrhau gwaith. Cafodd ei eni ym Mangor wedi i’w fam ddod i aros yn nhŷ ei nain yn y Felinheli er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei eni ar yr ochr gywir i Glawdd Offa! Yng nghanol y 1970au symudodd ei deulu yn ôl i Sir Fôn, lle bu ei dad yn gweithio fel plismon. Ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Bodedern bu yn Bradford yn astudio i fod yn optegydd ond, ar ôl iddo ddod adref i Gaergybi a chael cyfle i wneud rhywfaint o waith llawrydd i BBC Radio Cymru fel sylwebydd pêl-droed, penderfynodd adael ei swydd fel optegydd a cheisio am swydd fel ymchwilydd gyda Radio Cymru. Er mai pêl-droed yw ei gariad cyntaf, mae ganddo atgofion melys iawn am frwydrau chwaraeon y gorffennol; Björn Borg v. John McEnroe yn Wimbledon, Seb Coe v. Steve Ovett ar y trac athletau, Greg LeMond v. Bernard Hinault yn y Tour de France ac Alain Prost v. Ayrton Senna yn eu ceir Fformiwla 1. Wedi dwy flynedd o weithio fel ymchwilydd ar raglenni cyffredinol Radio Cymru, cafodd ei swydd ddelfrydol fel gohebydd chwaraeon gyda gwasanaeth ar lein BBC Cymru. Yn ogystal ag ysgrifennu adroddiadau ar gyfer y wefan roedd yn parhau i sylwebu ac i ohebu ar bob math o gampau i’r adran chwaraeon hyd nes iddo symud o’r BBC i weithio gyda chwmni teledu annibynnol Rondo yng Nghaernarfon fel rhan o dîm Sgorio. Mae bellach yn cynhyrchu rhaglenni byw pêl-droed Sgorio yn ogystal â chynhyrchu’r rhaglen gylchgrawn chwaraeon Clwb2 ar S4C.
Disgrifiwch eich profiad dros gyfnod yr Ewros mewn tri gair. Emosiynol, syfrdanol, bythgofiadwy – er mae’n siŵr y dylai ‘drud’ fod yna’n rhywle hefyd! A oeddech chi wedi dychmygu bod yno mor hir? Mae ’na griw ohonom sy’n ffrindiau ers blynyddoedd maith yn teithio’r byd er mwyn gwylio Cymru’n colli! Gan ein bod ni i gyd gyda’n gilydd yn Ffrainc roeddemwedi penderfynu llogi abbaye ger Bordeauxam gyfnod y gemau grŵp ar ein cyfer ni a’n teuluoedd, felly roedd ’na 23 ohonom mewn tŷ moethus anferthol wedi cyffroi’n lân wrth i ni baratoi i wynebu Slofacia yn y gêm agoriadol! Yn amlwg, gan nad oeddem ag unrhyw syniad lle byddai Cymru’n chwarae petaem ni’n ddigon ffodus i fynd drwy’r grwpiau, roedd gweddill ein cynlluniau yn amwys a dweud y lleiaf! Beth oedd uchafbwynt y daith a pham? Mae’n rhaid cyfaddef ei bod yn anodd dewis uchafbwynt. Roedd y gêm gyntaf yn erbyn Slofacia yn fythgofiadwy. Roedd y dagrau’n powlio i lawr fy mochau wrth i ni gydganu’r anthem. Yna daeth gôl Gareth Bale. Gôl Hal Robson-Kanu. Gôl Bale yn erbyn y Saeson. Tair gôl yn erbyn Rwsia. Canu hwiangerddi i ohebydd teledu o China yng nghanol Paris – ond mae’n siŵr mai’r foment fydd yn aros gyda mi hyd Ddydd y Farn yw’r eiliad y sgoriodd Sam Vokes y drydedd gôl yn erbyn Gwlad Belg a sicrhau ein lle yn y rownd gynderfynol. Oes yna un gôl benodol yn aros yn y cof, a pham? Roedd dathliadau’r Cymry ar gyfer pob un o’r goliau yn hollol wallgof! Roedd y gôl gyntaf yn erbyn Slofacia yn arbennig gan mai hon oedd y gôl a oedd yn dweud ‘’Da ni yma!’ Ond gan mai gôl Vokes yn erbyn Gwlad Belg oedd fy uchafbwynt, mae’n siŵr y dylwn ei dewis fel y gôl fwyaf cofiadwy – er mai gôl Robson-Kanu sy’n cael ei chlodfori gan y byd a’r betws! A lwyddodd Cymru i gyflawni’r hyn yr oeddech wedi ei obeithio? Ar ddechrau’r grŵp byddwn i wedi bod yn hapus gydag un fuddugoliaeth a bod Cymru yn dod adref heb wneud smonach o bethau! Roeddwn i’n dawel bach yn ffyddiog ein bod ni â’r gallu i gamu heibio i’r grŵp ond, wrth gwrs, doedd neb yn ei iawn bwyll wedi darogan yr hyn a ddigwyddodd! Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu llyfr am yr Euros, a pha ran o gyhoeddi’r llyfr y gwnaethoch ei fwynhau fwyaf? Roeddwn i yn benderfynol o geisio rhoi rhywbeth ar gof a chadw o’n hamser yn Ffrainc ond doedd gen i ddim syniad beth roeddwn eisiau ei wneud. Gofynnais i weddill y criw o ffrindiau am eu lluniau er mwyn dewis y goreuon ohonynt ar gyfer creu colâj anferthol ar gyfer y tŷ ond, ar ôl dechrau pori drwy’r lluniau, fe ddaeth yn amlwg nad oedd stori’r cefnogwyr wedi ei gofnodi – a pha ffordd well i wneud hynny na thrwy eu lluniau personol? Wedi gwneud cais cyhoeddus am luniau, roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael ail-fyw’r cyfnod cyfan drwy lygaid cefnogwyr eraill wrth i mi ddewis a dethol y rhai fyddai’n cael eu cynnwys yn y llyfr. Beth ydych chi’n meddwl ydy’r gobeithion i Gymru yng Nghwpan y Byd 2018? Er nad yw Cymru wedi colli gêm yn ystod y gemau rhagbrofol, roedd y gêm gyfartal gartref yn erbyn Georgia yn siom fawr ac yn ergyd i’n gobeithion gan fod y grŵp mor dynn. Mae Iwerddon, Serbia, Cymru ac Awstria yn gymharol debyg o ran safon ac mae gan bob un y gallu i gymryd pwyntiau oddi ar ei gilydd. Er mwyn cadw’n gobeithion o gyrraedd Rwsia yn 2018 yn fyw, mae’n rhaid trechu’r Gwyddelod yn Nulyn ym mis Mawrth. Ydych chi yn credu fod dylanwad Gary Speed wedi meithrin y tîm o ran yr hyn y maent wedi ei gyflawni erbyn heddiw? Mae dylanwad Gary Speed wedi bod yn hollbwysig i ddatblygiad y garfan arbennig yma o chwaraewyr. Speed roddodd y sylfaen broffesiynol yn ei lle y tu ôl i’r llenni gan sicrhau’r adnoddau ac awyrgylch gorau posib i’r garfan genedlaethol. Arweiniad Speed roddodd yr hyder i’r chwaraewyr gymryd y cam cyntaf ar y daith i’r Euros ond tra bod rhaid talu teyrnged i Speed a chofio’r rhan allweddol a chwaraeodd wrth osod y sylfaen hollbwysig yma, byddai’n annheg i hynny gysgodi gwaith caled ac arweinad Chris Coleman. |