Sgwrs â'r dramodydd Hefin Robinson
|
Daw’r dramodydd, Hefin Robinson, yn wreiddiol o Langynnwr ger Caerfyrddin. Daeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Drama ar ôl derbyn ei addysg gynnar yn Ysgol y Dderwen ac yn Ysgol Bro Myrddin. Treuliodd amser yn Stratford-upon-Avon yn gweithio gyda’r Royal Shakespeare Company a bu’n byw yn Llundain am gyfnod yn astudio gwaith Shakespeare ymhellach yn LAMDA. Bellach, mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn parhau â’i waith ysgrifennu a theatr yng Nghanolfan y Mileniwm. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016 am ei ddrama ‘Estron’, wedi iddo ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth yn 2014 ac yn ail yn 2015.
Disgrifia dy hun mewn tri gair. Positif. Creadigol. Annisgwyl. Sut dechreuodd dy ddiddordeb mewn ysgrifennu? Daeth y trobwynt yn ystod fy amser yn y chweched dosbarth yn Ysgol Bro Myrddin, diolch i athrawon yr Adran Gymraeg, yn arbennig Llinos Jones ac Enfys Davies. Nhw oedd y ddwy a roddodd yr hyder i mi arbrofi yn fy steil fy hun. Roedd fel petai byd newydd wedi ei ryddhau yn fy mhen a’r holl syniadau lliwgar, gwahanol ac od yn cael llais am y tro cyntaf! A oes gen ti hoff awdur neu rywun penodol sydd wedi dylanwadu ar dy waith? Mi fyddai angen tudalennau ar dudalennau er mwyn gallu rhestru pob un o fy nylanwadau! Yn gyffredinol, dramodwyr sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnaf. Shakespeare, Samuel Beckett, Harold Pinter – nhw i fi sydd wedi gosod y sylfaen yn y byd theatr. Yn yr iaith Gymraeg fe gafodd Gwenlyn Parry argraff fawr arnaf am yr un rheswm. Sut deimlad oedd dod i’r brig yng nghystadleuath y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau y llynedd, wedi iti ddod yn drydydd yn 2014 ac yn ail yn 2015? Yn fy nghyfweliad cyntaf ar ôl y seremoni, y gair ddaeth o ’mhen oedd ‘boncyrs’ – sydd ddim yn ofnadwy o eisteddfodol! Ond mae’n air perffaith i ddisgrifio’r teimlad. Mae sefyll ar ganiad yr utgorn ac eistedd yn y gadair yn y pafiliwn yn rhan mor eiconig o’n diwylliant fel bod cael gwneud y peth o ddifrif yn teimlo fel breuddwyd. Roedd hi’n anrhydedd enfawr cael bod yn rhan o linach y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n teimlo fel bod yn rhan (fach iawn!) o hanes. Hoffaf y ffaith hefyd fy mod wedi gweithio tuag at ennill y Fedal drwy ddod yn drydydd ac wedyn yn ail cyn cipio’r wobr. Teimlaf fod hynny’n dangos datblygiad naturiol yn fy ngwaith ac yn adlewyrchiad o sut y gall beirniadaeth ac adborth helpu i ddatblygu dramodydd ifanc. A oes digon o gyfleoedd i ddramodwyr ifanc yng Nghymru arfer eu crefft? Yn syml, na. Ond gallai pethau fod yn waeth! Mae yna ambell brosiect i ddramodwyr ifanc allan yno – mae Cwmni’r Frân Wen wedi cynnal y cynllun ‘Sgript i Lwyfan’ dros y blynyddoedd diwethaf sydd yn addawol iawn, ac mae’r Sherman yng Nghaerdydd yn gwneud ambell beth hefyd – ond diferion bychain ydynt mewn môr eithaf llwm. Yn yr un ffordd, oni bai am gystadleuaeth y Fedal Ddrama yn yr Urdd a’r Genedlaethol, does yna fawr ddim o gyfleoedd i anfon gwaith