Limrigau
|
Eleni mae pethau’n wahanol,
Dim gigs na’r un gân, ond rhai rhithiol. Maddeuwch y rheg, Ond tydi o’m yn deg, Mae miloedd mewn gêm blydi ffwtbol. Un diwrnod aeth Boris i fentro Rhoi’i drôns am ei ben fel sombrero. Ond wyddoch chi be? Doedd dim byd o’i le. ’Run peth yw ei ben a’i ben ôl o. Un noson fe welais ryfeddod, Darlithwyr Cymraeg yn eu meddwdod. Yn edrych yn ddoeth, Wrth gerdded yn noeth ’Rhyd prom Aberystwyth mewn cawod. “Bob diwrnod, fe gadwaf yn heini,” Oedd geiriau f’addewid i ’leni. Ond wyddoch chi be? Gwell paned o de Ac eistedd mewn hedd o flaen teli. |