Lleisiau Cu Cwm Celyn
|
Tu ôl i’r llyn a’r argae
Bu llawer teulu tlawd, Yn rhythu ar beiriannau Yn corddi tir fy mrawd; Er rhybudd sawl oedolyn Fu’n wylwyr ar y tŵr, Adleisiau cu Cwm Celyn Sy’n boddi dan y dŵr. Pan fyddo gwaed yn berwi Gwrthryfel yn y gwynt, A boddi ein haceri Er elw budur bunt, Pan dyrr y dant ar delyn Cyndeidiau yn y stŵr, Â lleisiau cu Cwm Celyn Yn ddistaw dan y dŵr. Ond pan fo’r llyn yn wenfflam A machlud fflam yn llwm, A’r dydd yn tawel riddfan Ar ysgwydd bell y cwm; Hen leisiau pêr sy’n erfyn – Mi wn yn eithaf siŵr Bydd lleisiau cu Cwm Celyn I’w clywed dan y dŵr. O! cenwch, utgyrn gobaith, Ar waelod llaith y lli; Daw oriau bore perffaith, Yn sŵn y gân i mi; Hyd fedd, mi gofia’r dyffryn Ar lawer nos ddi-stŵr, A lleisiau cu Cwm Celyn Yn corddi dan y dŵr. |