Adolygiad: Y Bwthyn gan Caryl Lewis
|
Fis Rhagfyr, trefnwyd Noson Llên a Chân gan fyfyrwyr Cymraeg Proffesiynol y flwyddyn gyntaf. Daeth Caryl Lewis atom i drafod ei nofel newydd, Y Bwthyn. Dyma ymateb Anest ar ôl cael cyfle i holi’r awdur.
Tri chymeriad amlwg sydd yn y nofel hon, sef Enoch, Isaac ac Owen. Nofel sy’n dangos dawn dalentog Caryl Lewis i ddefnyddio arddull ddisgrifiadol er mwyn creu darluniau byw o gefn gwlad Cymru. Teimlaf fod ei disgrifiadau o’r mynydd yn arbennig o dda ac yn wir mae’r mynydd bron fel cymeriad arall yn y nofel. Stori syml wedi ei lleoli ar fferm fynydd sydd yma. Mae Enoch wedi colli ei wraig ac mae’n amlwg bod hyn wedi effeithio arno ef a’i fab Isaac. Gwelwn o’r dechrau nad oes perthynas rhwng Enoch ac Isaac a daw’n amlwg mai’r fam a oedd yn tynnu’r ddau at ei gilydd. Nid yw Owen yn ymddangos tan yn hwyrach yn y nofel. Mae’n symud i’r bwthyn er mwyn cael ‘rhyddid a thawelwch’ i ysgrifennu nofel. Nid oedd Owen wedi cael dim byd i’w yfed nac i’w fwyta ers oriau. Pan mae’n cyrraedd y bwthyn, mae’n gorwedd i lawr ac Enoch sy’n ei ddarganfod ac yn edrych ar ei ôl. Mae Owen yn iau ac wrth i amser fynd heibio mae’n helpu mwy a mwy ar y fferm sy’n ei wneud yn fygythiad i Isaac. Ai poeni bod Enoch am adael y fferm i Owen y mae Isaac? Credaf fod arddull y nofel yn effeithiol, gan fod cymaint o benodau byrion ynddi mae’n ei gwneud yn rhwydd i’w darllen. Mae’r awdures yn defnyddio technegau hynod effeithiol ar ddiwedd y nofel er mwyn adeiladu tensiwn. Er hyn, teimlaf fod sawl pennod yng nghanol y nofel ychydig yn ddibwrpas. Thema amlwg yw amaethyddiaeth ond dan yr wyneb cawn sawl thema arall. Gwelwn wrthdaro rhwng cymeriadau yn gyson ond hefyd fe welwn y syniad o gyd-ddibyniaeth yn y gymdeithas gan fod y ffermwyr i gyd yn helpu ei gilydd. Ceir defnydd o dafodiaith a chredaf drwy nodi enwau’r mynyddoedd a’r caeau fod yr awdures yn mynd i gadw cofnod ohonynt ar bapur. Wrth ddarllen y nofel roedd y syniad o sgwarnog i mi ychydig yn ddryslyd, dim ond Owen a oedd yn ei gweld. Mae’n amlwg fod pwysigrwydd mawr iddi gan mai llun o sgwarnog sydd ar y clawr, ond fe hoffwn petai’r awdures wedi gallu egluro’r syniad yma yn y nofel. Yn sicr mae’r nofel hon yn rymus ac yn dangos bod cymdeithasau cefn gwlad Cymru yn newid a bod angen eu diogelu. Drwy ddefnyddio arddull grefftus a’u clymu â themâu gwahanol mae’r awdures yn cyfleu ei neges. |