ysgrifennu newydd i mewn er mwyn cael darlleniad neu adborth. Mewn cymhariaeth, mae’r byd theatr iaith Saesneg yn cynnig cyfleoedd di-ri i ddramodwyr newydd ac mae bodolaeth theatrau fel y Royal Court yn Llundain yn sicrhau dyfodol disglair o leisiau ffres a gwaith theatr newydd sbon. Hoffwn weld mwy o gyfleoedd sy’n annog pobl i ysgrifennu yn y Gymraeg. A fedri di esbonio pa fath o syniadau sy’n cael eu trafod yn y ddrama ‘Estron’? Mae’r teitl yn arwyddocaol iawn o ran prif thema’r ddrama. Y teimlad o deimlo’n estron yn y byd. Ar goll. Unig. Awgryma hefyd yr ‘estron’ sy’n gyfarwydd i ni mewn gweithiau ffuglen gwyddonias. Mae’r ddrama yn adrodd stori drwy lygaid y prif gymeriad ac o ganlyniad yn neidio’n gyflym ac yn gymysglyd drwy’r golygfeydd. Mae’r cyfan wedi’i ysgrifennu er mwyn dangos stad feddyliol y prif gymeriad ac felly mae’r ffin rhwng ffuglen a realiti yn ansicr ar adegau. Stori ydyw amdanom fel dynolryw. Mae’n cymysgu profiad domestig personol gydag elfen o wyddonias o fewn cyd-destun ein bydysawd enfawr, diderfyn. A oes arwyddocâd i’r ffugenw ‘Thomas Jerome Newton’? Cymeriad o’r nofel ‘The Man Who Fell to Earth’ gan Walter Tevis yw Thomas Jerome Newton. Cymeriad ydyw o blaned arall sydd yn glanio ar ein daear ni ac yn profi bywyd dynol ar y blaned o safbwynt estronwr. Roedd sefyllfa Thomas Newton yn y nofel o deimlo’n estron yn teimlo’n debyg mewn ffordd i brofiadau prif gymeriad y ddrama. Mae hi hefyd yn arwyddocaol mai David Bowie oedd yn gyfrifol am bortreadu Thomas Jerome Newton yn addasiad ffilm ‘The Man Who Fell to Earth’ gan fod ei gerddoriaeth yn rhedeg drwy’r ddrama. Sut wyt ti’n mynd ati i ysgrifennu? Rydw i’n casáu cynllunio ac felly yn dueddol o neidio’n syth i mewn i’r ysgrifennu. Y cymeriadau sydd yn dod yn gyntaf fel arfer ac felly rydw i’n dueddol o adael iddynt lywio’r daith. Hoffaf syniad yr annisgwyl, a chadw’r gynulleidfa ar y droed ôl fel nad ydynt yn hollol siŵr beth sydd ar fin digwydd nesaf. Mae’r broses o ysgrifennu heb fawr o gynllunio o ran plot ag ati yn helpu hynny’n fawr. Rydw i’n ysgrifennu’n well mewn tawelwch, ar fy mhen fy hun, ar gyfrifiadur gyda chwpanaid o de wrth fy ochr! Beth wyt ti’n mwynhau ei wneud yn dy amser hamdden? Rydw i wrth fy modd yn mynd i’r theatr, ac fel rhywun sydd yn ysgrifennu o fewn y byd hynny, teimlaf ei bod hi’n bwysig gweld amrywiaeth mor eang â phosib er mwyn cadw i fyny gyda’r hyn sy’n digwydd yn y diwydiant heddiw. Tu allan i theatr ac ysgrifennu, rydw i’n bianydd ac yn mwynhau cyfansoddi – dyma fy hoff ffordd o ymlacio. Rydw i’n ddarllenwr brwd, yn mwynhau arlunio, cerddoriaeth, ffilm a mynd allan i gerdded ym myd natur. Beth yw dy darged di fel dramodydd? Fel dramodydd rydw i eisiau creu argraff. Rydw i eisiau i bobl adael y theatr wedi teimlo rhyw emosiwn neu gynnwrf, boed hynny’n chwerthin neu grïo neu gasineb eithafol tuag at y gwaith! Does dim yn waeth na darn o theatr sydd yn magu cynulleidfa oddefol heb unrhyw ymateb at y gwaith. Beth oedd y cyngor gorau a gefaist erioed? ‘Always look on the bright side of life’ – Monty Python. |