Nosi
|
Tawela’r dre
wedi i draffig-gadael-gwaith glirio. Roedd hi’n nosi – yn fuan, a hithau’n dal yn aeaf. Roedd hi’n oeri – yn naturiol, a hithau’n dal yn aeaf. Caewyd y siopau oedd ar ôl ar y stryd fawr un wrth un, eu drysau yn gôr o glepio, ac am ennyd roedd y dref yn dawel. Heblaw am y ceir yn y cefndir, a sŵn y gwynt, ac ambell wylan styfnig. Tarfwyd ar y dre. Roedd hi’n rhy hwyr i draffig. Roedd hi’n nos – ond ddim yn rhy hwyr i’r rhain. Roedd hi’n oer – ond ddim yn rhy oer i’r rhain. Agorodd y tafarndai oedd ar ôl yn y strydoedd cefn un wrth un, eu drysau dan ofal dynion, ac am ennyd roedd y dref yn feichus o fyw, yn llawn cyffro a checru a sŵn gweiddi, ac ambell wylan styfnig. |