Sgwrs â Cadi Dafydd, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn yr Adran
|
Mae Cadi Dafydd yn fyfyrwraig yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Hanes a Llên Cymru. Mynychodd Cadi ysgol Uwchradd Y Moelwyn cyn symud i’r chweched dosbarth yn ysgol Y Berwyn. Fe gafodd ei magu yn Llan Ffestiniog ac yn ferch i berchennog siop lyfrau yr Hen Bost. Mae ei magwraeth mewn siop lyfrau wedi dylanwadu llawer ar ei diddordebau. Mae hi’n mwynhau darllen, dysgu am hanes ac ysgrifennu. Cafodd Cadi lwyddiant wrth ysgrifennu yn ddiweddar wrth ddod yn fuddugol mewn Stomp farddol Ryng-golegol.
Sut brofiad oedd cael dy fagu mewn siop lyfrau? Gan fy mod wedi cael fy magu mwy neu lai mewn siop lyfrau mae’n hollol naturiol bod gennyf ddiddordeb mewn llenyddiaeth a llyfrau. Roeddwn dan ddylanwad llyfrau ers y cychwyn cyntaf, ac nid werthfawrogais hynny tan yn ddiweddar. O’r cychwyn cyntaf roeddwn yn treulio f’amser sbâr yn helpu mam yn y siop, ac wrth fy modd yn siarad efo hwn a llall. Dros y blynyddoedd fe gefais y cyfle i ddod i adnabod sawl cymeriad diddorol, rhai o ardal Blaenau a rhai o ffwrdd, ond un o’r rhai difyrraf oedd Gerallt Lloyd Owen. Mae diolch iddo ef am fagu diddordeb y teulu mewn llyfrau, gan iddo ef a Taid ddechrau gwerthu llyfrau ail law mewn Eisteddfodau yn ôl yn y 70au. Ar y pryd, roedd yn athro ar Mam a sbardunodd ei diddordeb hithau mewn llenyddiaeth. Tua 30 mlynedd yn ôl prynodd Mam Siop lyfrau’r Hen Bost, ac ers hynny bu’n gwerthu llyfrau newydd ac ail law, Cymraeg a Saesneg yno. Drwy gyfeillgarwch y teulu â Gerallt Lloyd Owen a thrwy’r siop cefais y fraint o’i adnabod, a gan ein bod yn rhannu pen-blwydd roeddem yn gyrru cerdyn gan y naill i’r llall bob yn ail flwyddyn am gyfnod o’m plentyndod. Oes yna gyfle i ddienyg o’r siop ar adegau? Mynd i’r Eisteddfod efallai? Mae’r profiad o fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol gyda stondin lyfrau yn brofiad cwbl wahanol i fynd hebddi. Er gwaethaf y ffaith ei bod yn wythnos hynod brysur a llawn gwaith caled, mae’n wythnos yr ydw i a’r teulu’n mwynhau’n arw. Dwi’n ofni y byddaf fel Taid, sydd yn 87 ac yn mynnu treulio diwrnod neu ddau ar y stondin yn ‘Steddfod, pan fyddaf yn hŷn! Mae’n debyg ei bod yn anodd troi cefn ar rywbeth sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o fywyd ac wedi dod â chymaint o bleser. Beth ysbardunodd chdi i astudio gradd mewn Cymraeg? Mae’n debyg fod yr ateb i’r cwestiwn yn weddol amlwg a fy mod wedi ei ateb eisoes, ond yn syml, penderfynais astudio Hanes a Llenyddiaeth Cymru gan fod gennyf ddiddordeb mawr yn y ddau beth hynny. Dwi’n tueddu i hoffi llenyddiaeth, yn enwedig chwedloniaeth, yn fwy nag agweddau ieithyddol, ond mae gennyf ddiddordeb mewn ysgrifennu fy hun hefyd. Er, mae’r rhan fwyaf o’r pethau dwi’n ysgrifennu yn bethau i mi’n hun, nid pethau cyhoeddus- heblaw am y Stomp Ryng-golegol eleni. Fy niddordeb arall yw hanes, a hanes Cymru’n benodol, a dwi’n cael dyddiau pan mae’n well gen i Gymraeg a dyddiau eraill pan mae’n well gen i Hanes. Lle wyt ti’n gweld dy hun ar ôl graddio, ac yn y dyfodol? I ddweud yn blwmp ac yn blaen does genai ddim un syniad pendant. Ma ‘na gymaint o bethau yr hoffwn wneud. Dros yr haf bûm yn gwirfoddoli yn Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd. Cefais y cyfle i dywys ymwelwyr o amgylch y cartref gan adrodd hanes Hedd Wyn a’i deulu, a thrwy hynny cyfunwyd fy nau ddiddordeb - hanes a barddoniaeth. Roedd yn brofiad mor werthfawr ac yn rhoi’r cyfle i mi fagu hyder a dysgu a sgwrsio efo bobl o bob cwr o’r byd- rhai a oedd yn gwybod yr hanes lawer gwell na mi ac eraill a oedd ond wedi clywed yr enw Hedd Wyn. Beth yw dy hoff stori i'w hadrodd, felly? Un o’r straeon difyrraf am y teulu, ac un nad oes llawer o bobl yn gwybod, yw bod tair o chwiorydd Hedd Wyn wedi mynd i Goleg Amaethyddol Madryn ym Mhen Llŷn yn ystod y rhyfel. Wrth gwrs, mae cymaint o sôn am Hedd Wyn a hynny’n hollol haeddiannol, ond mae hanes gweddill y teulu llawn diddorol. Felly, mae’n ymddangos i mi mai ym myd Hanes yr wyt ti eisiau gweithio? Hoffwn weithio mewn safle hanesyddol o’r fath, ond anodd yw anghofio am lên a’r awydd sydd gen i i ‘sgwennu. Anodd hefyd yw meddwl am gau’r siop lyfrau. I ddechrau does geni ddim syniad be fuaswn yn ei wneud â’r ‘stafelloedd ar ‘stafelloedd o lyfrau sydd acw. Ond yn fwy na hynny mae’n rhyfedd meddwl am amser heb y siop lyfrau. Beth bynnag a benderfynaf wneud dydw i ddim yn debygol o benderfynu’n fuan! Yn fwy na dim yr hyn obeithiaf wneud yw parhau i ddysgu, boed am hanes neu am lên. |